Rhestrau Twitter, amlieithrwydd a fy ymgyrch anweledig

Hwn yw ateb i Sion Jobbins, dw i wedi ei bostio yn agored yn hytrach nag ebost preifat.

Postiodd Sion:

Cer i’r wefan Blog Golwg360 i weld e (ar enw parth gwahanol i’r prif wefan Golwg360 am ryw reswm). Wnes i ddarganfod fod nhw yn defnyddio fy rhestr Twitter o’r enw Cymraeg.

Cer i’r cod HTML a ti’n gallu gweld fy enw yna… Dw i’n rheoli’r rhestr. Mewn theori dw i’n gallu hysbysebu ar Golwg360 am ddim os dw i eisiau(!) Efallai dylen nhw greu rhestr eu hun. Neu (gwell) ffeindio ffordd wahanol, e.e. defnyddio ffrwd o ffefrynnau i reoli’r cynnwys.

Problem yw, mae fy mwriadau yn wahanol i fwriadau Golwg360.

Y newyddion da yw, roedd rhaid i mi greu ail restr o’r enw Cymraeg2 ac mae hon wedi bwrw’r terfyn o 500 aelod. Felly y cyfanswm siaradwyr Cymraeg ar Twitter (gyda chyfrifon agored) wedi pasio 1000 yn ddiweddar.

Beth yw’r diffiniad “siaradwyr Cymraeg”? Cwestiwn anghywir. Beth yw FY niffiniad gan greu rhestrau? Gan greu’r rhestr o’n i eisiau “hyrwyddo” defydd o Gymraeg ar Twitter. Felly dw i wedi bod yn ychwanegu defnyddwyr dwyieithog, dysgwyr, mabwysiadwyr, pobol sy’n uniaith Saesneg ar Twitter ond yn gallu siarad Cymraeg. Sef, y spectrum llawn achos medr != defnydd. Yn aml iawn, Cymraeg neu Cymraeg2 yw’r rhestr gyntaf i “groesawi” defnyddwyr Twitter hollol newydd sbon. (Dw i’n defnyddio chwilio a dw i’n ffeindio tweets gyda chyfeiriadau i bobol newydd, e.e. “croeso fy ffrind @gwalchmai!” neu beth bynnag.)

Y negeseuon i aelodau newydd yw: ti’n rhan o’r clwb, croeso i ti defnyddio Cymraeg ar Twitter, gyda llaw dyma bobol eraill. Mae gen ti ddewis!

Casglu oedd fy thema pan wnes i ddechrau’r rhestr Cymraeg. Weithiau does dim digon o gyfleoedd, hyder, neu cysylltiadau gyda’r “cymuned” gyda phobol. Dw i’n methu siarad o ran pobol tu ôl rhestrau eraill o siaradwyr Cymraeg.

Dyw’r rhestrau ddim yn ddigon unieithog am unrhywbeth fel y defydd cyhoeddus gan Golwg360.

Bydd platfformau cynnwys yn adlewyrchi dwyieithogrwydd o unigolion, e.e. fy nefnydd ar fy nghyfrif personol.

Ond ar yr un pryd dw i’n meddwl bod cyfrifon uniaith Cymraeg yn bwysig. Enghreifftiau: @haciaith, @ytwll, @shwmae. Mae’n golygu ymdrech, gofal gyda retweets ayyb.

Hoffwn i archwilio’r shifft ieithyddol, diglossia ac effeithiau ieithyddol eraill ar gyfryngau cymdeithasol mwy. Paid ag anghofio gwasanaethau fel Quora gyda pholisïau yn erbyn amlieithrwydd hefyd.

9 Comments

  1. March Glas
    Posted 5 Ionawr 2011 at 8:53 PM | Permalink

    Carl – diolch am hyn – ddim yn bwriadu dy insyltio di wrth ddweud fod y ffrwd yn ‘wast o amser’. Jyst ‘mod i’n disgwyl gweld trydar Cymraeg ac mae’r rhan fwyaf yn trydar yn Saesneg. Mae’n anodd, dwi’n trydar yn uniaith Gymraeg gydag un neu ddau eithriad prin. Mae eraill yn fwy fel arall.

    Dwi’n gweld y ffrwd hwn fel ffordd o ddangos fod modd trydar yn Gymraeg a chael lot o ddilynwyr. Hoffwn weld y ffrwd ar dudalen flaen Golwg360 fel fod pobl yn gweld beth sydd yn digwydd (yr un peth gyda’r blogs).

    Dwi’m yn gwybod (na’n ddigon technegol) i wybod beth yw’r ateb. Efallai ond dilyn pobl sy’n trydar yn gyson yn uniaith Gymraeg? efallai fod hynny’n haws na gwrthod iaith gan fod modd weithiau fod rhywun yn cynnwys dyfyniad neu’n rhoi trydar anaml Saesneg am ryw rheswm. Wn i ddim.

  2. Posted 5 Ionawr 2011 at 9:12 PM | Permalink

    Dw i’n cytuno Sion, mae’r panel yn wast o amser. Dyw’r cysyniad tu ôl y rhestr yn briodol am yr ail-defnydd.

    Opsiynau gwell:

    0. colli’r panel!

    1. rhestr arall o gyfrifon uniaith Gymraeg (gweler cofnod)

    2. defnyddio ffrwd o ffefrynnau (gweler cofnod)

    Neu efallai mae’n bosib wneud arbrofiad yma, e.e.

    3a. tyfu ffrydiau gyda ffiltro awtomatig (e.e. canfod iaith) gweler http://haciaith.com/2010/11/10/umap-casglu-trydar-adar-gwlad-y-basg/

    3b. tyfu ffrydiau gyda ffiltro dynol

  3. Posted 5 Ionawr 2011 at 9:25 PM | Permalink

    Y broblem ydi bod creu rhestr o siaradwyr Cymraeg ar Twitter yr un fath a creu rhestr o siaradwyr Cymraeg yn y byd go iawn – tua hanner yr amser fe fyddan nhw’n siarad Saesneg, a dyna pam fod yna gymaint o Saesneg ar ffrwd y blog.

    Rydw i’n trydar 99% yn y Gymraeg ond prin iawn yw’r rheini sydd yn gwneud yr un fath.

    Yr unig ffordd o gwmpas hyn fyddai ryw fath o raglen sy’n gallu gweld os ydi rhywun ar Twitter yn siarad Cymraeg ai peidio. Ond hyd y gwn i dyw’r rhaglen hwnnw ddim yn bodoli ‘to.

    Yr ateb arall fyddai dileu y ffrwd a maen rywbeth ydw i’n ei ystyried.

  4. Posted 5 Ionawr 2011 at 9:59 PM | Permalink

    Mae’r rhaglen honno’n bodoli Ifan – mae fersiwn Gymraeg o Umap yn cael ei ddatblygu. Dwi’n hyderus y bydd y fersiwn Gymraeg o Umap ganddon ni cyn hir. Gobeithio bydd hyn yn mynd y rhan fwyaf o’r ffordd i ddatrys hyn, ac i greu ffordd newydd o gael profiad Twitter cyfangwbl Gymraeg, yn ogsytal a gwneud llawer iawn mwy. Gwyliwch y gofod yntê.

  5. Posted 5 Ionawr 2011 at 10:44 PM | Permalink

    Gyda llaw mae Twitter yn cynnig ffrydiau o ffefrynnau:
    http://twitter.com/favorites/golwg360.rss
    http://twitter.com/favorites/ifanmj.rss
    http://twitter.com/favorites/carlmorris.rss
    http://twitter.com/favorites/nwdls.rss
    http://twitter.com/favorites/marchglas.rss
    ayyb

    Efallai defnyddia ffrwd o ffefrynnau.

    Neu penodi mwy o bobol fel golygyddion ac ymuna’r ffrydiau gyda Yahoo Pipes.

  6. Posted 6 Ionawr 2011 at 1:57 PM | Permalink

    Newyddion da iawn am Umap Cymraeg, Rhodri.

    Mae fy client Twitter (Splitweet) yn chwilio am eiriau penodol, sef ‘Caerdydd’, ‘Cymraeg’ a ‘#haciaith’ fel mod i’n gweld pwy sy’n trafod yr rhain, hyd yn oed os nad ydw i’n eu dilyn nhw.

    bwriad chwilio am ‘Caerdydd’ oedd i weld os baswn i’n dod i glywed am ddigwyddiadau a newyddion Cymraeg yn y brifddinas a fyddai o ddiddordeb i fi. A’r canlyniad)? Blydi pobl di-gymraeg ynmeddwl bod nhw soffistigedig yn defnyddio’r gair Caerdydd yn lle Cardiff menw brawddeg Seasneg! (Dw i ddim yn flin, dw i’n meddwl bod hyn yn wych o beth go iawn, mond bod o ddim iws i fi o gwbl. Yn yr un modd, mae’r gair ‘Cymrag’ yn ymddango yn amlach na pheidio gan Gymry di-gymaeg yn cyfeirio at eu hunain (“I’m Cymraeg”).

    O wel.

    Dw i ddim yn cytuno gyda March glas bod angen ffrwd Twitter ar y brif wefan Golwg 360 -dw i ddim yn siwr beth fyddai yn yn ychewnaegu at y gwasanaeth newyddion. Rhywbeth gallai Golwg 360 wneud fodd bynnag yw beth mae Eitb (Sianel Basgeg) yn ei wneud ar eu gwefan newyddion. Ar y dde i bob erthygl, mae ‘Releated Tweet’ sy’n danbgos canlyniad chwiliad ar Twitter yn defnyddio gair penodol sy berthnasol a’r erthygl. Ddim 100% yn siwr sut mae’n gweithio, ond dychmyga i mai widget syml ydy o.

  7. Posted 8 Ionawr 2011 at 12:07 AM | Permalink

    Rhys, mae’r bobol wedi defnyddio’r gair Caerdydd am yr ardal am flynyddoedd! Dylen ni ei disgwyl. Maen nhw yn ffrindiau o’r iaith Gymraeg a maen nhw yn fwy agos na lot o bobol eraill. Dw i’n gwybod bod ti’n dweud. Weithiau mae’r we yn bodoli am fy mhwrpasau yn unig hefyd.
    :-)

  8. Posted 8 Ionawr 2011 at 12:45 AM | Permalink

    Eitb. Maen nhw yn chwilio am tweets gyda’r URL yn gynnwys bit.ly ayyb.

    Enghraifft o ddarpariaeth debyg yw
    http://backtweets.com
    defnyddiol iawn, dylet ti dilyn RSS o chwiliad am dy flog!

  9. Posted 11 Ionawr 2011 at 2:34 PM | Permalink

    Mae rhaglenni i adnabod iaith (yn cynnwys Cymraeg) wedi bodoli ers blynyddoedd felly dwi ddim yn gwybod pam fod angen aros am ‘Umap’ Cymraeg.

    Dwi wedi defnyddio modiwl yma ar gyfer Perl tua 4 mlynedd yn ôl.

    Erbyn hyn mae’n haws efallai i bobl defnyddio yr API sydd gang Google fel rhan o’i gwasanaethau cyfieithu – gweler y ddogfen yma.