Derbyn cywiriadau gramadeg oddi wrth ddarllenwyr

Dw i eisiau gwella fy Nghymraeg ysgrifenedig. Mae’r blog i gyd yma yn rhan o’r cynllun wrth gwrs.

Diolch yn fawr i Rhys Wynne am ebostio cywiriadau i gofnod diweddar. Enghreifftiau o gywiriadau:

  • ‘ydy’ yn lle ’mae’ mewn cwestiwn
  • ‘sylweddoli’ yn lle ‘sylwi’ (wedi gwneud yr un yma o’r blaen)
  • beirniad yn lle barnwr
  • trydedd/pedwaredd yn lle trydydd/pedwerydd (sa’ i’n poeni lot am yr un yma achos mae’r ystyr yn glir ond y ffaith bod fersiynau gwrywaidd a benywaidd yn ddiddorol)

Mae’r cofnod yn well o ran gramadeg. Bai fi yw unrhyw wendidau eraill.

Beth sydd angen yw rhyw fath o system sydd yn derbyn cywiriadau oddi wrth ddarllenwyr: pwyntio, clicio ac awgrymu cywiriad gydag esboniad. Mae’r esboniad yn bwysig achos mae’r broses dysgu yn bwysig. Yn hytrach na jyst cynhyrchu dogfen rydyn ni’n defnyddio camgymeriadau fel sail dysgu er mwyn gwella fy sgiliau (neu dy sgiliau neu pwy bynnag sydd yn defnyddio’r system).

Gyda llaw gwnes i ofyn am help Rhys. Yn gyffredinol – annwyl achubwyr yr iaith bondigrybwyll – dw i ddim eisiau annog yr arfer o danseilio hyder pobol trwy gywiriadau manwl bob tro mae rhywun yn mynegi ei hun yn Gymraeg. Ond os mae rhywun eisiau defnyddio Cymraeg safonol ac yn gwahodd cywiriadau, cer amdani.

Ar hyn o bryd dw i’n meddwl am ategyn WordPress, naill ai rhywbeth wiciaidd neu rywbeth tebyg i nodiadau ar Google Docs a phrosesyddion geiriau eraill.

4 Ateb i “Derbyn cywiriadau gramadeg oddi wrth ddarllenwyr”

  1. Syniad da iawn! Dw i’n siwr y byddai gwefannau proffesiynol hefyd yn elwa ar wasanaeth o’r fath!

    Yr unig broblem o bosib yw bod yna lawer iawn o heddlu iaith ar y we sy’n a) gwbl anghywir, neu b) yn gwybod ambell i reol ac yn benderfynol o’i orfodi ar eraill ond yn anwybyddu’r gweddill. Dw i’n teimlo weithiau fod hanner y Cymry Cymraeg yn dweud ‘dyw fy iaith i ddim digon da’, a’r hanner arall yn dweud ‘dyw dy iaith di ddim yn ddigon da’ wrth bawb arall!

    Heb sôn am yr amrywiol dafodieithoedd a chyweiriau iaith sy’n cymhlethu pethau ymhellach!

    Yn bersonol dw i ddim yn teimlo bod angen poeni gormod am safon iaith ar flogiau/twitter. Os ydych chi’n darllen blogiau a fforymau Saesneg mae safon yr iaith yn aml yn echrydus. e.e. pobol yn sillafu ‘won’ fel ‘one’, ac yn camsillafu geiriau syml eraill…

  2. Mae hyn yn syniad diddorol iawn, ffordd o alluogi pobl o bob lefel o Gymraeg i wella, heb golli hyder…

    Hefyd, mae’r pwynt gan Ifan yn un dilys, cyfrwng anffurfiol yw blogio/trydar, y pwynt yw i gyfathrebu, nod gramadeg!

  3. Dw i ddim yn poeni am safon iaith – yn arbennig ar blogiau pobol eraill!

    Mae tafodieithoedd a chyweiriau ac maen nhw i gyd yn ddilys fel arddulliau. Mae bratiaith/slang yn ddilys hefyd yn fy marn i. Mae sawl rhan o iaith ’safonol’ yn dechrau ar y strydoedd.

    Beth yw diffiniad blog? Cyfres o gofnodion mewn trefn amser, dyna i gyd. Mae amcanion blogiau gwahanol yn amryw iawn. Felly mae gyda fi amcanion fy hun yma, e.e. dw i eisiau dysgu’r iaith ’safonol’ ysgrifenedig ymhlith amcanion eraill.

  4. Bydd rhwybeth fel ’na yn defnyddiol iawn i fi hefyd – fel dysgwyr Cymraeg A fel tiwtor i oedolion yn astudio Sgiliau Sylfaenol.

    Mae rhaid iddyn nhw ddangos bod nhw wedi cywirio eu gwaith.

Mae'r sylwadau wedi cau.