Mwy o fideos coginio plîs, gwe Gymraeg

Mae gymaint o flogiau Cymraeg am fwyd. Ond does dim llawer o fideos coginio.

Dw i’n methu credu bod blwyddyn wedi mynd heibio braidd ers fy fideo difrifol iawn am sut i greu bara garlleg. Mwy o fideos coginio plîs, gwe Gymraeg. Bara brith falle?

Dw i eisiau dychmygu bod pobl eraill yn meddwl ‘byddwn i’n gallu creu rhywbeth lot gwell na hyn…’. Dyma fy strategaeth yn aml iawn – ysbrydoliaeth negyddol. Sa’ i’n meddwl bod e’n gweithio bob tro.

Wrth gwrs dw i’n ystyried ymdrechion gwirfoddol yn bennaf.

6 Ateb i “Mwy o fideos coginio plîs, gwe Gymraeg”

  1. Cytuno mai dyna’t cam nesaf i fi, ffeindio allan sut i wneud fideo o fi’n coginio. Angen gweithio allan y logistics i ddechrau!

  2. Yr un peth i fi – fel dywedodd Elliw – y ‘logistics’ – pe byddwn i’n gwneud fideo coginio bydde bwyd yn mynd ar fy nghamera ac allwn i ddim ganolbwyntio ar y coginio ei hun!

Mae'r sylwadau wedi cau.