Gwleidyddion, plant a’r iaith

Mae pobl yn anghofio sut mae’r byd yn edrych trwy lygaid ifanc. Mae plant yn sylwi ar bethau, maen nhw yn casglu data trwy’r amser sydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau.

Pan o’n i’n ifanc roedd rhaid i mi astudio lot o bynciau yn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd gan gynnwys y Gymraeg. Ond, o’n i’n ddigon soffistigedig i weld sut oedd oedolion yn ystyried pynciau. Mae’r geiriau yn wahanol ym mhob ysgol ond mae themâu yn debyg. Dw i’n cofio’r geiriau’r athrawon yn fy ysgol i: ‘the core subjects are English, Maths and Science…’.

Dw i’n sgwennu’r cofnod blog yma i unrhyw oedolyn sydd eisiau meddwl am y pwnc, o unrhyw le ac unrhyw sefydliad.

Os wyt ti’n rhiant mae dy blant yn ddigon soffistigedig i weld sut wyt ti’n ystyried y Gymraeg gan gynnwys cyd-destunau tu hwnt i barthau fel y dosbarth a’r cartref. Maen nhw yn sylwi.

Os wyt ti’n athro neu wleidydd ac yn rhiant sydd ddim yn cymryd pob cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod dy waith, pa fath o neges wyt ti’n anfon i dy blant? Dylen ni fel oedolion cymryd yr iaith o ddifri cyn i ni ddisgwyl ein plant ni feddwl yr un peth.

4 Ateb i “Gwleidyddion, plant a’r iaith”

  1. Hoelen. Taro. Pen!

    Pobl yn gweud ar y radio gynnau bod Carwyn Jones yn ffili â chael ei blant i siarad Cymraeg gyda’i gilydd. Rwyt ti wedi gweld gwirionedd eu sefyllfa, wi’n credu!

    Ond r’yn ni gyd yn euog o hyn i raddau. Sawl un ohonom sydd yn siarad Cymraeg gyda phlant o deuluoedd di-Gymraeg? Neu gyda dysgwyr eraill? Sawl un ohonom sydd â ffrindiau (neu bartneriaid) Cymraeg eu hiaith, a ninnau’n siarad Saesneg gyda nhw?

    Diolch am y blogiad craff yma!

  2. Hoelen ar ei phen yn wir. I ddechrau, gallai Llwyodraeth Cymru droi’r Gymraeg yn iaith weinyddiaeth fewnol cwbl o adrannau’r llywodraeth (e.e. addysg, amaeth), dyweder dros gyfnod o 3 blynedd, yn tynnu ar brofiadau Cyngor Sir Gwynedd o rhan hyfforddi’r staff ac ati. Gallai cyrff eraill y wladwriaeth wneud yr un peth. Beth am gatrawd Cymraeg yn y fyddin Brydeinig (a’r cadetiaid), fel sydd i’r Swedeg yn y Ffindir (mae’n ddrwg gennyf i’r heddychwyr, ond mae methu â chymryd yr iaith o ddifri mewn maes o’r fath yn gyrru neges i blant am ei amherthnasoldeb)? Beth am ehangu dysgu Cymraeg i oedolion o ddifri fel yng Ngwlad y Basg?

  3. Ydw ac dwi’n deall y pwynt. Fy argraff yw, serch hynny, bod cryn nifer o Gymry yn lluoedd arfog Prydain, y cadetiaid ac ati. Dyna’r realiti a byddai angen i Gymru annibynnol bod a lluoedd amddiffyn o ryw fath. Rhaid peidio a hepgor yr iaith o unryw faes.

Mae'r sylwadau wedi cau.