Profi’r ategyn Storify ar WordPress

Dw i’n profi’r ategyn Storify newydd ar gyfer WordPress.

Dylai’r pwrpas Storify bod yn eithaf amlwg o’r enghraifft yma – casglu darnau o gynnwys o gwmpas y we i greu stori. Mae Al Jazeera a chwmniau newyddion wedi bod yn ei defnyddio yn ddiweddar i gyhoeddi ond hefyd i wahodd straeon o’r gymuned/cynulleidfa.

Mae ffeil POT i’w gyfieithu ond mae brawddegau gweinyddwr yn unig fel ‘Insert Story’, does dim byd gweledol i’r ymwelwyr. Mae rhan fwyaf o’r brawddegau system uchod yn dod o’r gwasanaeth.

Dw i ddim yn siŵr eto faint mae’r ategyn yn ychwanegu i’r profiad achos mae’n bosib mewnosod y stori hen yr ategyn.

One Comment

  1. Posted 12 January 2012 at 1:25 PM | Permalink

    Dw i’n defnyddio Storify i casglu pethau o cynadleddau. Dw i’n tweet drwy’r dydd ac yn trio wneud synnwyr o bopeth a y diwedd!

    Fel http://storify.com/swanseaitec/digital-wales-conference

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*