Cynulliad Cymru yn rhyddhau lluniau dan Creative Commons

llun gan Cynulliad Cymru

Llun gan Cynulliad Cymru

Siaradais i gyda phobol yn y Cynulliad a Tom heddiw.

Maen nhw newydd newid y trwyddedau eu lluniau ar Flickr i Creative Commons prynhawn yma.

Cer i’r cyfrif Cynulliad Cymru ar Flickr am y gweddill.

Penderfyniad da a llongyfarchiadau iddyn nhw am fuddsoddiad da yn ein hetifeddiaeth ddeallusol yng Nghymru! Dyma lun o 2009, o fand o’r blaen Canolfan y Mileniwm – i ddathlu.

Yn gyffredinol, rydyn ni’n trafod defnydd da o dechnoleg am ddarpariaethau’r Cynulliad a democratiaeth well. Mwy yn fuan.

Hoffwn i annog mwy o ddefnydd Creative Commons yng Nghymru, o ran sefydliadau cyhoeddus yn enwedig, os mae’n briodol a phosib.

(Beth yw Creative Commons? Mae’r termau ac amodau wedi newid o “cedwir pob hawl” i “cedwir rhai o’r hawliau”. Nawr does dim rhaid i ti ofyn am ganiatad os ti eisiau ail-ddefnyddio unrhyw lun ar dy flog neu yn gylchgrawn ayyb, arlein neu all-lein, unrhyw iaith, yn gynnwys defnydd masnachol yn ôl y trwydded tro yma. Rwyt ti angen credit gyda’r llun, yn ôl y trwydded eto. Cer i’r wefan Creative Commons am mwy o wybodaeth.)

DIWEDDARIAD 17/02/2011: Mae’r termau wedi newid i rywbeth gwell (athreuliad yn unig).

DIWEDDARIAD 23/02/2011: Mae Rhys Wynne wedi sylwi defnydd ar Wicipedia Cymraeg. Newydd gweld lluniau gan y Cynulliad ar y tudalennau Leanne Wood, Edwina Hart, Peter Black ac eraill. Da iawn!

2 Comments

  1. Posted 21 February 2011 at 12:55 PM | Permalink

    Wrth edrych ar dudalen ‘Newidiadau diweddar’ Wicipedia dros y penwythnos, sylwaf bod un defnyddiwr prysur wedi bod drwy’r casgliad yma er mwyn sicrhau bod yna ddlewedd priodol ar erthyglau unigol pob AC o hyn ymlaen.

  2. Posted 23 February 2011 at 9:25 PM | Permalink

    Diolch Rhys, diweddarwyd.

3 Trackbacks

  1. [...] http://quixoticquisling.com/2011/02/cynulliad-cymru-yn-rhyddhau-lluniau-dan-creative-commons/ [...]

  2. By Rhywbeth i Ddathlu | Morfablog on 17 February 2011 at 10:51 AM

    [...] da ar Quixotic Quisling yn diweddar: mae’r Cynulliad wedi newid y trwydded ar eu lluniau ar Flickr i un Comins [...]

  3. [...] mae’r Cynulliad a’r Amgueddfa yn rhannu eu lluniau. Unrhyw sefydliadau eraill? Ychwanega dolen i’r [...]

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*