Rydyn ni angen termau hawlfraint fyrrach

Meddai blogwr maximus Nic Dafis yn ei cofnod am Gomins Creadigol:

Wedi dweud hynny, dw i ddim yn cytuno bod angen sustem hawlfraint newydd i Gymru, a ddim yn gweld sut byddai hynny’n gweithio tra bod Cymru a Lloegr yn rhannu cyfundrefn cyfreithiol yn gyffredinol. Pan daw’r chwyldro gogoneddus, wrth gwrs, bydd popeth yn wahanol, ond tan hynny dylai fod yn ddigon i hybu defnydd o’r Comins Creadigol mor eang ag sy’n bosibl, yng Nghymru fel yng ngweddill y byd.

Ond mae Comins Creadigol yn “optio i mewn”. Iawn amdanat ti a fi. Iawn am artistiaid, awduron a bandiau sy’n gallu defnyddio fe yn 2010 gyda gwaith newydd. Neu hen waith.

Ond dyw e ddim yn iawn am 56 mlynedd o destun sydd yn mas o brint. Neu 56 mlynedd o bethau dyn ni’n gallu ailddefnyddio – tu allan o jyst ddelio teg.

Term hir yw problem yn ieithoedd eraill hefyd, e.e. Saesneg. Mae’n fwy o broblem yn Gymraeg. Fel arfer, dyn ni’n teimlo’r un pethau yn iaith leiafrifol ond MWY. Ble wnes i ffeindio’r nifer 56 mlynedd? Term am destunau gan gynnwys llyfrau a chylchgronau yw 70 mlynedd o’r farwolaeth yr awdur. Dw i’n dychmygu cymdeithas gyda therm 14 mlynedd o’r farwolaeth yr awdur.

(Dw i wedi bod yn geidwadol yma. Roedd y term gwreiddiol o’r ddeddf hawlfraint gyntaf yn 1709 yn 14 mlynedd ar ôl y gwaith gyda 14 mlynedd opsiynol os oedd yr awdur dal yn byw.)

Dychmyga 56 mlynedd o lyfrau, drama, barddoniaeth, lluniau, fideo ac awdio ar gael ar y we am unrhw ddefnydd.

Basai term hawlfraint fyrrach yn well i Saesneg ac yn well i Gymraeg. Mae pobol wedi esbonio’r problemau yn y cyd-destun Saesneg ac wedi dychmygu’r canlyniadau o dermau byrrach. (Gweler hefyd: Open Rights Group yn y DU.)

Nid cyfreithiwr ydwyf ond sgwennais i awgrymiadau os ti eisiau ailddefnyddio deunydd Cymraeg sydd yn fas o brint.

3 Comments

  1. Posted 18 Medi 2010 at 9:58 AM | Permalink

    Mae byrhau term hawlfraint o 70 mlynedd yn swnio yn gall iawn, ond dw i ddim yn gweld sut bydd hynny’n ymarferol *yng Nghymru* nes bod pwerau eangach o dipyn gan ein Llywodraeth annwyl ninnau. Yn y cyfamser, mae angen trafod hyn mwy gyda dalwyr hawlfraint (fel y Llyfrgell), a’u hannog i fynd am drwyddedau agored ble mae hynny’n bosibl.

    Fel ffeindiaist ti yn achos map y losins, a fel dw i wedi gweld fy hun sawl tro, mae awduron ac artistiaid Cymraeg yn eitha agored i’r syniad o bobl ail-ddefynddio eu gwaith. Mewn ffordd, mae’r trwyddedau Comins Creadigol ond yn ffurfioli sefyllfa sy’n bodoli eisioes.

  2. Posted 18 Medi 2010 at 6:09 PM | Permalink

    Wel, pa lyfrau a deunydd wyt ti eisiau gweld arlein?

  3. Posted 19 Medi 2010 at 12:12 PM | Permalink

    Gormod o lyfrau heb eu darllen gen i yn y blydi tŷ, diolch yn fawr! Dw i’n trial eu sorto nawr.