Category Archives: books

Gutenberg, ti a fi

Mae Ifan Morgan Jones wedi sgwennu cofnod diddorol iawn, Harry Potter, eLyfrau a’r Gymraeg. Mae lot o bwyntiau dilys yna ond o’n i eisiau rhoi ffocws ar un peth yn unig: Mae’r cyhoeddwr hefyd yn rheoli ansawdd llyfrau. Dydyn nhw ddim yn mynd i ryddhau unrhyw hen sothach, ac mae unrhyw un sy’n prynu llyfr [...]

Blog barnau dyddiol, yr angen

Mae Click on Wales newydd ail-gyhoeddi naw (9!) adolygiad llyfr ar yr un pryd gan gynnwys erthygl gan Daniel G. Williams, sef adolygiad o Bydoedd gan Ned Thomas. Fel crynodeb Saesneg o’r dyn a’i gwaith a meddwl mae’n wych. Dw i wastad yn meddwl am Click on Wales a beth fyddwn i wneud gyda fe [...]

Trafod technoleg? Methiant cyfryngau prif-ffrwd

Dyma eitem newyddion teledu S4C, gan BBC, gyda sylw gennyf fi: “A fydd yr e-lyfr yn achosi tranc y llyfr papur ac inc?” Gwnaethon nhw defnyddio cyfanswm o 15 eiliad o’r fideo gyda fi. Wrth gwrs dwedais i lot mwy ond dw i’n deall sut mae teledu yn gweithio ac o’n i’n gwybod pwyslais yr [...]

Llyfrau rhydd a llyfrau am ddim

Dw i wedi bod yn meddwl am llyfrau rhydd ac am ddim. Hanner cofnod. Mae gwahaniaeth rhwng y dau wrth gwrs. Mae’n haws yn Gymraeg. (Yn Saesneg mae ‘free culture’ a ‘free software’ bach yn anodd i esbonio. Ond mae pobol yn deall ‘free speech’…) Nawr eleni mae The Great Gatsby gan F Scott Fitzgerald [...]

Llyfrgell Genedlaethol a’r Llyfrgell Fyd-eang

Gwnes i gymryd rhan yn sgwrs heddiw dan y teitl Y Dyfodol i Lyfrau – o archifau i’r dyfodol papur i e-lyfrau, y manteision ac anfanteision – yn y digwyddiad Bedwen Lyfrau yn Y Rhath, Caerdydd gyda Siôn T. Jobbins. Yn diweddar dw i wedi bod yn meddwl am y we a’r rhyngrwyd yn y [...]

Rhannu yw’r recordio newydd.

Dim ond meddyliau heddiw. Mae’r rhan fwyaf o bethau yn Gymraeg yn anweledig. Maen nhw yn cysgu mewn archifau. Trafodwch. BBC Recordiau Sain Bando Sidan S4C Fideos o Eisteddfodau Llyfrau Y Gasgen Pethau o’r 1990au a 2000au Ernest (DIWEDDARIAD 26/03/2011) Dylen ni rhyddhau a rhannu nawr. Mae’r arian yn gallu dod hwyrach. 1960au. Arwr yr [...]

‘Chydig ar gofnod

” Y DALENT o wneud elw – ni feddaf, Na fydded dim twrw ; Am yr hyn ynt – cymer nhw, ” ‘Chydig ar gof a chadw.” englyn gan Gwilym Deudraeth, mwy ar Hacio’r Iaith

Rhannu llyfrau: môr-ladrad vs. dinodedd

Yn ystod dacluso disg caled wnes i ail-wrando ar yr araith hon o fis Hydref 2008 gan yr awdur Neil Gaiman am: hawlfraint, copïo, llyfrau, rhannu. Mae fe’n siarad am y gwerth “pass-along” sydd wedi bodoli gyda llyfrau am oesoedd (e.e. sut wyt ti’n ffeindio dy hoff awduron? Trwy ffrindiau, awgrymiadau, benthyciadau, llyfrgelloedd ond weithiau [...]

Casglu ein gweddill gwybyddol gyda Clay Shirky

Dw i newydd darllen Cognitive Surplus gan Clay Shirky. Sa’ i eisiau sgwennu adolygiad go iawn, dim ond meddyliau. Darllena’r llyfr ac Here Comes Everybody, dyna ni – fy adolygiad. Y peth pwysicaf yw, dyw Shirky ddim wedi gorffen y llyfr. Dw i’n gofyn mwy o gwestiynau ar ôl y llyfr. Bydd rhaid i ni [...]

Diwylliant rhydd: gofyn i’r Llyfrgell Genedlaethol am ein hetifeddiaeth

Diwrnod Pethau Bychain hapus! Dw i’n postio pethau amrywiol yn safleoedd gwahanol. Ond ro’n i eisiau postio delwedd o Yn Y Lhyvyr Hwnn (y llyfr Cymraeg argraffedig cyntaf o 1546) yma. Basai’n ffordd briodol o ddathlu’r chwyldro cyhoeddi newydd, o’n i’n meddwl. Ond dyw Llyfrgell Genedlaethol ddim eisiau rhannu’r delweddau ar hyn o bryd. Dw [...]