Y Twll: facelift a Facebook (cytundeb gyda’r ymerodraeth ddrwg)

Y Twll a Facebook

Dw i newydd ailddylunio’r wefan Y Twll gyda thema-plentyn bach. Y themam yw Twenty Ten. Mae’n wych os ti eisiau defnyddio fe am thema newydd. Wrth gwrs mae’r cyfieithiad ar gael hefyd. Dw i wedi enwi’r thema-plentyn Ugain Deg. Does dim pwynt rhannu e, jyst ychydig o CSS a phethau graffig. Gofyna os ti rili eisiau copi.

Ar y dechrau cyhoeddais i’r manylion technegol Y Twll i unrhyw un sy’n darllen.

Dw i ddim yn licio Facebook fel rhywle i bostio cynnwys Cymraeg. Ond dyma lle mae darllenwyr Cymraeg yn bodoli. Dyma pam mae’r twll yn y we yn bodoli. Dyma pam mae’r Twll yn bodoli. Felly dw i wedi ychwanegu botwm Hoffi i bob cofnod (gyda’r ategyn Like). Mae’n postio dwy ddolen syml i dy wal – paraddolen i’r cofnod a dolen i’r wefan. Ar ôl clic maen nhw yn ymweld y cofnod ar dy wefan dy hun. Dw i eisiau tynnu pobol i’r we agored.

Mae Ifan Morgan Jones yn gofyn faint sy’n darllen? Mae’n pwysig achos mae fe eisiau gwerthu llyfrau wrth gwrs. Yn fy marn i, weithiau dylen ni “hyrwyddo” ein blogiau mwy.

Quixotic Quisling yw fy anti-brand, does dim ots faint sy’n darllen. Mae’r pobol perthnasol yn darllen. Dw i’n defnyddio fe fel ebost agored weithiau. (Blogio gyda’r neges ac anfon dolen i rhywun.)

Mae’r Twll yn wahanol. Dw i eisiau dadnormaleiddio’r iaith gyda fe. Gan hynny, y cytuneb gyda’r ymerodraeth drwg.

Dw i wastad yn chwilio am gofnodion ond dw i’n eitha hapus gyda’r Twll nawr. Nawr dw i’n hapus i weld blog newydd o’r enw Uno Geiriau gan Rhodri D. Gadawa sylw plis.

Os wyt ti’n dechrau blog yn Gymraeg ti’n dechrau pump rili achos ti’n ysbrydoli pobol eraill. Gobeithio.

3 Ateb i “Y Twll: facelift a Facebook (cytundeb gyda’r ymerodraeth ddrwg)”

  1. Dw i’n cytuno â ti ynglyn â Facebook; mae’n drueni ei fod mor boblogaidd, ond does dim modd ei anwybyddu. Dw i wedi sylwi bod cofnodion Morfablog yn cael llawer mwy o ymwelwyr os dw i’n cofio postio dolen i’r blogiad ar Facebook – mae’n siwr bod llawer iawn mwy o bobl yn dibynnu ar eu ffrydiau Facebook nag sydd yn darllen ffrydiau RSS – prin iawn bod llawer o bobl hyd yn oed yn gwybod beth yw RSS.

    Felly, ie, dawnsio gyda’r diafol er mwyn normaleiddio’r iaith ar y we agored – ac atgoffa pobl bod ’na sut peth â gwe agored i gael.

Mae'r sylwadau wedi cau.