Dechrau cyfieithu Android

Dw i newydd dechrau cyfieithu Android i Gymraeg.

Mae’n gyfle i mi ddysgu sawl peth. O’n i’n cyfarwydd ar gyfieithu mewn PHP gyda gettext. Ond mae Android yn rhedeg fel cadarnwedd felly bydd e’n haws i redeg fersiynau dros dro mewn efelychydd ar fy nghyfrifiadur tra bod i’n cyfieithu, cyn i mi grynhoi’r cod, gwreiddio’r ffôn a fflachio’r ROM i’w brofi.

Un cwestiwn pwysig wnaeth codi ei hun oedd ‘ble ddylwn i ddechrau?’. Gwnes i benderfynu i gyfieithu yr ap lleia cyntaf. O’n i’n meddwl bod yr ap larwm/cloc sy’n rhan o Android yn fach felly dyma ble gwnes i ddechrau.

Dw i wedi defnyddio’r fam o eiriaduron, termau.org, sawl gwaith yn barod.

Bydd mwy ar y tudalen GitHub yma yn fuan.

6 Ateb i “Dechrau cyfieithu Android”

  1. Mae’r Gymraeg ar gael mewn sawl rhaglen yn barod ar Addroid. Y broblem yw fod cwmniau fel Orange etc. ddim yn rhoi ‘Cymraeg’ fel dewis iaith o fewn eu system.

    I gael rownd hyn gellir lawrlwytho Custom Locale https://market.android.com/details?id=com.mhoffs.customlocale a dewis cy_gb neu cy_ ar ben ei hun.

    Dyle rhaglenni fel Facebook ymddangos yn y Gymraeg a rhai eraill dwi di hanner cyfieithu fel 3G Watchdog a SMS Backup & Restore.

    Ond yn sicr mae angen cyfeithu’r rhaglenni sy’n graidd i Android.

Mae'r sylwadau wedi cau.