Blogiau lleol am Cardiff, Cymru

Mae tair enghraifft o wefannau am newyddion lleol yn y brifddinas yn dechrau.

  1. Bydd y blog The Guardian gan ‘beatblogger’ lleol yn dechrau cyn hir. Roedd Guardian yn esbonio’r meddyliau a staff tu ôl y fenter. Twitter: GdnCardiff
  2. Mae yourCardiff newydd wedi cael eu lansiad gan Media Wales. Mae 16 person gwahanol yn cyfrannu ond mae un person yn unig yn gweithio fel gweithiwr i Media Wales. Mae’r cyfranwyr eraill yn sgwennu i ddweud straeon, hybu digwyddiadau a rhannu profiadau. Twitter: yourcardiff
  3. Capture Cardiff yw rhywbeth hollol annibynnol o gwmniau cyfryngau traddodiadol. Mae llawer o bobol yn cyfrannu. Twitter: capturecardiff

Mae enghreifftiau eraill yn bodoli yn barod siŵr o fod. Ond ro’n i eisiau sôn am Capture Cardiff. Mae’r wefan yn dangos sut ti’n gallu dechrau blog lleol ar dy ben dy hun. Gyda chyfeillion.

Mae yourCardiff a Capture Cardiff yn defnyddio WordPress – meddalwedd rydd ac am ddim. Prynodd rhywun yr enw parth capturecardiff.com ar y diwedd mis Ionawr a dechreuodd yn syth.

Pobol Caerdydd, ydyn ni eisiau rhywbeth fel hwn yn Gymraeg? Neu… rhywbeth gwahanol? Ble mae’r ‘cymuned Cymraeg yng Nghaerdydd’ yn bodoli? Wyt ti’n gallu siarad am y ‘gymuned Cymraeg’ yng Nghaerdydd? Mae’r papur bro’r Dinesydd gyda ni bob mis wrth gwrs. Ond mae llawer mwy o bethau eraill yn digwydd!

Dyn ni’n gallu darllen The Guardian. Bydd e’n dda, dw i’n siŵr. (Bydd e’n edrych fel y blog Leeds.) Ond ble mae’r lleisiau Cymraeg am newyddion ym mhrifddinas Cymru? (Newidiais i’r teitl i ddweud Cardiff wrth ddechrau trafodaeth.)

Ti’n gallu newid dy ardal pan ti’n tynnu pobol at ei gilydd. Mae llawer o gyfleoedd i gael lleisiau sy wedi bod yn anweledig. Mae rhywun arall yn gallu trafod ieithoedd eraill yng Nghaerdydd.

Beth am y fro Gymraeg a phapurau bro yn y cyd-destun hwn? Dyn ni’n casglu enghraifftiau eraill ledled Cymru ar y dudalen Hedyn.

Mae sgwrs newyddion lleol yn digwydd ar y wefan Hacio’r Iaith hefyd.

Gyda llaw, mae Caerdydd yn rhy fawr i ddefnyddio’r gair hyperlocal am yr enghraifftiau yma. Mae golygiad y gair yn benodol iawn. Basai hyperlocal yw rhywbeth yn ardal yn unig, neu weithiau stryd yn unig. (‘Splottify’ unrhyw un?).

Llun gan iwouldstay

Ti’n gallu newid dy ardal pan ti’n tynnu pobol at ei gilydd. Mae rhywun arall yn gallu trafod ieithoedd eraill yng Nghaerdydd.

Beth am y fro Gymraeg a phapurau bro yn y cyd-destun hwn? (Machynlleth?) Dyn ni’n casglu enghreifftiau eraill ledled Cymru ar y dudalen Hedyn.

6 Ateb i “Blogiau lleol am Cardiff, Cymru”

  1. 1. The English-language one is only regarded as an experiment, let alone yr hen iaith.
    2. They wanted to do Welsh. They bid for public money (http://paidcontent.co.uk/article/419-trinity-mirror-four-others-bid-for-welsh-news-site-hand-out/) but didn’t get it.
    3. They’re students from all around the UK, so full Welsh coverage isn’t going to be possible.

    There’ll doubtless be a Welsh-language one along soon, though, if one didn’t already exist.

  2. 1. Absolutely and my questions are experimental and half-baked to see what others think.

    2. Yeah I know, from Media Wales’ perspective I’m sure it was worth a punt. But I’m not really asking about business or public money here. Or even budgets.

    3. You mean the Capture Cardiff bloggers? My point was that free software can open this up to any ragtag group of DIY punks out there – potentially. The rest is about people and spare time. I’m not talking about professional journalism of course.

    Thanks Rob.

  3. Mae’n edrych yn reit cyfforus yng Nghaerydd ar hyn o bryd o ran blogiau lleol, er amser a ddengys beth fydd ansawdd y cynnwys a sut pa fath o amrywiaeth o bynciau a fydd ynddynt. Mae Capture Cardiff yn edrych yn arbennig o dda, ac yn enghraifft fel ti’n dweud o bet sy’n gallu cael ei greu heb orfod buddsoddi dimau goch (mewn arian), ond mae’n golygu buddsoddi llawer o amser.

    O beth ddeallaf i, myfyryr cwrdd diploma mewn newyddiaduraeth yn y birfysgol sy’n ei gynnal (bydd hefyd yn ddiddorol gweld os fydd yr ansawdd yn newid o flwyddyn academiadd i’r llall!).

    Hyd y gwyddwn i, tydy myfyrwyr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor erioed wedi cynhyrchu dim un blog na sianel YouTube yn Gymraeg na Saesneg, rhywbeth sy’n biti garw.

    Mae blog Leeds y Guardian yn erdych yn dda hefyd, ac mae hyn yn argyhoeddi’n dda i Gaerdydd. Mae’n gwneud defnydd da o wybodaeth o wefannau eraill megis rhai MySociety ac Openly Local (gwefan newyd di mi). Efallai dylid ceisio annog Cyngor Dinas Caerdydd i ddefyddio Openly Local (ac efallai dylwn gynnig lleoleidido’r gwasanaeth – os oes modd ei rhyngwladoleiddio’n gynta). O holl awdurdodau lleol Cymru, dim ond Sir Fynwy sydd arno hyd yma.

    O ran gwefan lleol Cymraeg i Gaerdydd, byddai’n braf gweld un. Yn sicr yng Nghaerdydd mae’r ‘concentration’ ucha o bobl ifanc Cymraeg eu hiaith. Rhaid cofio bod gwefan newyddion lleol yn wahanol iawn i flog – mae blog newyddion yn gofyn cael ei ddiweddaru yn gyson iawn, gyda cynnwys o ddiddordeb i bawb a rhaid i’r cynnwys fod yn gywir iawn o ran manylder/ffeithiau (a iaith?).

    Dw i’n sylweddoli y galli di greu’r wefan yn ond byddai angen tim o o leiaf 6-10 o gyfrannwyr. Er efallai mai sefydlu gwefan fyddai orau’n gyntaf a gweld wedyn os fyddai modd denu cyfranwyr gyda gallu newyddiadurol, yn hytrach na disgwyl i’r rhai sydd a gallu newyddiadurol greu gwefan eu hunain? Buaswn i’n hoffi cymryd rhan rhywsut, ond dwi ddim yn gweld fy hun yn sgwennwr da.

  4. Bydde’n ardderchog cael lle yn y Gymraeg i rannu newyddion yn y Gymraeg a gwybodaeth am ddigwyddiadau etc. Mae Menter Caerdydd yn anfon llawer o wybodaeth i rai sydd wedi cofrestru i dderbyn yr ebost e-chlysur. http://www.mentercaerdydd.org/gwefan.php
    Rwyf i hefyd yn defnyddio llawer ar Facebook i anfon gwybodaeth am weithgareddau Clwb y Diwc yn Nhreganna. Ond mae na le i drafod newyddion y ddinas hefyd.

  5. Mae’n edrych yn reit cyfforus yng Nghaerdydd ar hyn o bryd o ran blogiau lleol, er amser a ddengys beth fydd ansawdd y cynnwys a sut fath o amrywiaeth o bynciau a fydd ynddynt. Mae Capture Cardiff yn edrych yn arbennig o dda, ac yn enghraifft fel ti’n dweud o beth sy’n gallu cael ei greu heb orfod buddsoddi dimau goch (mewn arian), ond mae’n golygu buddsoddi llawer o amser.

    O beth ddeallaf i, myfyrwyr cwrdd diploma mewn newyddiaduraeth yn y birfysgol sy’n ei gynnal (bydd hefyd yn ddiddorol gweld os fydd yr ansawdd yn newid o flwyddyn academiadd i’r llall!).

    Hyd y gwyddwn i, tydy myfyrwyr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor erioed wedi cynhyrchu dim un blog na sianel YouTube yn Gymraeg na Saesneg, rhywbeth sy’n biti garw.

    Mae blog Leeds y Guardian yn erdych yn dda hefyd, ac mae hyn yn argyhoeddi’n dda i Gaerdydd. Mae’n gwneud defnydd da o wybodaeth o wefannau eraill megis rhai MySociety ac Openly Local (gwefan newyd di mi). Efallai dylid ceisio annog Cyngor Dinas Caerdydd i ddefyddio Openly Local (ac efallai dylwn gynnig lleoleidido’r gwasanaeth – os oes modd ei rhyngwladoleiddio’n gynta). O holl awdurdodau lleol Cymru, dim ond Sir Fynwy sydd arno hyd yma.

    O ran gwefan lleol Cymraeg i Gaerdydd, byddai’n braf gweld un. Yn sicr yng Nghaerdydd mae’r ‘concentration’ ucha o bobl ifanc Cymraeg eu hiaith. Rhaid cofio bod gwefan newyddion lleol yn wahanol iawn i flog – mae blog newyddion yn gofyn cael ei ddiweddaru yn gyson iawn, gyda cynnwys o ddiddordeb i bawb a rhaid i’r cynnwys fod yn gywir iawn o ran manylder/ffeithiau (a iaith?).

    Dw i’n sylweddoli y galli di greu’r gwefan yn gyflym iawn ond byddai angen tim o o leiaf 6-10 o gyfrannwyr. Er efallai mai sefydlu gwefan fyddai orau’n gyntaf a gweld wedyn os fyddai modd denu cyfranwyr gyda gallu newyddiadurol, yn hytrach na disgwyl i’r rhai sydd a gallu newyddiadurol greu gwefan eu hunain? Buaswn i’n hoffi cymryd rhan rhywsut, ond dwi ddim yn gweld fy hun yn sgwennwr da.

Mae'r sylwadau wedi cau.