
Dw i wastad yn siomedig pan mae siaradwyr Cymraeg yn cau proffiliau nhw.
Dw i dal yn casglu cofrestr o proffiliau Cymraeg. Ewch i’r gofrestr a darllena pobol eraill sy’n rhannu pethau. Diolch iddyn nhw. Dyn ni’n adeiladu’r rhwydwaith Cymraeg person wrth berson.
Mae Twitter yn gweithio yn dda pan ti’n agor dy broffil i bobol eraill a chwilio. Ti’n gallu gofyn cwestiynau, addysgu pobol eraill, dylanwadu pobol eraill, helpu dysgwr efallai. Mae pobol yn gallu nabod dy ddiddordebau a chynnig gwaith, swyddi a phethau diddorol.
Mae’r ymgyrch yn dechrau yma! Agora dy broffil. Pam lai?
Bydd yn dipyn gofalus gyda phethau ti’n postio. Mae pawb yn gallu darllen nhw. Dyna’r pwynt. Ond fydd pawb ddim yn darllen nhw rili. Dylet ti ddeall geotagging os ti’n defnyddio ffôn.
Agora dy broffil! (Ewch i Settings, cliria “protect my tweets”. Bocs gwag. Diolch.)
Neu os ti eisiau cael proffil preifat, dechrau proffil arall agor.
Wrth gwrs, ti’n gallu penderfynu pa fath o gyfrif ti eisiau rhedeg. Dw i wedi trio opsiwn preifat yn y llun yma. Ond dw i wedi troi’r opsiwn yn ôl yn sydyn. Dw i eisiau cyfrannu i’r we agor.
Dw i’n sôn am yr iaith hefyd wrth gwrs.
Os ti’n cau dy gyfrif, byddi di’n anweledig! A bydd dy iaith Gymraeg yn anweledig hefyd.


5 Comments
Dwi ddim yn deall pam fod pobl yn cuddio cyfrif Twitter – mae ei weld yn eitha di-bwynt i fi. Wel, dwi yn deall pam – am fod pobl yn ei ddefnyddio mewn ffyrdd gwahanol iawn.
Mae rhai yn ei ddefnyddio fel blog bach, ar gyfer sylwadau cyflym. Mae eraill yn ei ddefnyddio ar gyfer danfon ambell ddolen i’w blog go iawn neu at lefydd eraill ar y we.
Ond mae carfan eitha mawr yn ei ddefnyddio fel rhyw grŵp trafod preifat rhwng ffrindiau.. efallai o dan ddylanwad Facebook. Dwi’n gweld y pwynt o gadw rheina yn breifat er ei fod yn ffôl iawn os yw pobl yn credu fod unrhywbeth ar y we yn breifat.
Rwy’n meddwl mike i chi yn gwybod fy mod wedi cymryd i cyfieithu a darllen eich blog gan ddefnyddio Google. Dyma yw Google yn ceisio ateb i mi mewn Cymraeg.
Dafydd, gallai cyfryngau cyfathrebu “preifat” bod yn ddefnyddiol (fel ebost, Facebook, sgwrs, galwad ffôn).
Ond mae diwylliant Twitter yn agor. Mae pobol agor yn mwynhau’r fantais lawn o’r cyfrwng. Mae’r rhwydwaith cyfan yn well.
Dw i’n cytuno, dydy Twitter preifat ddim yn breifat go iawn beth bynnag – pan mae pobol yn retweet ayyb.
Hefyd, tra roedd rhaid disgwyl i’r person aral eich ‘derbyn’ ar Facebook cyn cael darllen eich ‘perlau o ddoethineb’ (gan gymryd bod chi wedi dewis cadw e’n breifat), sut mae’n gweithio gyda twitter?
Os dwi’n cau fy mhroffil Twitter i ddilynwyr yn unig, ac mae dieithyrn (neu gwaeth fyth, cyflogwr) yn fy nilyn, ydy o/hi yn gallu gweld popeth yn syth, neu oes rhaid i mi ei dderbyn yn gyntaf?
@Howard. Pwy ydy Mike? :-)
Rhaid i ti dderbyn yn gyntaf, os dw i’n deall dy ymholiad.
One Trackback
Blaenau Ffestiniog…
I found your entry interesting thus I’ve added a Trackback to it on my weblog :)…