Dwyreinioldeb a fi

http://www.youtube.com/watch?v=xwCOSkXR_Cw

Dw i wrthi’n darllen mwy am ddwyreinioldeb ac Edward W. Saïd ar ôl i mi ddychwelyd o Balesteina.

Mae gyda fi llwyth o fideo amrwd o bob math o’r Lan Orllewinol gan gynnwys Bethlehem, Hebron, Nablus (yn y llun) a Ramallah ac ychydig o Ddwyrain Jerusalem. Er fy mod i ddim yn ystyried fy hun fel crëuwr ffilm go iawn (fel Greg Bevan), dw i eisiau trio adrodd fy mhrofiadau.

nablus-2013

Hyd yn oed os fydd dim ond 50 o bobl yn ei gwylio mae’n teimlo yn anoddach o ran maint a phwnc na’r siop sglods yng Nghas-Gwent. Mae’r holl peth yn teimlo fel cyfrifoldeb. Efallai yn yr is-ymwybod dw i eisiau osgoi unrhyw fath o ddwyreinioldeb yn y ffilm!

O’n i’n ymwybodol o’r angen i ofyn yn ofalus am ganiatadau i gynrychioli unigolion. Mae lle yn y fideo i bethau difyr yn ogystal ag adroddiadau am y meddiannaeth a gwahaniaethu ethnig gan y wladwriaeth.

Mae rhywbeth diddorol iawn yn digwydd yn ystod prosiect golygu fideo. Mae angen canfod y clipiau arwyddocaol yn gyntaf. Wedyn dw i’n sylwi ar bethau mewn ffordd gwahanol. Hynny yw, dw i’n datblygu dealltwriaeth gwell o sefyllfaoedd a pherthnasau rhwng pobl. Dw i’n siwr bod rhywun wedi ysgrifennu testun academaidd amdano fe.

5 Ateb i “Dwyreinioldeb a fi”

  1. ‘Dwyrainioldeb’?!

    Diawl, tro cyntaf i glywed y gair ’da Carl! Dyn y Dadeni yn bathu geiriau newydd! Da iwan.

    Roeddwn i’n meddwl dy fod wedi sgwennu ‘Duwioldeb’ pan edrychais i gynta ac yn disgwyl blogiad ar grefydd!

  2. Ble gallwn ni gwylio’r ffilm? Ydy e’n barod?

    O ran llyfrau/erthyglau ar golygu, darllena ‘In the Blink of an Eye’ gan Walter Murch. Ddim yn academaidd ond gwell peidio ‘deallusoleiddio’ golygu.

    Fi ddim yn creuwr ffilm, fi’n collage artist – wythnos yma ta beth.

    Diogel.

  3. Shw mae!

    Dwi jest ar hanner darllen Roland Barthes, os nad yr un maes yna cae weddol agos…

    gan Barthes syniadau diddorol ynglyn a symbylaeth Ffrainc – y stec, y chwaraeon, y gwin…

    gwin sydd wedi cael ei ddwyn o wrawnwyn ar dir Moslemiaid yn Algeria nad sydd yn gallu bwydo eu hunain…

    trais a gormes, gormes a thrais.

    Anniogel yw’r byd, hyd yma

    W

Mae'r sylwadau wedi cau.