Category Archives: technology

Trydar dwyieithog, oes ots?

Twitter+Cymraeg=? neu Twitter-Cymraeg=?, dyma’r cwestiwn. Yn hytrach na chofnod cynhwysfawr dyma bwyntiau gwahanol dro yma. Sa’ i eisiau bod yn ciwt heno trwy sgwennu nhw fel tweets. Felly dyma casgliad o feddyliau am Twitter, Cymraeg a dwyieithrwydd. Dw i’n meddwl bydd rhywbeth fel Twitter gyda ni am byth o hyn ymlaen. Bydd yr iaith Gymraeg [...]

Diffiniad cwmni cychwynnol

Dyma ddiffiniad cwmni cychwynnol yn ôl fy nealltwriaeth i. Mae’r cysyniad o gwmni start-up yn drysu lot o bobol, hyd yn oed gwleidyddion, ac yn cael ei defnyddio ambell waith i ddisgrifio unrhyw gwmni newydd. Ond mae’r term cwmni cychwynnol, start-up, yn cyfeirio at fath arbennig o gwmni sef rhywbeth arbrofol sydd yn trio technoleg [...]

Gofyn sut i roi’r hacio mewn Hacio’r Iaith

Roedd sgwrs am ddigwyddiadau hacio ar ebost gyda phobol Hacio’r Iaith heddiw. Rydyn ni’n chwilio am fformat sydd yn debyg i Hacio’r Iaith gydag elfen ymarferol. O’n i jyst eisiau rhannu fy meddyliau yma achos does dim rheswm pam dylen nhw fod yn breifat mewn ebost. Os wyt ti’n licio’r syniadau mae croeso i ti [...]

Fflachio / Hacio’r Iaith – beth ddysgais i

Dyma’r fideo o fy sesiwn Fflachio’r Iaith i’w wylio eto ac eto! (Yn y fideo dw i’n sôn am rhedeg Android ar efelychydd Eclipse ar dy gyfrifiadur. Dylet ti chwarae gydag Eclipse oes os diddordeb gyda ti.) Dyma beth ddysgais i: Mae’n bwysig iawn i ailadrodd y Rheol Dau Droed, sef os wyt ti eisiau gadael unrhyw bryd [...]

Hacio’r Iaith, fflachio’r iaith

Dw i eisiau dysgu mwy am Android yn ystod Hacio’r Iaith 2012 felly dw i wedi ychwanegu syniad am sesiwn Fflachio’r Iaith i’r wici. Wrth gwrs does dim rhaid i mi (neu unrhyw un) gwybod lot am bwnc er mwyn cynnal trafodaeth a gweithdy – jyst paid â disgwyl cyflwyniad prydferth. Byddaf i’n hapus iawn [...]

Cymynrodd y Samsung S5600 Cymraeg

Cofia’r Samsung S5600? Ffôn Cymraeg cyntaf y byd (ac olaf, ar hyn o bryd), naeth cael ei lansio dwy Eisteddfod yn ôl. Gwnes i ofyn Bwrdd yr Iaith am sefyllfa y cyfieithiad er mwyn copio rhai o’r termau i’n cyfieithiad Android. Orange sy’n biau’r cyfieithiad o’r system. Gwnaeth y Bwrdd ateb gyda dolenni handi i dermau. Dw [...]

Dechrau cyfieithu Android

Dw i newydd dechrau cyfieithu Android i Gymraeg. Mae’n gyfle i mi ddysgu sawl peth. O’n i’n cyfarwydd ar gyfieithu mewn PHP gyda gettext. Ond mae Android yn rhedeg fel cadarnwedd felly bydd e’n haws i redeg fersiynau dros dro mewn efelychydd ar fy nghyfrifiadur tra bod i’n cyfieithu, cyn i mi grynhoi’r cod, gwreiddio’r [...]

Profi blogio ar fy ffôn newydd

Cofnod cyntaf ar fy ffôn newydd (Dell Streak sydd yn rhedeg Android). Joio. Llun o glawdd gorllewin, Caerdydd

Ffenestr rhaglenni ar BBC iPlayer

Roedd dau trafodaeth da ar sioe Dylan Iorwerth heddiw – un am brotestiadau meddiannu yng Nghymru ac un am PRS a cherddorion Cymraeg – a mwy. Am faint fydd sioe Dylan Iorwerth yn barhau ar BBC iPlayer? Un wythnos yn unig. Yfory bydd y sioe cyntaf o fis Tachwedd yn cwympo yn yr ebargofiant digidol [...]

Think Digital Caerdydd

Dw i’n siarad yn y digwyddiad Think Digital Caerdydd wythnos nesaf. Dere draw.