Y Bydysawd – trafod materion cyfoes, chwaraeon a theledu

Gofyn am help gyda phroject newydd o’r enw Y Bydysawd. Plis cer i ybydysawd.com a wedyn gadawa sylw ar erthygl. Dylai fe bod yn hawdd ond gofyn isod os ti eisiau help. Diolch.

Fel Google dw i heb wedi lansio’n swyddogol ond dw i’n profi gydag unrhyw un ar y we sydd eisiau helpu. Mae Google yn neidio o’r soffa ac yn dresio ar y ffordd i’r gig. Strategaeth dda.

Mae gyda fi lot o syniadau ond o’n i ddim eisiau atal profiad yn fyw gyda phobol yn fyw.

Y Bydysawd

Mwy o wybodaeth am Y Bydysawd.

Trafoda’r gwasanaeth ei hun ar unrhyw cofnod dan y categori Newyddion Y Bydysawd.

3 Ateb i “Y Bydysawd – trafod materion cyfoes, chwaraeon a theledu”

  1. Gwaith ardderchog. Wedi gadael sylw ar y wefan ei hun,

    Ti’n gwybod fel ti wedi tynnu ffrydiau o wefan S4C CLIC – byddai modd creu gwefan arall o bosib yn defnyddio’r un dechneg ti wedi ddefnyddio ar Y Bydysawd, ble mae modd sgorio pob rhaglen, yn ogystal a gadel sylw.
    Byddai rhywbeth fel hyn yn ffordd da iawn i S4C weld beth yw barn y cyhoedd (rhag ofn iddyn gomisiynnu ail gyfres o rywbeth hollol shit ac amhoblogaidd…). Yn amlwg byddai’r canlyniadau yn skewed i ddangos barn y teip o berson sy’nm ynd ar-lein i fynegi barn (ac felly ddim cenhedlaeth Mrs Jones Llanrug), ond o leiaf byddai’n dangos barn segment o’r gynulleidfa bosib.

    Byddia peryg i’r wefan gael ei chamddefnyddio (fel dull sgorio sylwadau WalesOnline), ond gelli’t rheoli hyn drwy fynnu bod pobl yn cofrestru. Hyd yn oed gwobrwyo pobl sy’n sgorio dros 10 o raglenni dros gyfnod o amser hir?

Mae'r sylwadau wedi cau.