Gwerthu e-lyfrau yn uniongyrchol

Diolch Ifan MJ am argymell yr erthygl Guardian am brisiau yn y diwydiant e-lyfrau (yn yr UDA).

Oes cyfle i gyhoeddwyr yma: gwerthu e-lyfrau yn uniongyrchol er mwyn cynnig prisiau gwell nag Amazon/Barnes&Noble *a* chadw mwy o’r elwa? Anghofia DRM er mwyn cynnig gwasanaeth gwell hefyd. Mae’r Lolfa yn wneud yn union yr un peth nawr er bod y rhestr o deitlau yn fyr iawn. Ond dw i wedi dweud hynny o’r blaen!

Os mae darllenwyr eisiau talu mwy ar Amazon achos maen nhw yn meddwl bod e’n gyfleus, mae croeso iddyn nhw. Bydd mwy nag un ffordd i brynu.

Ond pam dyw awduron ddim yn cynnig yr opsiwn i brynu e-lyfrau ar ei wefannau? Dw i’n siŵr bod e’n bosib cael cytundeb gyda’r cyhoeddwr sy’n talu am y marchnata/golygu/gwaith datblygu ac ati.  Mae unrhyw band yn wneud yr un peth – os wyt ti’n prynu albwm trwy’r wefan mae rhai o’r arian yn mynd i’r cwmniau recordiau a chyhoeddi.

Efallai mae angen gwasanaeth label gwyn sydd yn cynnig teclyn siop i awduron. Oes galw? Bydd e’n tebyg i Bandcamp ar gyfer awduron. Mae Bandcamp yn wych ac mae fy ffrindiau sy’n gerddorion yn cytuno. Gwendid wrth gwrs yw’r diffyg darpariaeth Cymraeg. Os wyt ti erioed wedi ei weld dyma dudalen Sen Segur – un o fy hoff fandiau ar un o fy hoff wasanaethau cerddoriaeth.