Arlein dyn ni’n casglu casglu casglu – felly paid a bod yn unig

Thema fi ar hyn o bryd yw “casglu”.

Casglu’r pethau bychain.

Mae nwdls yn casglu fideos gyda fideobobdydd.

Dw i’n casglu defnyddwyr Cymraeg ar Twitter ar fy cofrestrau. (Tua 609 person heddiw.)

Dyn ni’n casglu gwefannau, blogiau a theclynnau ar Hedyn.

Dyn ni’n casglu pobol a dealltwriaeth gyda Hacio’r Iaith – arlein ac yn y cigfyd.

Ro’n i’n hoffi Blogiadur. Dyn ni’n gallu deall pam casglodd Aran Jones blogiau gwahanol yna. (Ond mae’r wefan angen diweddariad gyda blogiau newydd.) Darllena’r papur “The Blogiadur – a community of Welsh-language bloggers” gan Daniel Cunliffe – dw i’n methu ffendio’r dolen heddiw.

Dyn ni eisiau ffeindio pobol a gwefannau sy’n bodoli yn barod a’u thynnu nhw at ei gilydd i fod mwy agos. Paid a bod yn unigrwydd. Ymuna’r parti!

Cydgrynhoad yw gair da arall.

Dw i’n gofyn am wasanaeth newydd i gasglu canlyniadau Cymraeg ar Google gyda’u gilydd. Gweler post diwetha (wrth gwrs bu farw’r Wenhwyseg achos caeth siaradwyr eu gwasgaru).

Mae’r we Gymraeg yn rhy frith.

Pwy sy eisiau ymuno’r Gymdeithas Yn Erbyn Entropi?

entropi

Llun gan ario_

YCHWANEGOL: Mae Rhys Wynne wedi postio dolen “The Blogiadur – a community of Welsh-language bloggers” yn y sylwadau isod. Cyfrannodd Courtenay Honeycutt i’r papur hefyd.

5 Ateb i “Arlein dyn ni’n casglu casglu casglu – felly paid a bod yn unig”

Mae'r sylwadau wedi cau.