Ôl-’dysgwr’

Mae Christine James yn Archdderwydd. Llongyfarchiadau iddi hi. Mae dolen i’r stori BBC ar y dudalen flaen yr holl adran Saesneg, stori top ar BBC Newyddion ac yn brif stori Golwg360 ar hyn o bryd.

Ond dyw’r term ‘dysgwraig’ yma ddim yn briodol. Mae hi’n ddarlithydd yn y Gymraeg! Ar gyfer unrhyw un arall sydd yn rhugl mae’r term yn rong. Ydy Bobi Jones yn dysgwr? Nac ydy. Does neb sydd yn cyhoeddi papurau fel Canu Gwirebol a Wittgenstein ar ei wefan yn haeddu’r term dysgwr. Beth am Heather Jones? Neu Gwynfor Evans? Neu Ffred Ffransis? Neu Jerry Hunter? Mae rhywbeth fel ‘person sydd wedi dysgu’, ‘person ail iaith’ neu ‘person trydedd iaith’ yn well efallai. Neu ‘mabwysiadwr’.

Sut mae grwpiau ieithyddol eraill yn delio gyda phobl fabwysiedig? Sa’ i’n meddwl bod ieithoedd eraill yn ystyried ‘dysgwr’ fel categori arbennig, yn enwedig pobl rhugl. Fel arfer does dim angen gwobr dysgwr iaith y flwyddyn chwaith achos mae atyniadau fel y mae yn ddigon.

Gyda llaw, ar y teledu dw i erioed wedi gweld enghraifft gredadwy o gymeriad sydd wedi mabwysiadu Cymraeg fel ail iaith. Ond dw i wedi gweld sawl caricature fel yr Americanwr comig ar Pobol Y Cwm, yr ysgrifenyddes dwp ar Gwaith Cartref ayyb.

10 Comments

  1. Sion Jobbins
    Posted 24 Mehefin 2012 at 6:09 PM | Permalink

    Cytuno Carl. Ydy Christine James, wir yn ddysgwraig, bellach? OK, mae’n neis gallu dweud y penawd yna i ddangos fod y Steddfod yn ‘gynhwysol’ etc, ond wir, mae hi wedi bod yn rhugl ers degawdau.

    Ti’n iawn am y Ddysgwraig yn Gwaith/Cartref. Braidd yn embarasing a dweud y gwir.

    Beth am gymeriad – fel nifer dwi’n nabod – sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, ond, ie, ddysgon nhw’r iaith wedi iddynt adael ysgol? Ie, gellir cyfeirio at y peth rhyw bryd yn y ddrama ond ei fod yn rhywbeth naturiol – fel mae e mewn bywyd go iawn.

  2. Posted 24 Mehefin 2012 at 11:30 PM | Permalink

    Dw i ddim yn credu fod siaradwyr Cymraeg yn defnyddio ‘dysgwr’ neu ‘dysgwraig’ fel ryw fath o ymgais i roi pobol mewn ail-ddosbarth, ond yn hytrach ryw fath o ymgais i ryw brownie points ychwanegol iddyn nhw.

    Felly yn hytrach na cheisio cyfleu ‘dyw Christine James, er ei bod hi’n Archdderwyddes, ddim cystal a’r gweddill ohonom ni’ maen nhw’n ceisio dweud ‘mae Christine James yn well na ni achos mae hi wedi dysgu y Gymraeg yn oedolyn a bellach yn mynd i fod yn Archdderwyddes’. Os yw hynny’n gwneud synnwyr…

    Dw i’n argyhoeddiedig mai’r ffaith ei bod hi wedi dysgu Cymraeg yw un o’r prif resymau yr enillodd Leanne Wood arweinyddiaeth Plaid Cymru a dweud y gwir…

    Efallai bod angen ail-feddwl y term ‘dysgwr’ ond mae’n ennyn gobaith, yn hytrach na dirmyg, ymysg siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.

  3. Posted 25 Mehefin 2012 at 12:15 PM | Permalink

    Dw i ddim yn credu fod siaradwyr Cymraeg yn defnyddio ‘dysgwr’ neu ‘dysgwraig’ fel ryw fath o ymgais i roi pobol mewn ail-ddosbarth…

    ‘Sneb yn awgrymu hynny, amae’n siwr nad oes ffaden o ots gan rai, ond gallaf ddychmygu eraill, a gwyddwn bod sawl sydd wedi dysgu’r iaith yn blino ar y ‘tag’ hyn (e.e. Chris Cope), a dw i’n meddwl baswn innau’n teimlo’r un fath gyda’r label. Fel ti’n deud, Carl, sneb byth yn cyfeirio at siaradwyr Saesneg ail-iath yn yr un modd. Falle beth ydy o gyda lot o siaradwyr Cymraeg, yn enwedig rhai sy’n byw mewn cymunedau Cymraeg eu haith a ble mae cynifer yn dod i fyw yn eu mysg ac yn gwrthod/methu dysgu Cymraeg, mae gweld rhywun sy yn dysgu’r iaith i lefel mor rhugl yn dal i fod yn ‘esgotig’ iawn rhywsut!

  4. Posted 26 Mehefin 2012 at 1:26 PM | Permalink

    MAe’r blog O Bell hefyd yn trafod y defnydd o’r gair ‘Dysgwr’ o fewn diwylliant Cymraeg.

  5. Posted 27 Mehefin 2012 at 1:02 AM | Permalink

    Diolch am hwn. Rwy’n falch nad oeddwn i yr unig un i ofyn pam y defnyddwyd yb fath eirfa.

  6. Posted 28 Mehefin 2012 at 12:56 PM | Permalink

    Mae’n anodd i ddod o hyd y balans cywir. Canmol a dathlu dysgwyr llwyddiannus yw peth da, wrth cwrs mae e, ond hefyd mae tynnu sylw drwy amser at rhywun sy WEDI dysgu yn gallu teimlo’n nawddoglyd ac annheg.

    Y peth neisa mae’n bosibl i glywed fel dysgwyr yw, “O’n i DDIM YN GWYBOD ti wedi dysgu!”

  7. ifanceinion
    Posted 29 Mehefin 2012 at 1:08 AM | Permalink

    Difyr iawn, dw i’n hoff iawn o dy syniad o ddefnyddio’r gair ‘mabwysiadwr’. Ers i’r stori hon ddod allan, dw i wedi bod yn meddwl am ystyr y gair ‘dysgwr’ ac wedi sgwennu cofnod bach efo’r bwriad o ddefnyddio fo ar blog newydd, ond o’n i’n methu meddwl am term gwell… lle wyt ti’n tynnu’r llinell rhwng ‘dysgwr’ a ‘mabwysiadwr’ felly?

    Dw i ddim yn ystyried fy hun yn ‘ddysgwr’ bellach, er bod llawer ar ôl i mi ddysgu mae’n siŵr, achos erbyn hyn dw i’n dysgu pethau newydd trwy’r cyfryngau a trwy siarad efo pobl eraill, yn hytrach nag ‘astudio’ yr iaith.
    Ond dw i’m yn siŵr os dw i’n cael bod yn fabwysiadwr chwaith – gan nad ydw i’n defnyddio’r iaith yn fy mywyd dydd-i-ddydd…

  8. Posted 9 Gorffennaf 2012 at 10:37 PM | Permalink

    Ble ydw i’n tynnu’r llinell? Rhywun sydd yn gallu siarad Cymraeg heb droi at Saesneg yw mabwysiadwr. Felly mae angen symud pobl o’r categori ‘dysgwr’ cyn gynted â phosib.

    Ond mae’r term addas yn dibynnu ar y person achos mae hunan-disgrifio yn fater sensitif.

    Dyna ni: issue hunaniaeth arall yng Nghymru!

  9. C Jones
    Posted 16 Gorffennaf 2012 at 5:09 PM | Permalink

    Mae’n werth pwyntio allan wnaeth y Basgwyr fathu term dros 20 mlynedd yn ol i ddisgrifio rhywun a oedd wedi dysgu’r iaith i lefel rhugl: ‘Euskaldunberri’ (os dwi’n cofio’n gywir). Mae’n cyfieithu fel ‘siaradwr Basgeg newydd’.

    Dwi’n licio hwnna.

  10. Posted 6 Awst 2012 at 1:31 PM | Permalink

    A ‘New Gaels’ ar gyfer rhai sy wedi (ac falle dal yn) dysgu Gaeleg yr Alban.