Cwestiynu’r brif newyddion yn ôl BBC Cymru Fyw heddiw

Pennaeth canolfan Gymraeg yn ymddiswyddo.

Dyna’r brif stori ar wasanaeth newyddion Cymraeg y BBC ers chwe awr heddiw.

Dw i ddim yn dweud bod hi ddim yn addas fel stori fach o ddiddordeb i rai o bobl.

Ond ai dyna yw’r brif stori go iawn heddiw?

Mae ymwelwyr Cymraeg angen gwybod am yr economi, gwleidyddiaeth, trafnidiaeth, iechyd, addysg ac yn y blaen. Hefyd, ble mae’r newyddion rhyngwladol?

Dw i wedi sôn am hynny o’r blaen. Dw i’n hoff o BBC Cymru Fyw a dw i ddim yn rhoi bai ar y tîm newyddiadurol yng Nghymru o gwbl. Mae potensial i wneud rhywbeth gwell. Ai dyma yw’r peth gorau sy’n bosib yn y Gymraeg?

Mae’r sefyllfa yma yn adlewyrchu problemau sylfaenol gyda’r ffordd mae’r BBC fel corfforaeth yn ystyried y Gymraeg, iaith isradd ar gyfer materion plwyfol yn unig, iaith sydd ddim yn haeddu cael delio gydag unrhyw beth o bwys.

Ond mae dyletswydd ar y BBC i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus. ‘Hysbysu, addysgu a diddanu’ yw slogan y gorfforaeth. Yn y Gymraeg ar-lein dw i ddim yn gweld sut mae’r gorfforaeth yn llwyddo i gyrraedd y nod hynny.

4 Ateb i “Cwestiynu’r brif newyddion yn ôl BBC Cymru Fyw heddiw”

  1. Carl,

    Fel aelod o’r cyhoedd sy’n byw yn ardal Llundain, roedddwn yn gwybod mor bell nôl a diwedd mis Ebrill bod y ddynes hon wedi gadael ei swydd.

    A oedd yr eitem felly yn “newyddion”?

    Hwyl, Huw

  2. mae hyn wdi digwydd ers misoedd – , methu gwrando ar radio cymu yn y bore – achos does dim gwasanaeth newyddion bellach ers blynyddoedd – troi i radio wales a Radio 4

  3. Ar Radio 4 y byddaf yn gwrando.

    Dwi di meddwl ers dipyn, does dim i stopio Radio Cymru benthyg myfyrwyr neu staff o adrannau ieitheodd prifysgolion Cymru. Buasent yn gallu trafod tudalenau blaen papurau newydd fel Die Welt, Le Monde neu El Pais?

Mae'r sylwadau wedi cau.