Anturiaethau yn yr iaith Gantoneg

Dw i’n dweud pethau syml yn yr iaith Gantoneg erioed: ymadroddion syml fel ’wyt ti eisiau paned?’, ‘blasus iawn!’, ‘Blwyddyn newydd dda’, ‘poeth’ (o ran tymheredd ac o ran sbeis, mae dau air gwahanol), ‘bore da’, ’diolch’ a sut i gyfrif o un i ddeg.

Ond dw i’n dweud ers blynyddoedd fy mod i am ddysgu Cantoneg i fod yn rhugl. Gwella er mwyn cynnal sgwrs go iawn yw’r nod – a dysgu mwy am y diwylliannau a fy ngwreiddiau.

Dyna yw’r adduned blwyddyn newydd. Ces i gwrs ar ddisc fel anrheg Nadolig gyda 14 gwers dros saith awr. ‘Na gyd dw i’n gorfod gwneud ydy gwrando arnynt!

Dw i ddim yn siŵr pa lefydd a gweithgareddau yn ne Cymru sy’n addas ar gyfer ymarfer Cantoneg yn ogystal â phethau ar-lein. Efallai bydd rhaid dechrau rhywbeth! Dw i ddim yn cael yr argraff bod bwytai, siopau a busnesau am dreulio oriau yn helpu dysgwr. Ond bydd rhagor o gyfleoedd i ymarfer gyda theulu ym Malaysia ym mis Mawrth 2015.

4 Ateb i “Anturiaethau yn yr iaith Gantoneg”

  1. Carl – dwi’n nabod rhywun sy’n siarad Cantonese (a Chymraeg). Dynes o Singapôr sydd wedi priodi Cymro. Mae’n siarad Cantonese a Mandarin.

    Diddordeb?

Mae'r sylwadau wedi cau.