Tafodieithoedd melys

fferins, loshins, losin, cacen, candis, cisys, da da, minciag, neisis, pethau da, swîts, taffins, trops

Dw i’n dychmygu’r symbolau yma fel melysion bach. Bwytwch y pethau bychain.

Mae’r map yma yn dod o lyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg: Cyflwyo’r Tafodieithoedd gan Peter Wyn Thomas a Beth Thomas. Mae’r llyfr yn anodd ffeindio nawr yn anffodus.

Mae’n hollol bosib wneud map arlein o dafodieithoedd.

Mae ffordd bosib yw: defnyddia ffurflen cwestiynau, e.e. “pa air wyt ti’n defnyddio am (llun o llaeth)” ayyb, creua map.

Gallet ti gasglu blogiau a’u cyfesurynnau a chreu map awtomatig gyda phorthiannau RSS oni bai nad oes digon o flogiau yn bodoli ym mhob man.

Ond mae llawer o bethau ti’n gallu wneud gyda phorthiannau RSS blogiau Cymraeg…

7 Comments

  1. Beth Thomas
    Posted 23 March 2010 at 4:21 PM | Permalink

    Diolch am y diddordeb yn y llyfr! Mae’n wir bod y llyfr allan o brint ers meitin, ond er diddordeb, bydd y cynnwys (gan gynnwys clipiau sain o dafodieithoedd) yn ymddangos ar wefan newydd o’r enw Casgliad y Werin Cymru ym mis Awst eleni.

    O.N. Wi’n lico’r syniad o’r symbolau fel melysion bach…

  2. Posted 23 March 2010 at 5:47 PM | Permalink

    Beth Thomas, diolch am dy sylw. Mae Casgliad y Werin yw newyddion da!

    Dw i’n hybu cynnwys Cymraeg ar y we ar hyn o bryd. Dim digon.

  3. marc jones
    Posted 30 March 2010 at 12:42 AM | Permalink

    Gwych!

    Y rheswm am y “minciag” yn Sir Feirionnydd ydi fod na ffatri gneud mintcake yn y Bermo (yn ol nain!)

  4. Posted 28 April 2010 at 9:28 AM | Permalink

    Mae’n swyddogol, ti nawr yn ‘Archflogiwr‘

  5. Posted 28 April 2010 at 9:28 AM | Permalink

    http://s4c.co.uk/pethe/hen-benillion-newydd/

  6. Rich
    Posted 25 August 2010 at 7:50 AM | Permalink

    Da iawn Carl. Dwi ‘di chwilio am y llyfyr ers sbel felly dwi’n falch bydd y cynnwys ar gael ar y we.

  7. Beth Thomas
    Posted 25 August 2010 at 5:45 PM | Permalink

    Mae elfennau o’r llyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg nawr ar wefan Casgliad y Werin, a bydd rhagor yn ymddangos gydag amser. Er mwyn mynd at gasgliad o eitemau perthnasol i’r tafodieithoedd (gan gynnwys recordiadau sain o’r darnau sydd yn y llyfr), ewch at http://www.peoplescollection.co.uk/Collection/154-the-dialects-of-welsh

    Mae’r nodiadau ar bob un o’r enghreifftiau llafar a nodweddion y tafodieithoedd o dan y pennawd Themau/Gwahanol Dafodau (http://www.peoplescollection.co.uk/Theme/2-different-voices). Mae tafodiaith Caernarfon, , Llannerch-y-medd, Rhosllannerchrugog, Carno, Pen-caer, Llansawel, Llangynwyd, a Glynogwr eisoes ar y wefan a bydd gwybodaeth am y darnau eraill sydd yn y llyfr hefyd yno maes o law.
    Gobeithio fod hyn o help!

3 Trackbacks

  1. By Hen Benillion Newydd? | Pethe on 23 August 2010 at 11:56 AM

    [...] wthnos dwetha – yr holl eiriau gwahanol am losin. Teitl da (da da?!) ei flog diweddar yw Tafodieithoedd Melys, lle y mae’n cyfeirio at fapiau gwych Peter Wyn Thomas a Beth Thomas yn eu llyfr Cyflwyno’r [...]

  2. [...] dim byd heblaw sylw neis gan un o’r awduron [...]

  3. By Digido’r Tafodieithoedd a Pethau Bychain on 25 August 2010 at 12:31 AM

    [...] am eu gwaith Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg: Cyflwyn’r Tafodieithoedd gan Carl Morris draw ar Quixotic Quisling, ble soniodd am greu mapiau o ddefnydd geiriau e.g. pa air yr ydych yn ei ddefnyddio am sweet, boed [...]

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*