Ein Caerdydd a blogiau lleol newydd ledled Cymru

Braf iawn i weld Ein Caerdydd gan Rhys Wynne (ac efallai cyfranwyr eraill?).

Trelluest, hwre!

Wrth gwrs mae lot o flogiau o Gaerdydd wedi bodoli am flynyddoedd (rhai ohonyn nhw ar Y Rhestr). Ond mae gwahaniaeth rhwng blog o Gaerdydd a blog lleol gyda ffocws ar Gaerdydd, yr ardal benodol, i bobol leol.

Mae pob blog yn dod o rywle. Ond gyda’r rhai sy’n delio gyda’r lleoliad fel y pwnc, ydyn ni’n gweld twf yn blogiau lleol o ardaloedd gwahanol o Gymru?

Mae Blog Dolgellau a BaeColwyn.com wedi bod yn tyfu yn ddiweddar hefyd.

Methu ffeindio blog lleol yn dy ardal o Gymru? Neu eisiau rhoi ffocws ar ardal penodol – dy bentref, dy maestref, dy stryd, dy ysgol. Does dim angen aros am gefnogaeth o unrhyw sefydliadau. Ti’n gallu dechrau heno. Darllena’r canllaw yma: sut i ddechrau blog lleol.

Gobeithio bydd pobol yn cyd-drefnu pethau gyda’r papurau bro hefyd.

5 Ateb i “Ein Caerdydd a blogiau lleol newydd ledled Cymru”

  1. Diolch Carl. A falch fod y ‘brand’ yn llwyddo i osgoi gorfod defnyddio’r treiglad trwynol! (fy Nghaerdydd, fy Nghaerfyrddin etc.)

    Newydd gael cip sydyn ar Ein Caerdydd. Jyst holi, onid Llechwedd byddai’r enw Cymraeg (gwreiddiol, mae’n siwr?) ar ‘Leckwith’?

    Mae ‘Lecwydd’ yn swnio fel rhyw Gymreigiad sâl i mi.

  2. A falch fod y ‘brand’ yn llwyddo i osgoi gorfod defnyddio’r treiglad trwynol! (fy Nghaerdydd, fy Nghaerfyrddin etc.)

    Roedd hynny’n gwbl fwriado! Ond credu bod ‘Ein’ yn swnip;n well na ‘Dy’ neu ‘Fy’ ta beth i geisio cyfleu y syniad o gymuned.

    Wnaeth o erioed groesi fy meddwl mai o’r gair Llechwedd y daeth Leckwith, ond gam bod Lecwydd yn enw sy’n cael ei defnyddio, dw i am ddal i’w ddefnyddio – rhag ofn i sefyllfa tebyg i Trefynach v Trelluest godi.
    Wedi dweud hynny, efallai byddai’n sail erthygl diddorddrol am darddiad enwau ardaloedd y ddinas os oes gan rhywun arwydd ei hysgrifennu. Hint, hint….(!)

    Fel Bog Dolgellau a BaeColwyn.com, ymgais i “wneud nid deud” ydy o, yn enweig gan bod cymaint o drafod gwefannau lleol Cymraeg wedi bodd ar haciaith.com yn ddiweddar.

    Dw i”n teimlo’n reit cyffrous am y peth 0- tydw i ddim wedi ei hyrwyddo’n iawn eto, ganmod i’n ceisio cael nifer sylweddol o erthyglau’n hun arno’n gyntaf i ddangos y potential cyn mynd ar ol cyfranwyr. Dw i’n ddiolchgar am y sylw ym beth bynnag.

    Gan bod y canllawiau uchod yn cyferiio at WordPress.com, ro’n i hefyd eisiau gweld beth yn union sy’n bosib drwy ei ddefnyddio.

    Dw i wedi sylwi’n ddwieddar ar gyfrifon Twitter Cylchoedd Meithrin Caerdydd a Chlwb Gwawr Caerdydd, ond does dim presenoldeb gwe ‘go iawn’ ganddynt.

    Petaent yn dymuno, gallent gyfrannu at y blog hwn, a bydd tag arbennig iddynt.

    http://eincaerdydd.wordpress.com/tag/meithrin/
    http://eincaerdydd.wordpress.com/tag/yr-urdd/
    http://eincaerdydd.wordpress.com/tag/clwb-gwawr/ (ddim yn bodoli eto)

    Heb wirio os oes modd cael RSS i’r tagiau unigol, ond mae RRS penodol ar gael i bob categori. Felly petai rhywun yn creu blog lleol ar gyfer Trelluest dweder, byddai modd iddyn nhw arddangos cofnodion am Drelluest ar Ein Caerydd ar eu blog nhw drwy defnyddio’r ffrwd.

    Y fath bosobiliadau…..

  3. Edrych ymlaen i’r erthygl “enwau ardaloedd” ar Ein Caerdydd. Wyt ti angen John Davies yna hefyd?

    Roedd rhywun yn cwyno i fi llynydd am ddefnydd o’r enw Mynydd Bychan (yn hytrach na Y Waun).

Mae'r sylwadau wedi cau.