Gwefan ddwyieithog newydd mewn WordPress i CULT Cymru

Dyma enghraifft o wefan ddwyieithog dw i wedi datblygu’n ddiweddar i’r rhaglen hyfforddiant CULT Cymru.

Mae’r cyfan yn seiliedig ar WordPress gyda rhai pethau arbennig ar gyfer y wefan, fel y thema sef y dyluniad. Un enghraifft arall: fe ddatblygais ategyn newydd i ddangos y teclyn tystebau (sydd ar y dde yn y sgrinlun uchod). Mae hwn yn dethol tysteb ar hap o gronfa ac mae’n rhaid gwneud hyn mewn iaith a ddewiswyd gan yr ymwelydd.

I’r rhai sy’n gyfarwydd â WordPress mae tysteb yn cael ei gadw fel cofnod cyfaddas. Dyma sut mae’r adran tystebau yn edrych i weinyddwyr ar y pen cefn:

Oedd y broses yn gyfle i symud o hen enw parth i’r enw cult.cymru hefyd.

Sut i greu mapiau o Gymru: cestyll, afonydd, blychau post, ffyrdd seiclo a mwy

Dyma ganllaw hwylus ac hwyl ar sut i greu mapiau o Gymru (neu unrhyw le) gyda nodweddion wedi eu pinio.

Does dim angen unrhyw brofiad o fapio na data. Nid yw creu mapiau yn weithred i arbenigwyr yn unig. Mae’n hawdd.

Mae hi’n braf cael breuddwydio am ymweld â rhai o’r llefydd hefyd hyd yn oed os nad oes modd teithio ar hyn o bryd.

Mae hi wedi bod yn wych cael gweithio fel rhan o dîm Mapio Cymru i wella mapio a data agored cyfrwng Cymraeg yn ystod y misoedd diwethaf. Mae’r canllaw yn rhan o’n hymdrech i ddangos OpenStreetMap fel adnodd i fwy o bobl, a chanfod elfennau o’r map sydd angen eu gwella.

Rhowch dro ar y canllaw.

Sgwrs am y Gymraeg ar-lein, addysg Gymraeg ac hanes fy nheulu ar Beti a’i Phobol

mis Gorffennaf, 1983

Roedd hi’n ddifyr cael ymddangos ar raglen Beti a’i Phobol y mis hwn. Diolch i Beti a’r tîm am y croeso.

Fel rhywun sydd wedi gwrando ar y cyfweliadau ers blynyddoedd roedd hi’n ddiddorol bod yn dyst i’r broses o baratoi’r rhaglen. Mae’r ymchwil yn drylwyr iawn ac mae cyfle i gael sgwrs cyn y sgwrs i gael gwell syniad o beth sy’n debygol o godi.

Wedyn y tro hwn roedd rhaid recordio’r cyfan o bell oherwydd cyfyngiadau iechyd. Er bod llawer mwy i ddweud ar rai o’r pynciau dw i’n hapus iawn gyda’r canlyniad.

Yn y rhaglen cawsom trafodaeth ar amryw o bynciau gan gynnwys cerddoriaeth, y Gymraeg yn y byd ar-lein, addysg Gymraeg, ac hanes fy nheulu.

Tarian Cymru – rhai myfyrdodau ar y gwaith

Ynghlych Tarian Cymru

Mae grŵp ohonom yn rhedeg Tarian Cymru ers dros ddau fis bellach, ac mae dros 1400 o bobl wedi cyfrannu dros £74,000 tuag at offer gwarchodol i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae dal angen mawr am PPE. Ydych chi wedi cyfrannu arian eto?

Sefydlu

Mae rhedeg Tarian Cymru yn lawer o waith: codi arian, cyfathrebu a chyhoeddusrwydd, canfod/caffael/prynu/mewnforio offer,  ymgysylltu â gweithwyr, pacio, dosbarthu.

Mae’r holl fenter wedi bod yn brofiad arbennig. Mae’n un o’r profiadau gorau dw i erioed wedi cael a dweud y gwir.

Mae’n anhygoel i feddwl beth sy’n bosib pan mae grŵp o bobl yn dod at ei gilydd (o bell) i gyflawni rhywbeth penodol ar frys. Mae hyn yn wers i mi gofio.

Ac mae’n galonogol cael gweld sut gymaint o weithgaredd dros y nod, pa mor hael mae pobl wedi bod – trwy amser, arian, sgiliau, ac adnoddau. Mae’r rhestr o brosiectau cerddorol yn syfrdanol – i enwi un peth.

Bydd rhaid cofnodi’r cyfan rhywbryd. Yn y cyfamser dw i fel arfer yn rhoi nodiadau yma am brosiectau gwe…

Gwe

Mae’r wefan ar gyfer cyfrannwyr, cefnogwyr, yn ogystal â gweithwyr.

Oedd hi’n glir bod angen enw cofiadwy a chlir ac enw parth syml i’w adrodd ar y radio, teledu, ayyb. Doedd cyfeiriad y tudalen codi arian GoFundMe na’r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ddim mor effeithiol o ran hyn.

Wedyn oedd eisiau creu gwefan ar frys eithriadol – o fewn munudau.

Dw i fel arfer yn rhedeg meddalwedd WordPress ar weinydd. Mae hyn yn arwain at greu thema, dewis ategion, ysgrifennu cod, cynnal a chadw… Ond oedd rhaid osgoi’r temptasiwn i wneud llawer o waith fel hyn, newid gosodiadau, a gwneud treaks fel hyn y tro hwn. Oedd gormod o dasgau Tarian Cymru i’w gwneud.

Felly mae’r cyfan yn rhedeg ar wordpress.com – dwy wefan, Cymraeg a Saesneg, sydd.

Mae swits iaith yn y dewislen ac o fewn rhai tudalennau ac eitemau blog (ysgrifennwyd â llaw). Mae’r rhyngwyneb Cymraeg yn manteisio ar yr holl waith cyfieithu mae pobl wedi gwneud dros y blynyddoedd.

Mae’n well cyflawni pethau fel hyn yn y ffordd fwyaf cyflym weithiau, ac aberthu ‘hyblygrwydd’/dewisiadau.

Yn olaf

Os ydych chi wedi darllen mor bell a hyn dylech chi ystyried gwneud her dros apêl Tarian Cymru.

Cwyn i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig am enedigaeth a hunaniaeth genedlaethol

Dyma gopi o gwyn dw i wedi anfon ddydd Iau trwy’r ffurflen ar bbc.co.uk, ac dw i hefyd wedi nodi bod eisiau ymateb.

Parthed:

Cwyno ydw i am eiriad yr eitem uchod ar y sail bod hi’n:

  1. anghywir
  2. anghyfrifol.

Rydych chi’n defnyddio’r termau ‘foreign people’ a ‘foreign workers’ er mwyn cyfeirio at gategorïau o bobl. Mae hyn yn gategorïau mor eang ac amrywiol, ond nid oes ystyriaeth gywir o hunaniaeth personol neu hyd yn oed statws cenedligrwydd yn ôl yr awdurdodau.

Y gwir yw bod nifer sylweddol o bobl sydd yn ystyried eu hunain fel dinasyddion llawn o’r wlad, ac yn cael eu hystyried yn yr un modd gan yr awdurdodau, wedi eu geni tu allan i’r Deyrnas Gyfunol. Ni ddylid defnyddio’r termau felly.

Mae cyfrifoldeb ar y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig fel darlledwr dylanwadol i fod yn eithriadol o sensitif wrth geisio sôn am hil, mewnfudo, hunaniaeth, man geni, ac ati. Mae holl fframio golygyddol yr eitem yn broblemus ac o ran y ffeithiau yn groes i’ch Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant (yn enwedig tudalen 10).

Diolch am bob ystyriaeth

Carl Morris

DIWEDDARIAD 31/12/2019:

Dyma ymateb wrth y gorfforaeth sydd yn cadarnhau bod y cwyn wedi cyrraedd ond yn osgoi trafod y mater.

Annwyl Carl Morris

Diolch am gysylltu â ni gyda’ch cwyn.

Mae’n ddrwg gennym glywed eich bod yn anhapus gyda geiriad yr adroddiad dan sylw.

Hoffwn eich sicrhau ein bod wedi dod a’r mater at sylw’r tim golygyddol a’r uwch rheolwyr perthnasol.

Rydym hefyd wedi cynnwys crynodeb o’ch cwyn yn ein hadroddiadau mewnol am ymateb y gynulleidfa sydd ar gael i gynhyrchwyr rhaglenni a phenaethiaid y BBC. Yn wir, rydym bob amser yn falch o dderbyn adborth, boed yn dda neu ddrwg, gan ei fod yn ein cynorthwyo i werthuso ein gwasanaethau.

Diolch i chi eto am gysylltu gyda’ch sylwadau.

Yn gywir

Uned Gwynion y BBC

http://www.bbc.co.uk/complaints/handle-complaint/?lang=cy

DS: Mae’r neges hon yn cael ei hanfon o gyfrif e-bost nad yw’n cael ei fonitro. Ni allwch ateb i’r cyfeiriad hwn. Os bydd angen i chi gysylltu â ni os gwelwch yn dda gwnewch hynny drwy ein ffurflen gwynion gan ddyfynnu unrhyw gyfeirnod a ddarparwyd gennym ni.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh and in English.

Gwefan Settled: helpu pobl gydag ymgeisiadau statws preswylydd sefydlog

Dw i wedi adeiladu gwefan i elusen newydd sbon o’r enw Settled.

Mae’r elusen yn helpu pobl sydd angen gwneud cais i’r Swyddfa Gartref i aros yng ngwledydd Prydain oherwydd Brecsit.

Mae’r broses yn gymhleth a dyrys fel y mae ac mae llawer o ffactorau eraill sy’n wneud pethau’n anoddach megis amgylchiadau bywyd y bobl sy’n ymgeisio.

Mae’r fersiwn cyntaf y wefan yn uniaith Saesneg gyda llawer iawn o ieithoedd gwahanol i ddod yn fuan. Hefyd bydd modd gweld dwsinau o sesiynau wyneb-i-wyneb, ac bydd platfform i wirfoddolwyr yr elusen yn ogystal.

Nodiadau ar ffilm The Farewell

Nodiadau bach sydyn i ddweud bod y ffilm hon yn brydferth iawn.

O’n i’n ystyried postio’r treilar yma ond nid oes angen hynny.

O’n i ddim yn gyfarwydd â’r arfer o gadw diagnosis yn gyfrinachol. Ond oedd rhai o’r elfennau yn fy atgoffa o fy nheulu i, yn enwedig:

  • bwyd
  • cynnal perthynasau o bell
  • y sgwrs rhwng y famgu a’i feibion – hynny yw, tad y prif gymeriad a’i frawd – y pegynnau yn y sgwrs am hunaniaeth.