Hacio’r Iaith, fflachio’r iaith

Fflachio'r Iaith

Dw i eisiau dysgu mwy am Android yn ystod Hacio’r Iaith 2012 felly dw i wedi ychwanegu syniad am sesiwn Fflachio’r Iaith i’r wici.

Wrth gwrs does dim rhaid i mi (neu unrhyw un) gwybod lot am bwnc er mwyn cynnal trafodaeth a gweithdy – jyst paid â disgwyl cyflwyniad prydferth. Byddaf i’n hapus iawn gydag un neu dau person arall, neu mwy. Rydyn ni’n gallu dysgu gyda’n gilydd.