Dyddiau cynnar yn y stori e-lyfrau

Des i ar draws erthygl Guardian o Awst 2011 gan William Skidelsky am brisiau llyfrau ac e-lyfrau, dyma’r diweddglo: [...] It’s still early days in the ebook story, and no doubt there’ll be many disputes and disruptions along these lines in the future. But here’s a final thought for now. Was it wise to allow [...]

Profi blogio ar fy ffôn newydd

Cofnod cyntaf ar fy ffôn newydd (Dell Streak sydd yn rhedeg Android). Joio. Llun o glawdd gorllewin, Caerdydd

Cadwch y pwyll mewn pwyllgor (ymgynghoriad Cynulliad)

Nos Lun nes i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus gyda’r grŵp gorchwyl a gorffen o’r Cynulliad ynglŷn â dyfodol y cyfryngau yng Nghymru. Beth oedd yn nodedig oedd y defnydd o’r we i gynnal sgwrs fyw. Chwarae teg i’r Cynulliad am drio trafodaeth o ryw fath ar y we. Ond yn anffodus o’n i [...]

Rhodri Talfan a BBC Cymru ar-lein

I fod yn deg i BBC Cymru dw i wastad yn cael rhyw fath o ateb i unrhyw gofnod amdanyn nhw, fel arfer trwy ebost neu alwad ffôn. Mae croeso iddyn nhw adael sylwadau hefyd. Os oes gyda ti syniad neu farn amdanyn nhw dylet ti blogio fe ac anfon y ddolen iddyn nhw yn [...]

Ymddiried a rhannu

Bob hyn a hyn mae rhywun yn rhannu gwybodaeth sensitif gyda fi am brosiect neu rywbeth ar y gweill ac yn aml iawn maen nhw yn dweud ‘plîs paid â phostio’r manylion ar y we – ar hyn o bryd’. Wel, diolch. Does dim rhaid i ti ofyn o gwbl achos dw i ddim yn [...]

Cyngor darllenyddion

Nôl yn yr 80au Lotus 1-2-3 oedd y killer app ar MS-DOS ar yr IBM PC. Roedd y meddalwedd mor arbennig ac unigryw a chafodd pobol eu perswadio i brynu’r platfform er mwyn rhedeg y meddalwedd. Mae enghreifftiau eraill. Meddwl am e-lyfrau eto. Mae sefyllfa gyda’r diffyg e-lyfrau Cymraeg ar Kindle yn debyg i killer [...]

Ffenestr rhaglenni ar BBC iPlayer

Roedd dau trafodaeth da ar sioe Dylan Iorwerth heddiw – un am brotestiadau meddiannu yng Nghymru ac un am PRS a cherddorion Cymraeg – a mwy. Am faint fydd sioe Dylan Iorwerth yn barhau ar BBC iPlayer? Un wythnos yn unig. Yfory bydd y sioe cyntaf o fis Tachwedd yn cwympo yn yr ebargofiant digidol [...]

Think Digital Caerdydd

Dw i’n siarad yn y digwyddiad Think Digital Caerdydd wythnos nesaf. Dere draw.

E-lyfrau 2011, recordiadau 2004

Fel ateb i’r cofnod diwethaf mae Ifan wedi cyhoeddi cofnod ac yn dweud: [...] Yn ddelfrydol, wrth gwrs, fe fyddai pawb yn defnyddio cynnyrch open source, ond fel y mae pethau mae’r rhan fwyaf o bobol yn defnyddio systemau’r cwmnïau mawr, gan gynnwys Kindle ac iTunes. Er mwyaf sicrhau bod cynnyrch Cymraeg yn cyrraedd ei [...]

Pwy sy’n rheoli’r cyfryngau yn y 21ain ganrif?

Yn ôl y sôn mae ymgyrchwyr yn Iran yn siomi gyda newidiadau i Google Reader (ac mae Techcrunch wedi cyhoeddi stori amdano fe). Mae gwasanaethau meddalwedd ar-lein yn bwysig iawn. Gwasanaethau ar-lein yw’n amgylchedd cyfryngau nawr. Rydyn ni’n trafod Twitter, Facebook ac ati fel yr oedden ni’n trafod y teledu. Ac dylen ni meddwl am bobol fel Mark Zuckerberg, [...]