Blog Carl Morris » television

Santes Dwynwen 404!
Yn anffodus roedd rhaid i rywun dileu dau dolen ar Wikipedia i erthyglau S4C am Santes Dwynwen achos mae’r sianel wedi torri’r dolenni (Dudley a Dechrau Canu). Ydyn ni wedi colli’r erthyglau am byth?

Dydd Santes Dwynwen 404 anhapus!

Dyw e ddim yn broblem S4C, mae’n broblem i’r diwydiant darlledu yn gyffredinol. (Gweler hefyd: cofnod gan Tom Morris am Channel 4 a BBC.)

Pryd fydd darlledwyr yn gwerthfawrogi cynnwys o safon ar y we fel mwy na jyst cyhoeddusrwydd dros dro? Pryd fyddan nhw yn caru‘r we fel cyfrwng?!

Rydyn ni’n bwriadu dathlu Santes Dwynwen am byth, dylen nhw hefyd. Rydyn ni eisiau gweld twf yn y maint o gynnwys da yn Gymraeg ar y we. Ond ar hyn o bryd rydyn ni’n ail-adeiladu’r we Gymraeg bob 10 mlynedd. Mae’n wastraff o arian ac amser. Dw i’n deall tipyn o golled cynnwys ar fentrau gan wirfoddolwyr – ond cwmnïau cyfryngau proffesiynol?

Wrth gwrs mae modd ailgyfeirio cyfeiriadau i’r erthyglau os mae’r system cyfeiriadau wedi newid.

Dydd Santes Dwynwen Hapus i chi i gyd beth bynnag.

Ffenestr rhaglenni ar BBC iPlayer
Roedd dau trafodaeth da ar sioe Dylan Iorwerth heddiw – un am brotestiadau meddiannu yng Nghymru ac un am PRS a cherddorion Cymraeg – a mwy.

Am faint fydd sioe Dylan Iorwerth yn barhau ar BBC iPlayer? Un wythnos yn unig.

Yfory bydd y sioe cyntaf o fis Tachwedd yn cwympo yn yr ebargofiant digidol Cymraeg. Bob dydd wythnos yma byddan ni’n colli sioe arall.

Ond wythnos nesaf bydd sgyrsiau am yr un pynciau yn y tafarnau, caffis, newyddion, blogiau a phlatfformau cymdeithasol ond tra bod nhw yn barhau bydd BBC a Dylan Iorwerth yn colli’r cyfle i gyfrannu i’r sgyrsiau ac i fanteisio am yr alw dyfodol. Anffodus.

Mae rhaid gofyn: pam mae’r cyfle i wrando, y ffenestr, mor fyr yma?

Heblaw ychydig o gerddoriaeth does dim hawliau anodd mewn sioeau fel Dylan Iorwerth neu teledu trafodaeth fel Pawb a’i Farn.

Model bosib fydd archif Desert Island Discs. Dw i ddim yn anghofio’r podlediadau BBC lle maen nhw yn ailgylchu’r cynnwys o rhai o’r sioeau, e.e. Ar y Marc. Maen nhw yn model o beth sy’n bosib ond er bod nhw yn MP3 heb unrhyw DRM iPlayer dydyn nhw ddim yn parhau ar y wefan am fwy na mis.

Dylai’r sgyrsiau fel ‘na bod ar gael am byth, rhywsut.

Am faint fydd unrhyw erthygl a sylwadau ar Golwg360 parhau? Am flynyddoedd i ddod. Rydyn ni’n gallu sgwennu dolen i unrhyw erthygl mewn cofnod blog neu ebost unrhyw bryd, e.e. erthygl a sgwrs am PRS a cherddorion. (Neu’r 64 cofnod blog gan Dylan Iorwerth.)

Mae toriadau yn y BBC, dw i’n deall, ac efallai does dim lot o gyllideb i gynnig mwy o ffrydiau awdio. (Er bod rhai o bethau ar iPlayer am flynyddoedd, e.e. ar eitem It Felt Like A Kiss gan Adam Curtis, deadline y cynnwys yw 11:59PM Dydd Gwener, 31 mis Rhagfyr 2038.) Un ffordd rhad i helpu’r trafodaethau bydd trwydded wahanol. Yn hytrach na ‘Hawlfraint BBC – cedwir pob hawl’ jyst dweud ‘Hawlfraint BBC – mae’r trafodaethau yn y sioe yma wedi cael ei rhyddhau dan Creative Commons BY-NC’. Mae trwydded BBC, sef y Creative Archive Licence, sy’n cael ei defnyddio bob hyn a hyn ond dw i ddim wedi gweld unrhyw ddefnydd ar gynnwys yn Gymraeg. Beth bynnag, fydd ddim angen unrhyw feddalwedd neu gostau newydd i newid y polisi achos mae pobol eraill yn gyfrifol am y gwesteia. Bydd unrhyw yn gallu copïo sioe i roi ar blog neu Soundcloud neu Audioboo ayyb. Mae pobol yn wneud e eisoes, e.e. Dave Datblygu ar Beti a’i Phobol.

Os mae’n werth cynhyrchu rhaglen mae rhaid bod modd sicrhau bywyd y rhaglen am fwy nag wythnos, modd cyfreithlon.

Siŵr o fod pobol yn y BBC yn cwrdd rhywbryd wythnos yma neu fis yma i drafod sut i godi niferoedd o wrandawyr a’i chyfranogiad, pherthnasedd a ‘reach’ y rhaglennu, proffil Dylan Iorwerth ac ati. Dyma un ffordd effeithiol.

(Gyda llaw un ffordd arall fydd cysoni’r enw a’r hashtag i naill ai Dylan Iorwerth #dylaniorwerth neu Dan yr Wyneb #danyrwyneb, nid y dau!)

Gawn ni mewnosod fideos S4C ar ein blogiau/gwefannau?
<object id="myExperience1047448129001" class="BrightcoveExperience"><param name="bgcolor" value="#FFFFFF" /><param name="width" value="510" /><param name="height" value="287" /><param name="playerID" value="1048061649001" /><param name="playerKey" value="AQ~~,AAAA8akOPSk~,fWGSnsYV1h5veItzcWibWYUPzkcoqutF" /><param name="isVid" value="true" /><param name="isUI" value="true" /><param name="dynamicStreaming" value="true" /><param name="@videoPlayer" value="1069417898001" /></object>

Gawn ni mewnosod fideos S4C ar ein blogiau/gwefannau?

Fideos fel Y Sioe (rhyddha’r gwartheg duon!) a cariad@iaith.

Mae’n bosib. Roedd rhaid i mi edrych at y cod a thynnu darn mas.

Ond dyw e ddim yn hawdd iawn fel ag y mae ar YouTube/Vimeo ac ati – sdim angen hacio yna.

Bydd mwy o help gyda mewnosod yn codi y nifer o gyfranogwyr, y nifer o wylwyr a’r sgwrs o gwmpas y sioeau ac yn gyrru pobol i wefan Y Sioe, cariad@iaith ac yn y blaen.

Yn fy marn i, mae’n rhan bwysig o’r ystyr ‘amlblatfform’/S4C newydd. Bwyda ni gyda chodau fideos o.g.y.dd!

Marshall McLuhan a diwylliant llafar
Mae pobol yn y maes cyfryngau yn drafod gwaith Marshall McLuhan wythnos yma. Heddiw yw 100 mlynedd ar ôl ei genedigaeth.

Fe yw’r boi sy’n enwog am y dyfyniad “y cyfrwng ydy’r neges”. Darllena’r erthyglau yma yn y drefn yma os ti’n chwilfrydig: Douglas Coupland yn y Guardian, Kevin Kelly,Nicholas Carr. Mae lot o stwff arall ar y we. Bonws: McLuhan Sleeveface

McLuhan yw un o’r meddylwyr mwyaf hip erioed ond mae fe wastad yn ddiddorol hyd yn oed i rywun sydd ddim mor academaidd o ddydd i ddydd fel fi.

Fel mae’n digwydd dw i wedi bod yn ddarllen y llyfrau isod.

McLuhan Hot & Cool, sef erthyglau amdano fe…

… ac Essential McLuhan, rhai o’i erthyglau a chyfweliadau gyda fe…

Dw i’n ddim yn siwr os dw i’n gallu cynnig mewnwelediadau unigryw ond dw i wedi bod yn cadw llygaid mas am gyfeiriadau neu berthnasedd i’r Gymraeg ac ieithoedd bychain. Mae’r darn isod yn brofoclyd a diddorol iawn, o The Gutenberg Galaxy, 1962:

From the plastic and audile-tactile world of southern Italy came an answer to the lineal anguish of the segmenters of the Gutenberg Milieu. So thought Michelet and Joyce. Let us briefly return to the space question as affected by Gutenberg. Everybody is familiar with the phrase, “the voices of silence.” It’s the traditional word for sculpture. And if an entire year of any college program were spent in understanding that phrase, the world might soon have an adequate supply of competent minds. As the Gutenberg typography filled the world the human voice closed down. People began to read silently and passively as consumers. Architecture and sculpture dried up too. In literature only people from backward oral areas had any resonance to inject into the language – the Yeats, the Synges, the Joyces, Faulkners, and Dylan Thomases.

Er bod ‘backward oral areas’ yn swnio bach yn sarhaus dw i ddim yn siŵr os roedd e’n bwriadu swnio yn negyddol. Yn rhai o’i erthyglau mae fe sôn am sefyllfa cyfryngau i bobol Affricanaidd yn y 50au a 60au, sef diwylliant llafar sydd jyst yn wahanol i’r gorllewin – heb unrhyw dyfarniad gwerth amlwg. Er enghraifft roedd lot o bobol yn Affrica ar y pryd yn dibynnu ar eu clustiau am newyddion a gwybodaeth. Roedd strwythur cymdeithas yn wahanol, e.e. mwy o bwyslais ar y cymuned/llwyth/grwp yn hytrach na’r unigolyn. Roedd hynny yn wir yn y gorllewin i gyd yn y gorffennol.

Roedd diwylliant Cymraeg yn eithaf tebyg i ryw raddau. Mae’n eithaf amlwg i fi bod Cymraeg yn fwy o ddiwylliant llafar na diwylliant Saesneg. Gaf i ddweud hynny? Yn oes Gutenberg a Caxton, cawson ni chwyldro’r wasg yn sicr ond ddim cystal â Saesneg. Wedyn doedd ddim lot o amrywiaeth yn bapurau a llyfrau Cymraeg. Gweler hanes y llyfrau printiedig cyntaf.

Dyma theori arall. Mae’n bosib fod i’n hollol rong yma – eto. O ran ar-lein efallai mae blogio testun yn Saesneg yn eithaf prif-ffrwd ond bydd rhywbeth fel fideo yn gweithio yn well yn Gymraeg. Mewn ffordd mae’r byd yn mynd yn yr un cyfeiriad. Mae Lawrence Lessig yn dweud:

Text is today’s Latin. It is through text that we elites communicate… For the masses, however, most information is gathered through other forms of media: TV, film, music, and music video. These forms of “writing” are the vernacular of today. They are the kinds of “writing” that matter most to most.

Byddwn i’n ychwanegu diweddariadau statws ac iaith tecstio hefyd. Maen nhw yn debyg i iaith lafar, sy’n wahanol i erthyglau hir. (Heddiw dyw rhai o bobol sy’n hollol rugl ddim yn hyderus iawn gyda sgwennu erthyglau hir hefyd – am lot o resymau.)

Cwestiwn ydy, pa gyfryngau fydd yn gweithio yn dda iawn yn Gymraeg yn 2011? Ar-lein, ddylen ni annog pobol i ddechrau blogiau fideo yn lle testun felly?

I fod yn onest bydd rhaid i mi ddarllen The Gutenberg Galaxy i’r diwedd am fwy o gyd-destun.

S4C Calon Cenedl – syniad da iawn ond…
O’r S4C Cynllun Cynnwys 2012, mae syniad da iawn:

Mi fyddwn ni’n sefydlu cainc newydd, Calon Cenedl, sef cyfres o raglenni byrion oddeutu tri munud o hyd i’w darlledu am 20.25. Bydd y cynnwys yn cynnig cyfle i ni arddangos holl agweddau o fywyd Cymreig drwy gyfres o bortreadau am ardaloedd, cymunedau a phobol. Gall y brand newydd gael ei ymestyn i raglenni hanner awr ar adegau eraill o fewn yr oriau brig pan fydd cryfder golygyddol y syniad yn arwain at hynny.

1. Fel beth ydy rhaglenni ‘byrion oddeutu tri munud o hyd’ yn swnio? YouTube a fideo ar-lein.

Mae S4C yn gallu postio’r un fideos ar YouTube ac ar S4C Clic. Bydd e’n brofiad gwahanol ar YouTube – mewnosod ar wefannau, cynnig sylwadau a chael cynnwys parhaus heb derfyn amser fel y mae ar Clic.

2. Ond pam ydyn ni’n stopio yna? Ble mae’r cyfranogiad? Mae’r syniad gwreiddiol yn teimlo fel straeon digidol, erthygl o bapur bro mewn fideo fel petai. Ond rydyn ni dal yn meddwl am ddarlledu yn unig, hyd yn oed ar YouTube neu Vimeo neu beth bynnag.

Er mwyn bod fel papurau bro dylen ni rhoi’r cyfle, anogaeth a help os mae pobol eisiau creu a rhannu fideos eu hun. Bydd tag ‘swyddogol’ yn dechrau da, e.e. ‘defnyddia’r tag caloncenedl ar dy fideos lleol’. Pam lai? Gawn ni derbyn camerâu ffôn fel teclyn cyfathrebu rhad sydd ar gael i bobol Cymraeg tu allan i’r diwydiant teledu? Rydyn ni i gyd yn wylwyr ond mae rhai ohonom ni eisiau rhannu straeon o’n cymunedau. Fel papurau bro. Fel Derwen Gam neu Bodelwyddan neu Llangwm neu BaeColwyn neu Dolgellau neu Twthill neu Grangetown. Neu ____ (sgwenna dy bentref neu ardal yma).

Wrth gwrs mae unrhyw un yn gallu creu fideo gyda’r tag caloncenedl heddiw – heb S4C. (Cer amdani!)

Mewn gwirionedd bydd rhai o’r fideos amatur ar-lein yn ddiddorol a gwych – fydd ddim angen rhaglen smart sydd wedi cael ei golygu bob tro.

Ond bydd y rôl S4C fel yr endid sy’n osod y tag, rhannu’r tag gyda’r pobol yn y cymunedau (rhai yma), annog y fideos, blogio’r fideos ‘gorau’ neu perthnasol i Gymru ac yn rhedeg gweithdai yn bwysig iawn. Bydd pobol yn creu a gwylio fideos lot mwy gydag ymglymiad swyddogol S4C. Mae cyfleoedd ychwanegol go iawn i ddatblygu rhai o’r syniadau hefyd, i gynnig rhaglennu, cynnwys a phethau sydd ddim yn bosib gyda chamera ffôn.

Un dymuniad i S4C
O’n i’n gobeithio am ‘chydig mwy yn yr adroddiad S4C am ar-lein a’r we.

Un prif her, yn fy marn i, yw’r trawsnewidiad i fodolaeth cyffyrddus ar y we.

Dyma beth mae Huw Jones, cadeirydd S4C, wedi colli mas o’r adroddiad blynyddol newydd yn ei chyflwyniad:

Roedd 2010 yn flwyddyn gythryblus yn hanes S4C, gan greu penawdau papur newydd na fyddai neb wedi eu dymuno.

Fy ngobaith i yw troi’r sylw yn awr at yr her sydd o’n blaenau, sef sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaeth teledu Cymraeg cryf a deniadol, a fydd wrth fodd cynifer â phosib o wylwyr, wrth i ni fynd i’r afael â’r cwestiynau strwythurol ac ariannol sy’n ein hwynebu.

Plîs gawn ni cyfeiriad i gynnwys ar-lein, yn enwedig y we, yn yr amcanion a’r cyfansoddiad? (Dw i’n aelod o’r Fforwm Cyfryngau Newydd, sy’n ymgynghori i’r Awdurdod S4C. Dw i’n rhannu fy meddyliau i unrhyw sydd gyda diddordeb.)

Roedd safon darlledu S4C yn dda yn 2010 a’r hanner cyntaf 2011. Fy uchafbwyntiau:

Ar Lafar, 100Lle, Pen Talar, Cofio, Pethe. Dw i’n hoffi darlledu, yr amserlen, S4C Clic. Ond mae her arall. Dw i ddim yn cytuno gyda Dafydd El, burn the boats! ac arnofio yn ofod digidol.

Weithiau dw i’n meddwl bod rhai o bobol yn y diwydiant teledu yn meddwl am ar-lein fel dau peth yn unig.

dim ond cyhoeddusrwydd (e.e. postio i Facebook/Twitter ‘gwylia Ar Lafar 9PM lle mae Ifor ap Glyn yn mynd i…’ ayyb)

dim ond ail-brandio’r wefan sy’n bodoli eisioes (e.e. newid yr enw parth)

Iawn. Ond dw i’n ddim yn gofyn am y dau peth yma. Mae cyhoeddusrwydd y sianel yn iawn. Ac rydyn ni angen lot lot mwy nag ail-brandio.

Dw i ddim yn siarad am ddosbarthu rhaglennu llawn (e.e. Clic, yr ap iPhone) hyd yn oed. Wrth gwrs mae gwaith hefyd i’w wneud yna o ran mynediad i hen rhaglennu.

Am beth ydw i – a gobeithio pobol eraill sy’n pryderi am fywyd iachus i’r iaith Gymraeg ar y we – yn gofyn, felly? Dw i’n siarad am gynnwys ar y we fyd-eang. Fideo. Testun. Podlediadau. Gemau. ‘Profiadau’. Mapiau. Barddoniaeth. Straeon. Awdio. Trafodaeth. Sylwadau. UGC. Pethau creadigol. Barnau. Pethau cŵl. Pethau peniog. Cerddoriaeth. Blogiau. Trafod chwaraeon. Stwff o’r archif, ___, ___., ___… ac ati ac ati.

Rydyn ni’n trio tyfu gwe Gymraeg, dyma’r breuddwyd. Mae lot o dalent yn Gymru. Ond ar hyn o bryd rydyn ni’n dibynnu yn llwyr ar wirfoddolwyr (tu fas i Golwg360, stwff BBC yn Gymraeg, yr Amgueddfa, Cynulliad a Llywodraeth, efallai un neu dau arall). Mae’n anhygoel!

Felly dyma beth mae S4C Newydd yn golygu i fi yn y cyd-destun ar-lein. Model bosib yw uber-wefan fel bbc.co.uk, ond dw i’n hoff iawn o fodel gwe-eang.

Dylai fe bod yn rhan o’r broses comisiynu – o’r dechrau. Cywira fi os fi’n hollol rong – dw i’n dod o safbwynt y we yn hytrach na theledu.

Mae’r is-wefannau Cyw a Stwnsh yn wych (a’r ap Cyw). Mae’r darpariaeth i bobol ifanc iawn yn dda. (Eithriadau: gemau a chynnwys Ddoe am Ddeg, blog Ar Lafar…)

Yn gyffredinol, yng Nghymru, rydyn ni’n dda iawn gyda babanod. Efallai dw i wedi sylwi oherwydd ces i ddim plentyndod Cymraeg. (Llun gan Berberich dan CC.)

Ni’n rhoi ein blant yn gyntaf fel blaenoriaeth.

Babi yw’r brenin yn y byd Cymraeg.

Dw i’n meddwl am Cyw fel ‘ysgol feithrin’. O ran S4C a’r we, maen nhw yn cynnal ysgol feithrin hyfryd. Nawr beth am bethau i bawb arall? Ble mae’r ‘pybs’, ble mae’r ‘gigs’, ble mae’r ‘bingo’ – fel petai?

Trafod technoleg? Methiant cyfryngau prif-ffrwd
Dyma eitem newyddion teledu S4C, gan BBC, gyda sylw gennyf fi:

“A fydd yr e-lyfr yn achosi tranc y llyfr papur ac inc?”

Gwnaethon nhw defnyddio cyfanswm o 15 eiliad o’r fideo gyda fi. Wrth gwrs dwedais i lot mwy ond dw i’n deall sut mae teledu yn gweithio ac o’n i’n gwybod pwyslais yr eitem o flaen llaw. Dw i’n chwarae’r rôl syml, hyrwyddwr technoleg mewn drama BBC.

Mae’r rhai o bethau isod yn amlwg, nawr dw i’n gallu eu cwestiynu achos ces i gyfle i weld y peth o safbwynt arall a chyfrannu i eitem.

Yn aml iawn mae cyfryngau prif-ffrwd Saesneg gallu bod yn euog o drafodaeth arwynebol a Ludaidd am dechnoleg. Ond dw i’n meddwl efallai bod e’n waeth yn Gymraeg.

Un problem, mae gyda ni llai o ffynonellau newyddion a barn yn y cyfryngau prif-ffrwd. Dyma pam dw i eisiau darllen barnau o safbwyntiau gwahanol, e.e. yr erthygl Angharad Mair am Twitter. (Meddyliau am yr arbrawf.) Dw i ddim yn sicr os mae “prif-ffrwd” yn addas chwaith achos maen nhw mor fach.

Mwy na hynny, mae naratif parhaus o bygythiad technoleg yn y cyfryngau, dw i’n meddwl, yn enwedig technoleg yn erbyn ein traddodiadau ac hefyd, yn aml, yn erbyn yr iaith Gymraeg. Mae unrhyw syniad am stori yn dod trwy’r un lens. Y teimlad mwyaf priodol i unrhyw dechnoleg yw ofn. Ydy e’n rhan o’n hunaniaeth?

Yn y stori am e-lyfrau, mae’r siop yn cynrychioli’r traddodiad. Ond unrhyw siop llyfrau yw cwmni technoleg i ryw raddau – llyfrau yw technoleg gwybodaeth. Hefyd mae siopau fel unrhyw busnes yn gallu newid i gymryd mantais o gyfleoedd o bob math.

Dydyn ni ddim wedi archwilio lot o gwestiynau yma. Beth yw’r perthynas rhwng e-lyfrau a llyfrau papur? Mae’r elwa o’r dau yn mynd i’r cwmnïau cyhoeddi, ddylai fe golygu unrhyw “tranc” o gwbl? Wrth gwrs mae’r cymhareb 115:100 gan un cwmni yn eitha amherthnasol i unrhyw “tranc” neu twf yn llyfrau bapur o ran ystadegau. Mae’r ffigur Amazon yn cynrychioli’r UDA, pa mor wahanol yw Cymru neu’r DU ar hyn o bryd? Faint o bobol sy’n prynu e-lyfrau yn brynu llyfrau papur hefyd (lot dw i’n dyfalu)? Beth am fathau gwahanol o lyfrau, e.e. comics? Beth am Afal Drwg Adda a llyfrau eraill sy’n anodd neu amhosib i’w ffeindio? Sut ydyn ni’n gallu tyfu’r farchnad llyfrau, beth bynnag ydy’r fformatau? Beth yw’r problemau gydag Amazon a Kindle ayyb (mae problemau) – a’r gwahaniaeth rhwng y cysyniad a’r realiti, DRM a rheolaeth gan cwmni mawr ayyb? Beth yw’r rôl siopau? Ac ati.

Roedd y sgwrs yn Bedwen Lyfrau yn bositif iawn mewn gwirionedd. O leiaf cawson ni hanner awr i drafod y peth. (Gyda llaw, dyma syniad i BBC: beth am rhannu mwy o’r cyfweliadau ar-lein yn  hytrach na gwastraffu’r fideo? O’n i  eisiau clywed  mwy o safbwynt Siop  y Felin a Siôn T. Jobbins, er  enghraifft. Dw i’n deall os oes gyda chi dwy funud yn unig ar y teledu ond does dim terfyn ar-lein. Beth am lanlwytho’r stwff i YouTube heb unrhyw golygu taclus? O ddifri.)

Y prif problem yw’r agwedd cyfryngau yn Gymraeg i dechnoleg. Nes i weld yr un peth llynedd gyda BBC Radio Cymru a’r dadl am ddefnydd yr iaith gan y plebs.

Mae’r agwedd yn atal ymdrechion i brofi a datblygu defnydd da o dechnoleg. Rydyn ni’n angen gweld y cyfleoedd gyda’r bygythiadau. Mae dealltwriaeth o dechnoleg yn bwysig pan mae gwleidyddion yn trio gwerthu syniadau i ni fel hud amlblatfform a’r Cofnod gwan.

Weithiau dw i’n teimlo bod ni’n gwastraffu un o’n hadnoddau gwerthfawr – y cyfryngau prif-ffrwd – dosbarthu ofn yn hytrach na dealltwriaeth dda.

DIWEDDARIAD 25/05/2011: siomedig gyda thoriadau enfawr yn BBC Cymru.

Rhannu yw’r recordio newydd.
Dim ond meddyliau heddiw.

Mae’r rhan fwyaf o bethau yn Gymraeg yn anweledig. Maen nhw yn cysgu mewn archifau.

Trafodwch.

BBC

Recordiau Sain

Bando

Sidan

S4C

Fideos o Eisteddfodau

Llyfrau

Y Gasgen

Pethau o’r 1990au a 2000au

Ernest (DIWEDDARIAD 26/03/2011)

Dylen ni rhyddhau a rhannu nawr. Mae’r arian yn gallu dod hwyrach.

1960au.

Arwr yr archif: Bernie Andrews

After these sessions, instead of lodging the master tapes in the BBC library,    Andrews invariably — and crucially — took them home. This was in breach of    the rules, but it meant that much precious material escaped the BBC’s infamous policy of “wiping” tapes to save money.

2011.

Arwr yr archif: un person sy’n rhyddhau, rhannu ac annog rhannu gyda chaniatâd. Neu heb ganiatâd swyddogol. Maen nhw yn wneud y mwyafswm gyda thechnoleg sydd ar gael.

Rhannu yw’r recordio newydd.

Teledu + Twitter + Digwyddiad
Geiriau poblogaidd o’r dydd diwethaf o Umap Cymraeg:

Mae rhyw fath o gysylltiad i Cân i Gymru yn 8 o 10 “gair” yma.

Dw i’n meddwl bod tri ohonyn nhw yn tagiau: #cig11, #cig2011 a #cig.

Bydd un tag cryf iawn yn well na tri tag gwahanol. Dylai sianeli dangos tag “swyddogol” ar y sgrin am ddigwyddiadau. Neu ar y cyfrif Twitter am y sianel o leaif.

Pam? Mae’r sgwrs yn dameidiog, dim digon o gydsymud. Hwn yw’r rheswm pwysicaf – annog a bwydo sgwrs da ar-lein. Cyfryngau cymdeithasol pleb. Mae hwn yn tyfu’r rhwydwaith am bob math o bethau da yn y dyfodol. Ffeindiais i mwy o bobol newydd ar Twitter. Mae pobol yn dilyn pobol diddorol yn ystod pethau fel Cân i Gymru. Bydd pethau da yn bosib gyda rhwydwaith cryf. Dw i’n siarad am yr iaith wrth gwrs hefyd.

Dw i ddim yn obsessed gyda chreu trends, yn enwedig trends yn y DU neu  “byd-eang” (UDA fel arfer). Ie, maen nhw yn  dangos ar y gwefan Twitter ond…? Mae’r Llywodraeth Cymru yn trio nawr. OK, gwych, llwyddodd “Dydd Gŵyl Dewi Sant” wythnos diwethaf yn y DU yn y pen draw (yn hytrach na’r tagiau swyddogol dw i’n meddwl). Ond beth nawr?

Rheswm arall. Na, dw i ddim yn obsessed gyda trends ond dw i’n deall y  pwysigrwydd o ratings. Mae’ch rhaglen yn cystadlu gyda rhaglennu eraill a  phynciau eraill. Hefyd mae nifer o wylwyr ar teledu go iawn yn “well” na  wylwyr ar-lein yn y ratings. Pfft, dw i ddim yn cytuno ond does dim ots. Yn 2011 o leiaf mae’n wir yn dudalennau y Western Mail ayyb.

Arsylliad. Mae Twitter yn newyddion da i ddarlledwyr sy’n licio’r amserlen. Anghofia’r crystal ball (Martin), dyma beth mae pobol yn wneud yn awr. Mae Twitter yn gweithio yn erbyn y shifft amserol. Rydyn ni’n mwynhau digwyddiadau ar y teledu eto gyda’n gilydd ar yr un pryd. Wrth gwrs tynnodd e rhai o gwylwyr newydd i’r rhaglen. Mae darlledwyr yn ddeall hwn am rhaglennu “dweud eich dweud” fel Question Time, Noson Gwylwyr. Dw i ddim yn siwr iawn os mae pob sianel yn ddeall am rhaglennu eraill, digwyddiadau yn enwedig.

Neithiwr yn y stafell fyw cawson ni un sgrin gyda’r rhaglen ac un sgrin gyda Twitterfall – am ymchwil ac hwyl. Mae hwn yn normal.

Dw i wedi wneud rhywbeth debyg o’r blaen gyda Rhodri yn ystod Question Time gydag ychydig o help gan Piratepad am nodiadau. Ymchwil diddorol.

Dweud eich dweud! Jolch. Gyda llaw rydyn ni eisiau siarad am eich rhaglen. Dydyn ni ddim eisiau siarad gyda chi bob tro, sianeli, ond byddan ni’n diolchgar am blatfform neu tag cyffredin.

Croeso i’r byd cyfryngau ôl-Twitter. Mae pobol yn hoffi bod yn rhwydwaith. Yn fy marn i, bydd rhai o’r egwyddorion yma yn ddefnyddiol tu allan o Twitter neu ar ôl Twitter ar y system nesaf. Rydyn ni’n siarad am gyfryngau pleb amser real.

Byw Yn Y Byd ar-lein
Braf i weld y flog newydd Byw Yn Y Byd ar gyfer y rhaglen S4C. Mae’n defnydd da o WordPress.com. Creuodd rhywun y flog yn 2 munud, am ddim. Gwych. Dw i’n meddwl bod Russell Jones, y cyflwynydd, yn flogio ei hun. Gobeithio.

Mae unrhyw un yn gallu creu blog ar WordPress.com am ddim.

Byw Yn Y Byd yw dyddiadur ond does dim rhaid i flog bod yn dyddiadur.

Strategaeth ar-lein dibynadwy: ar y cychwyn gydag unrhyw project dw i’n gofyn “ble fyddan ni blogio?”. Rydyn ni angen rheswm arbennig i beidio blogio. Dweda’r gair cyhoeddi os ti ddim yn licio’r gair blogio. Blogio yw’r ffordd gyflymaf i ychwanegu tudalen i’r we. Mae blog yn dod â newyddion am dy broject, system rheoli CYFLYM, dolenni dwfn a pharhaol – hawdd i’r rhannu ar Facebook/Twitter, ffrwd RSS a sylwadau. (Neu gofynna cwmni lan y stryd am brochure monolithig, efallai yn Flash, heb unrhyw system ar gyfer diweddaru – dy benderfyniad!)

Dyw blogiau ddim mor trendi â rhywbeth fel… apps symudol dyddiau ‘ma. Sori ond dw i’n poeni am ddefnydd. Plis cer i flogio am tri neu chwech mis o leiaf, datblygu dy brofiad, cyn i ti sôn am rhyddhau app.

Darllena’r sylwadau ar y flog Pethe o fis Medi 2010. Fydd sgwrs am bethau diddorol a pherthnasol byth yn mynd mas o ffasiwn!

Mae’r cod Pethe o WordPress.org yn hytrach na .com gyda thema arbennig.

Rydyn ni’n casglu cyfeirlyfr o flogiau ar Hedyn. Dyma’r blogiau sy’n gysylltiedig â S4C hyn yn hyn. Cofia Yahoo yn y 90au? Dyddiau gynnar o’r we Saesneg. Gwersi am Gymraeg heddiw yn fy marn i. Gwnaf i archwilio cyn hir. Plis ychwanega mwy os ti’n gallu.