Mwynhau cerdded Rhondda ac Ogwr

ogwr-aled-2-mawrth-2013

Mae gymaint o lefydd tu hwnt i’r A470! Ac mae’r bryniau o gwmpas y cymoedd Rhondda ac Ogwr yn hyfryd iawn yn yr haul, ymhlith y gorau ar ddaear Duw. Diolch i Glwb Mynydda Cymru am drefnu’r anturiaeth dydd Sadwrn.

Bydd rhaid i mi ail-ymweld. Oes unrhyw argymelliadau o lwybrau tra fy mod i’n aros am Fwrdd Twristiaeth y Cymoedd i ddychwelyd fy negeseuon (neu ddod i fodolaeth)?

Dyna ni, efallai rydyn ni wedi newid i’r fath o flog sydd yn rhannu data di-ri am amserau ymarfer corff. (Dad-danysgrifiwch nawr!) Wedi dweud hynny, dyw’r ddata ddim yn hollol dibynadwy. O’n i’n defnyddio ap symudol My Tracks fel arbrawf ac roedd GPS yn methu ambell waith am ryw reswm felly mae bylchau. Roedd cyfanswm go iawn y daith ychydig yn llai na 14 milltir. Y daith hiraf dw i wedi gwneud ers tro a dweud y gwir.

4 Ateb i “Mwynhau cerdded Rhondda ac Ogwr”

  1. Dw i’n genfigenus iawn. Dw i’n aelod o CMC ond heb fod ar daith ers dros ddwy flynedd. Bues ar daith reit hir gyda nhw yn cerdded o Barc Gweledig Aberdar hyd at Llyn Fawr

    Tydi’r teithiau hyn ddim mor hard-core a theithiau CMC, ond mae mae adran ‘Stroll-on’ hanner ffordd lawr y dudalen yma yn dangos mapiau o deithiau yn Sir Caerffili:
    http://your.caerphilly.gov.uk/countryside/walking/healthy-walks.

    Buodd criw ohonom yn trefnu teithiau yn y Cymoedd o dan yr enw Clwb Cerdded 2YQ – dyma rai o’m lluniau.

Mae'r sylwadau wedi cau.