Papur academaidd am theori ddiwylliannol a Sleeveface – o Frasil

Neithiwr, ffeindiais i bapur academaidd arlein am Sleeveface gyda’r enw Sleeveface.com: re-significações do vinil na cibercultura.

Mae awdur Simone Pereira de Sá (o’r Universidade Federal Fluminense, Brasil) yn siarad am theori ddiwylliannol, fformatau cerddoriaeth gorfforol a chyfryngau. Mae’n edrych yn ddiddorol iawn ond dw i ddim yn gallu deall Portiwgaleg felly dw i’n defnyddio Google Translate am y tro.

Sgwennais i gofnod ar Sleeveface.com gyda’r manylion eraill. Rhaid i bob cofnod ar Sleeveface.com cael llun o Sleeveface. Mae e’n rheol. Tro yma, wnes i ddefnyddio hen lun o’r archif gyda Paul McCartney. Roedden ni’n bwriadu defnyddio fe yn y llyfr Sleeveface. Ond doedd dim digon o le yn y llyfr am y llun. Dw i’n hoffi’r llun achos mae camera yn y llaw a Macca yw’r artist gwreiddiol wnes i sleevefaco ym Muffalo Bar, Caerdydd yn 2007.