Santes Dwynwen 404!

Yn anffodus roedd rhaid i rywun dileu dau dolen ar Wikipedia i erthyglau S4C am Santes Dwynwen achos mae’r sianel wedi torri’r dolenni (Dudley a Dechrau Canu). Ydyn ni wedi colli’r erthyglau am byth?

Dydd Santes Dwynwen 404 anhapus!

Dyw e ddim yn broblem S4C, mae’n broblem i’r diwydiant darlledu yn gyffredinol. (Gweler hefyd: cofnod gan Tom Morris am Channel 4 a BBC.)

Pryd fydd darlledwyr yn gwerthfawrogi cynnwys o safon ar y we fel mwy na jyst cyhoeddusrwydd dros dro? Pryd fyddan nhw yn caru‘r we fel cyfrwng?!

Rydyn ni’n bwriadu dathlu Santes Dwynwen am byth, dylen nhw hefyd. Rydyn ni eisiau gweld twf yn y maint o gynnwys da yn Gymraeg ar y we. Ond ar hyn o bryd rydyn ni’n ail-adeiladu’r we Gymraeg bob 10 mlynedd. Mae’n wastraff o arian ac amser. Dw i’n deall tipyn o golled cynnwys ar fentrau gan wirfoddolwyr – ond cwmnïau cyfryngau proffesiynol?

Wrth gwrs mae modd ailgyfeirio cyfeiriadau i’r erthyglau os mae’r system cyfeiriadau wedi newid.

Dydd Santes Dwynwen Hapus i chi i gyd beth bynnag.

5 Ateb i “Santes Dwynwen 404!”

  1. Gobiethio caiff Matthew Glyn neu pwy bynnag yn S4C gyfle i ddarllen erthylg Tom Morris, mae’n rhoi’r dadleuon drosos yn glir iawn.

    Gyda phrinder o ffynonellau i’w cyfierio atynt yn Gymraeg ar gael ar y we, er mywn eu defnyddio ar Wicipedia er enghraifft, mae’n biti bod S4C yn gwendu hyn. Sgwn oes gyda nhw’n gosod oes penodedig i gynnwys ar-lein?

    Mae gwefan Croeso Cymru yr un fath am ddileu, neu o leiaf symud tudalenau heb hailgyfeirio.

Mae'r sylwadau wedi cau.