Blog Carl Morris » language
Trydar dwyieithog, oes ots?
Twitter+Cymraeg=? neu Twitter-Cymraeg=?, dyma’r cwestiwn.
Yn hytrach na chofnod cynhwysfawr dyma bwyntiau gwahanol dro yma. Sa’ i eisiau bod yn ciwt heno trwy sgwennu nhw fel tweets.
Felly dyma casgliad o feddyliau am Twitter, Cymraeg a dwyieithrwydd.
Dw i’n meddwl bydd rhywbeth fel Twitter gyda ni am byth o hyn ymlaen. Bydd yr iaith Gymraeg yn parhau o hyn ymlaen felly mae’n werth ystyried y perthynas rhwng y dau. Wrth gwrs ar hyn o bryd mae Trydaru a thrydar yn golygu’r un peth (fel y mae Twittering a tweeting yn Saesneg yn golygu’r un peth). Mae’n siwr bydd mwy o blatfformau eraill yn y dyfodol neu gobeithio protocol agored yn hytrach na rhywbeth dan un cwmni. Beth bynnag, bob tro dw i’n dweud Twitter yma dw i’n cyfeirio at unrhyw gwasanaeth cyhoeddus ar-lein gyda negeseuon byrion mewn ffrwd.
Mae brandiau fel @ytwll, @golwg360, @haciaith, @tuchwith, @fideobobdydd, @bbccymru, @llencymru ayyb i gyd yn uniaith Gymraeg. Viva la brandiau!
Ond oes na unrhyw unigolion uniaith Gymraeg ar Twitter rhagor? Os oeddet ti’n meddwl bod rhyw fath o gadarnle mewn brên trydar Geraint Lövgreen (er enghraifft!), wel, ti’n rong. Nid yw fy mhwynt i i godi helynt gydag unrhywun, dim ond i sylwi bod defnydd personol Twitter yn hollol dwyieithog erbyn hyn. Deliwch â’r peth?
Mae unigolion sydd yn dechrau yn uniaith Gymraeg yn troi at Saesneg bob hyn a hyn yn y pen draw. Wel, lot ohonyn nhw…
Aildrydar yw’r gateway drug i drydariadau Saesneg.
Dw i byth yn aildrydar Saesneg o @ytwll er enghraifft. Dw i ddim yn meddwl bod e’n addas i’r brand. Ambell waith dw i wedi cyfansoddi neges newydd yn Gymraeg yn lle aildrydar.
Mae Twitter YN gyfrwng byd-eang. Os wyt ti’n mynd ar gyfrwng byd-eang rwyt ti’n cael dy globaleiddio gan ffans Justin Bieber. Oes ots?
Roedd pobol yn chwerthin pan wnaeth Dr John Davies sôn am y ffôn cynnar – roedd rhai o bobol Cymraeg yn cwestiynu os oedd y dechnoleg yn gallu trosglwyddo sgyrsiau yn Gymraeg. Dw i’n siwr bydd y sefyllfa diglossia ar y we yn cael ei ystyried yn yr un modd yn y dyfodol. Ond mae problemau sydd yn atal Cymraeg, e.e. mae’n anodd i decstio yn Gymraeg neu ddim mor hawdd â Saesneg. Mae awtogywiro yn wneud cawlach o Gymraeg.
Tu hwnt i globaleiddio (neu tu mewn) mae lot o bobol ifanc yn y dwyrain fel Caerdydd yn postio yn Saesneg achos mae gyda nhw ffrindiau neu dilynwyr di-Gymraeg. Efallai maen nhw eisiau cynyddu eu nifer o ddilynwyr. Ym mhersonol dw i’n trio peidio edrych at fy ystadegau dilynwyr, maen nhw yn hollol amherthnasol i’r sgwrs dw i eisiau cynnal NAWR.
Dw i’n siarad wrth gwrs fel rhywun sydd yn postio yn y dwy iaith. Dw i’n dwyieithog fel person. Os ydw i’n gofyn cwestiwn dw i’n trio yn Gymraeg cyntaf ac yn aros am ateb. Dw i’n rhoi blaenoriaeth i Gymraeg fel arfer.
Dw i’n ateb i bobol ddi-Gymraeg yn Saesneg eithaf lot. Byddi di dim ond yn gweld y trydariadau yna yn dy ffrwd os wyt ti’n dilyn y ddau berson sydd yn cymryd rhan yn y sgwrs (yr unig ffiltro yn dy ffrwd Twitter).
Yn fy marn i mae rhywbeth bach yn sefydliadol am bobol sydd yn drydar yr un neges dwywaith – yn y ddwy iaith. Hefyd mae Twitter mor llafar – mae’n od i weld pethau Saesneg gan bobol sydd yn hollol Cymraeg i ti. Dw i’n trio dychmygu’r llais Saesneg.
Ond wedi dweud hynny, mae lot o resymau pam mae pobol yn trydar yn Saesneg. Maen nhw yn byw tu fas i Gymru, yn ail iaith neu yn trio cymryd rhan mewn sgwrs benodol mewn niche (e.e. dylunio) neu sgwrs dan tag. Fel arfer mae tag yn gysylltiedig gydag un iaith, e.e. sioeau yn y Trydar-Teledu Complex. (Mae tagiau dwyieithog. Dw i’n cofio pan wnaethon ni awgrymu #senedd2011 i’r Cynulliad ar gyfer etholiadau.)
Mae pawb [wedi penderfynu bod] yn rhydd. Does dim rheolau. Mae polisi/amcanion iaith rhywun arall yn wahanol i dy un di.
Hefyd mae Twitter yn perfformiad cyhoeddus i ryw raddau. Dyma pam mae Dafydd El yn ateb Vaughan Roderick yn Saesneg. Ond mae ffenomen dal yn od i rywun sydd yn cysylltu nhw gydag un iaith yn unig.
Mae lot lot mwy ar y rhyngrwyd na Twitter. Ac mae angen lot mwy na Twitter Cymraeg er mwyn cynnal gwareiddiad. Blogia, recordiau fideo neu cyfieitha term neu dau o dy hoff feddalwedd.
Gyda llaw os ydw i’n asesu cyfryngau cymdeithasol a’r Gymraeg dw i’n ystyried ‘rhyngwyneb’, ‘cynnwys’ a ‘chymuned’. Mae rhyngwyneb yn bwysig ond dydy e ddim mor bwysig a’r dau arall.
Os wyt ti’n pryderu am shifft ieithyddol paid â ‘chywiro’ pobol Cymraeg sydd yn postio yn Saesneg. Paid â chyfeirio at y peth. Mae’n boring. Ond mae rhywbeth penodol rwyt ti’n gallu gwneud. Cadwch ar y pwnc a phostiwch ateb perthnasol yn Gymraeg. Atebwch pob trydariad yn Gymraeg. Rwyt ti wedi ateb y person gyda rhywbeth diddorol ac wedi newid y shifft ieithyddol tipyn bach. Hefyd mae mwy o Gymraeg yn arwain at fwy o Gymraeg.
Pethe ar alw
Mae pobol yn gofyn am DVDs o gyfresi fel Pen Talar, Alys a dramau eraill yn eithaf aml.
Syniad…
Pam dydyn nhw (S4C neu’r cwmnïau cynhyrchu) casglu addewidion/pledges i asesu’r alw?
e.e. mae angen targed o 600 person i ryddhau Gwaith/Cartref ar DVD. Dwedwch ‘addwch yma os dych chi eisiau DVD o Gwaith/Cartref’ gyda chyfanswmfa/totalizer. Neu beth bynnag, dw i ddim yn sicr am y ffigyrau. Yn delfrydol bydd y wasanaeth yn casglu’r arian ac yn cadw’r arian yn saff.
Os fydd ddim digon o bobol i gyrraedd y targed mae pawb yn derbyn eu arian yn ôl – ar ôl mis neu dau neu dyddiad penodol.
Os rydyn ni’n bwrw’r targed, mae gyda ni rhyddhad DVD! DVDs yw’r enghraifft gorau ond mae’r syniad yn gweithio gyda llyfrau papur hefyd. Mae’r enw ‘pethe ar alw’ yn wir i ryw raddau heblaw am yr arhosiad bach. Gwnes i ffeindio enghraifft lwyddiannus o 1926 sef llyfr o farddoniaeth. Tybed os ydy rhywun wedi trio ers hynny? (Y Byd… mewn ffordd.)
Dyma un o nodweddion y model Kickstarter sydd yn bwysig i ni yng Nghymru, sef yr addewidion/pledges. Rydyn ni’n trio ffeindio modelau i gynnal cyfryngau mewn iaith leiafrifol. Felly mae ‘methiant’ yn opsiwn! Does dim cywilydd os ydyn nhw yn methu ffeindio cwsmeriaid. Efallai gwnewch y peth gyda lot o gyfresu gwahanol i sicrhau ryw fath o ryddhad ar y diwedd.
Wrth gwrs dw i ddim yn siarad am fersiynau digidol yma, dylai e-lyfrau a lawrlwythiadau/ffrydiau am arian o bethau newydd i gyd bod ar gael fel digidol.
Mewn ffordd mae’r syniad yn addas i unrhyw fenter lle mae cwmni yn gallu cyfathrebu am gynnyrch penodol dychmygol, e.e. llyfr, rhaglen, argraffiadau o waith celf, crysau-t.
Clefyd y cofio
Gwyn Alf Williams:
In these circumstances, a people which had been deprived of its historical memory and whose children are still widely denied effective access to it in their schools, seems to have been seized by a hunger for its past. Local and amateur historical societies have proliferated while the academic study of Welsh history has become a major intellectual force.
Alongside the Welsh History Review has appeared the journal Llafur (Labour), organ of a Welsh Labour History Society which successfully marries academics and workers, traditional and novel styles, and scored a major success when, with help from the Social Science Research Council and the south Wales area of the National Union of Mineworkers, it rescued what was left of the magnificent miners’ institute libraries, which were being sold off without compunction to hungry hucksters (who also gobbled up a celebrated library at Bala-Bangor Theological College) and set up a well-equipped and efficient South Wales Miners’ Library at the University College of Swansea as a centre for adult education, active research and also as a kind of shrine, complete with a memorial to the fallen of the Spanish Civil War.
Parallel to this movement, in a way, there is Cofiwn (Remember!) a strongly nationalist group dedicated to remembering everything which, and anyone who, could help the Welsh build themselves into a nation.
While heartening, all this is also disturbing; one wonders whether it is some kind of symptom. We are living through a somewhat desperate hunt after our own past, a time of old militants religiously recorded on tape, of quarries and pits turned into tourist museums. This recovered tradition is increasingly operating in terms of a Celebration of a Heroic Past which seems rarely to be brought to bear on vulgarly contemporary problems except in terms of a merely rhetorical style which absolves its fortunate possessors from the necessity of thought. This is not to encapsulate a past, it is to sterilize it. It is not to cultivate an historical consciousness; it is to eliminate it.
When Was Wales?
Geiriau 1985
Penguin, tudalen 300
Yn ystyried y paragraff olaf uchod yn gyd-destun y sgwrs ar y cofnod diwethaf, Cofio pethau.
Derbyn cywiriadau gramadeg oddi wrth ddarllenwyr
Dw i eisiau gwella fy Nghymraeg ysgrifenedig. Mae’r blog i gyd yma yn rhan o’r cynllun wrth gwrs.
Diolch yn fawr i Rhys Wynne am ebostio cywiriadau i gofnod diweddar. Enghreifftiau o gywiriadau:
‘ydy’ yn lle ‘mae’ mewn cwestiwn
‘sylweddoli’ yn lle ‘sylwi’ (wedi gwneud yr un yma o’r blaen)
beirniad yn lle barnwr
trydedd/pedwaredd yn lle trydydd/pedwerydd (sa’ i’n poeni lot am yr un yma achos mae’r ystyr yn glir ond y ffaith bod fersiynau gwrywaidd a benywaidd yn ddiddorol)
Mae’r cofnod yn well o ran gramadeg. Bai fi yw unrhyw wendidau eraill.
Beth sydd angen yw rhyw fath o system sydd yn derbyn cywiriadau oddi wrth ddarllenwyr: pwyntio, clicio ac awgrymu cywiriad gydag esboniad. Mae’r esboniad yn bwysig achos mae’r broses dysgu yn bwysig. Yn hytrach na jyst cynhyrchu dogfen rydyn ni’n defnyddio camgymeriadau fel sail dysgu er mwyn gwella fy sgiliau (neu dy sgiliau neu pwy bynnag sydd yn defnyddio’r system).
Gyda llaw gwnes i ofyn am help Rhys. Yn gyffredinol – annwyl achubwyr yr iaith bondigrybwyll – dw i ddim eisiau annog yr arfer o danseilio hyder pobol trwy gywiriadau manwl bob tro mae rhywun yn mynegi ei hun yn Gymraeg. Ond os mae rhywun eisiau defnyddio Cymraeg safonol ac yn gwahodd cywiriadau, cer amdani.
Ar hyn o bryd dw i’n meddwl am ategyn WordPress, naill ai rhywbeth wiciaidd neu rywbeth tebyg i nodiadau ar Google Docs a phrosesyddion geiriau eraill.
English translation of the Saunders Lewis lecture: Tynged yr Iaith / Fate of the Language
Here’s an English translation of the fascinating radio lecture Tynged yr Iaith (Fate of the Language) by Saunders Lewis which was delivered exactly 50 years ago today in a BBC broadcast from a small studio in the centre of Cardiff. The translation is by G. Aled Williams.
Hacio’r Iaith, fflachio’r iaith
Dw i eisiau dysgu mwy am Android yn ystod Hacio’r Iaith 2012 felly dw i wedi ychwanegu syniad am sesiwn Fflachio’r Iaith i’r wici.
Wrth gwrs does dim rhaid i mi (neu unrhyw un) gwybod lot am bwnc er mwyn cynnal trafodaeth a gweithdy – jyst paid â disgwyl cyflwyniad prydferth. Byddaf i’n hapus iawn gydag un neu dau person arall, neu mwy. Rydyn ni’n gallu dysgu gyda’n gilydd.
Dyddiau cynnar yn y stori e-lyfrau
Des i ar draws erthygl Guardian o Awst 2011 gan William Skidelsky am brisiau llyfrau ac e-lyfrau, dyma’r diweddglo:
[...] It’s still early days in the ebook story, and no doubt there’ll be many disputes and disruptions along these lines in the future. But here’s a final thought for now. Was it wise to allow a situation in which a single company – Amazon – became market leader in terms of both a digital product (the ebook) and the hardware through which it’s delivered? (pwyslais fi)
Na, ddim yn doeth. Ond dyw’r integreiddiad fertigoleg Amazon ddim wedi digwydd yn llwyr eto.
Beth sy’n wylltio fi yw’r agwedd ‘bydd monopoli Amazon yn anochel yng Nghymru felly be’ ydy’r pwynt hyd yn oed meddwl am unrhyw marchnad amgen?’. Mae’n debyg i’r stori Siôn Jobbins yn y llyfr Phenomenon of Welshness lle mae fe’n sôn am agweddau amheugar tuag at y siop llyfrau newydd yn Llanrwst (menter rhieni Myrddin ap Dafydd oedd y siop, y cyntaf i arbenigo mewn llyfrau Cymraeg?).
Yn diweddar rydyn ni wedi cael manylion cynnar o gynllun bosib Gwales i werthu e-lyfrau. Gwych ond bydd marchnad go iawn yn y sector preifat yn neis hefyd. Byddan ni’n methu arloesi yng Nghymru heb cystadleuaeth iachus. Dw i ddim yn licio’r argymhelliad DRM yn yr adroddiad wrth gwrs, na’r rhesymeg. Mae Y Lolfa wedi bod yn hapus i werthu llyfrau heb DRM ers blynyddoedd, yn uniongyrchol, er dyw’r siop e-lyfrau ddim yn gyflawn.
Mae dealltwriaeth y marchnad llyfrau Cymraeg yn well yn Aberystwyth, Talybont, Caernarfon, Caerdydd nag unrhyw swyddfa Amazon. Dw i’n meddwl bod e’n werth ystyried y cyfleoedd tra bod y galw yn tyfu.
Cyngor darllenyddion
Nôl yn yr 80au Lotus 1-2-3 oedd y killer app ar MS-DOS ar yr IBM PC. Roedd y meddalwedd mor arbennig ac unigryw a chafodd pobol eu perswadio i brynu’r platfform er mwyn rhedeg y meddalwedd. Mae enghreifftiau eraill.
Meddwl am e-lyfrau eto.
Mae sefyllfa gyda’r diffyg e-lyfrau Cymraeg ar Kindle yn debyg i killer apps, ond y ffordd arall rownd.
Ar unrhyw dyfais mae’n bwysig cael sgrin neis, dyluniad da, ‘corff’ o ansawdd, hawdd i’w defnyddio a lot o nodweddion eraill. Ond faint o bobol fydd yn gofyn am gefnogaeth ieithyddol?
Faint o bobol sy’n ystyried e-lyfrau Cymraeg fel rhywbeth HANFODOL ar e-darllenyddion? Dw i’n gofyn os mae’r diffyg e-lyfrau Cymraeg yn dealbreaker. Does na ddim heb gwarant o Gymraeg ar Kindle yn y dyfodol, cofia. Faint o bobol fydd yn newid meddwl ar ôl iddyn nhw clywed bod Amazon wedi gwrthod derbyn Cymraeg ar ‘ecosystem’ caeedig nhw?
Ydy e’n deg i ddweud bod rhyw fath o cysylltiad rhwng teimladau pobol ar y pwnc ac ansawdd llyfrau Cymraeg a’r marchnad? Dylai awduron a chyhoeddwyr pryderu am y ffaith bod rhai o siaradwyr Cymraeg yn fodlon prynu unrhyw dyfais sydd ddim gyda chynnwys Cymraeg.
Dw i ddim yn gofyn am rhyngwynebau Cymraeg, wrth gwrs mae lot fawr o bobol yn fodlon rhedeg meddalwedd heb rhyngwyneb Cymraeg. Dw i’n gofyn am gynnwys, y peth mwyaf pwysig ar e-darllenydd.
Dw i’n gwybod bod yn cwestiwn yn berthnasol i llyfrau papur. Cyfle i ail-asesu cyflwr y marchnad yn gyffredinol?
Pwy sy’n rheoli’r cyfryngau yn y 21ain ganrif?
Yn ôl y sôn mae ymgyrchwyr yn Iran yn siomi gyda newidiadau i Google Reader (ac mae Techcrunch wedi cyhoeddi stori amdano fe). Mae gwasanaethau meddalwedd ar-lein yn bwysig iawn.
Gwasanaethau ar-lein yw’n amgylchedd cyfryngau nawr. Rydyn ni’n trafod Twitter, Facebook ac ati fel yr oedden ni’n trafod y teledu. Ac dylen ni meddwl am bobol fel Mark Zuckerberg, Jeff Bezos ac Apple fel y Rupert Murdochs o’r 21ain ganrif!
Ar draws y byd mae defnyddwyr wedi bod yn defnyddio’r tag #occupygooglereader. Dw i’n gwybod bod y tag yn doniol ond mae angen rhyw fath o ‘mudiad’ poblogaidd sydd yn bwysleisio’r we agored. Mae Google Reader jyst yn enghraifft o wers gyffredinol.
Mae gwahaniaeth rhwng Google Reader (pori’r we agored trwy RSS) a Google+ (seilo). O’n i’n ffan o Google Reader, dw i ddim yn licio’r newidiadau ond dw i ddim yn synnu. Mae’n cyffroes mewn ffordd pa mor clueless mae cwmnïau mawr fel Google gallu bod. Fydd gwendidau Google yn hwb i bobol i ddatblygu gwasanaethau eraill? Gobeithio, efallai maen nhw yn gallu cynnig gwasanaeth heb cloddio’n data. (Unrhyw awgrymiadau? Nôl i feddalwedd lleol?) Dw i ddim yn ystyried deiseb i Google fel yr ateb go iawn yn y tymor hir.
Mae lot o drafodaeth ynglŷn â thechnoleg mor arwynebol, gan gynnwys cyfryngau Cymraeg. Ac rydyn ni i gyd yn rhan o’r cyfryngau.
Mae lot o enghreifftiau.
Mae un enghraifft amlwg: trafod yr iPhone/iPad fel dyfais caledwedd a chyfraniad Jobs fel cyfres o ddyfeisiau - yn hytrach na pheryg yr App Store ac iTunes fel systemau.
Gweler achos Slideshare i ddarllen mwy am manteision y we agored a HTML5. Beth sy’n well i ni yng Nghymru gyda’n prinder o adnoddau: sgwennu unwaith, rhedeg unrhyw le? Neu sgwennu tro ar ôl tro ar gyfer iPhone, Android, Windows ac ati? Gobeithio fydd systemau a fformatau agored yn ennill yn y pen draw ond mae angen hyrwyddo manteision aps ar y we heddiw.
Mae enghraifft amlwg arall ar hyn o bryd. Pam ydyn ni’n crio am ddiffyg cefnogaeth i’r iaith Gymraeg gan Amazon?!?!!!? Mae cyfle i hyrwyddo dyfeisiau sy’n gweithio gyda fformatau agored fel ePub yn hytrach na Kindle, bricsen DRM sy’n rhan o ymgais monopoli Amazon!! Mae’r dyfais Sony yn darllen ePub, er enghraifft. O ran rhyddid mae’n well na Kindle ond beth sy’n mynd ar dy rhestr Nadolig yn mater i ti. Mae’n digon hawdd i ddechrau siop ePub, pobol. (Hefyd… dylai rhywun gwneud cytundeb i fewnforio dyfais Barnes & Noble sydd hefyd yn gweithio gydag ePub.)
Mae’r gair ysgrifenedig yn bwysig. Roedd y wasg Gutenberg yn hwb i’r Diwygiad.
Pa fath o Ddiwygiad fydd yn bosib gyda’n cyfryngau nawr?
Mae Amazon yn colli arian gyda phob dyfais Kindle Fire. Dylai’r ffaith hon dweud rhywbeth wrthym ni. Mae’r dyfais yn rhan o’r plan. Diwygiad Jeff Bezos fydd siopa am gynnyrch di-angen trwy’r dydd. Ac mae’n annoying i weld cyhoeddusrwydd Cymraeg am ddim yn Golwg360 achos maen nhw yn dylanwadol ac yn dilyn termau Amazon heb cwestiynu opsiynau eraill.
Mae’r marchnad e-lyfrau yn Gymraeg yn ifanc iawn ac mae LOT o bosibiliadau. (I’r bobol sy’n meddwl bod llwyddiant rheolaeth Amazon yn yr iaith Gymraeg yn anochel… Beth yw’r ddiod feddal fwyaf poblogaidd yn Yr Alban? Yn aml iawn nid Coca Cola, y cawr byd-eang, ond Irn Bru, y ffefryn lleol, sy’n dod i rhif un yn y siart gwerthiannau. Mae cyfle nawr i ffeindio ein Irn Bru, at ein dant ni.)
Pwynt arall. O ran termau dw i’n casau ‘Gwgl’, ‘Trydar’ ayyb fel enwau. Plis paid â defnyddio cyfieithiadau Cymraeg o enwau cwmniau Americanaidd fel Facebook, Twitter, Google ac Apple. Mae rhaid atgoffa ein hunan pwy sy’n rheoli dosbarthiad o’n hiaith. Rydyn ni’n gallu cyfieithu wici, blogio, ffrwd, y we ac yn blaen achos maen nhw yn agored i dy gwmni di, dy sefydliad di, dy grwp di neu ti fel unigolyn.
[D] Cymraeg
Mae Vaughan Roderick yn gofyn am y ‘ffin ieithyddol yng Nghymru’r dyddiau hyn’.
Yng Nghymru mae bron pawb yn gwybod ‘diolch’, ‘bore da’, ‘nos da’, ‘iechyd da’, ‘araf’ a ‘gwasanaethau’. Dyma sut mae unrhyw un yn dysgu iaith fel babi, yn yr awyrgylch ieithyddol, mae’n naturiol. Ac maen nhw wedi gadael ein categori statig ‘di-Gymraeg’.
Mewn gwirionedd does na ddim grŵp ’di-Gymraeg’ yng Nghymru.
Maen nhw i gyd gallu bod yn [D] Cymraeg.
Ac mae lot o’r [D] Cymraeg eisiau clywed mwy o Gymraeg o’i chwmpas, nid llai.
Mae cyfleoedd i glywed Cymraeg yn brin iawn ac yn werthfawr iddyn nhw.
Yn fy mhrofiad i, yn y brifddinas, siaradwyr Cymraeg rhugl ydy’r pobol sydd yn atal ymdrechion i helpu’r ‘di-Gymraeg’ i fod yn [D] Cymraeg. Gyda thipyn bach mwy o amynedd bydd mwy o [D] Cymraeg yn parhau ar yr antur ieithyddol. Dyw e ddim yn helpu o gwbl i feddwl bod nhw yn dod mewn rhyw fath o grŵp statig di-Gymraeg achos genedigaeth neu prinder o gyfleoedd.
Dyma enghraifft o fy mywyd. Dw i’n siarad 100% Cymraeg i un o fy ffrindiau. Mae fe’n ateb 50% Cymraeg a 50% Saesneg, sydd yn hollol iawn.
Amser Nadolig bydd e’n ateb 55% neu 60% Cymraeg dw i’n siwr.
Dylwn i wedi dweud bod i’n siarad 100% Cymraeg ond i’n cyfathrebu gyda thipyn o charades i helpu dealltwriaeth, à la Ifor ap Glyn yn y gyfres Popeth yn Gymraeg.