Diffyg canlyniadau Cymraeg ar Google News

Jyst dogfennu sgwrs o heddiw:

pam dyw @ ddim ar mynegai Google News? @ ?
@carlmorris
Carl Morris ☺☻
@ Google News yn gwrthod derbyn G360 am nad yw ar ei restr ieithoedd. Mae yn ei dderbyn fel blog yn lle am ryw reswm...
@ifanmj
Ifan Morgan Jones ✔
@ Mae newyddion Cymraeg y BBC yn ymddangos ar Google News, am ei fod yn rhan o wefan ehangach y Bib mae'n siwr
@ifanmj
Ifan Morgan Jones ✔
@ fi'n dechrau meddwl bod rhesymeg cwmnïau sy'n wrthod derbyn Cymraeg yn eithaf mympwyol (yn hytrach na pholisi go iawn) c.f. Kindle
@carlmorris
Carl Morris ☺☻

(Dim stori newydd yma, o’n i’n chwilfrydig. Ond mae’n ddiddorol i weld agweddau cwmnïau technoleg tuag at y Gymraeg yn y cyd-destun yma. Mwy na thechnoleg maen nhw yn cwmnïau cyfryngau, cwmnïau cyhoeddi, cwmnïau dosbarthu…)

Dyddiau cynnar yn y stori e-lyfrau

Des i ar draws erthygl Guardian o Awst 2011 gan William Skidelsky am brisiau llyfrau ac e-lyfrau, dyma’r diweddglo:

[...] It’s still early days in the ebook story, and no doubt there’ll be many disputes and disruptions along these lines in the future. But here’s a final thought for now. Was it wise to allow a situation in which a single company – Amazon – became market leader in terms of both a digital product (the ebook) and the hardware through which it’s delivered? (pwyslais fi)

Na, ddim yn doeth. Ond dyw’r integreiddiad fertigoleg Amazon ddim wedi digwydd yn llwyr eto.

Beth sy’n wylltio fi yw’r agwedd ‘bydd monopoli Amazon yn anochel yng Nghymru felly be’ ydy’r pwynt hyd yn oed meddwl am unrhyw marchnad amgen?’. Mae’n debyg i’r stori Siôn Jobbins yn y llyfr Phenomenon of Welshness lle mae fe’n sôn am agweddau amheugar tuag at y siop llyfrau newydd yn Llanrwst (menter rhieni Myrddin ap Dafydd oedd y siop, y cyntaf i arbenigo mewn llyfrau Cymraeg?).

Yn diweddar rydyn ni wedi cael manylion cynnar o gynllun bosib Gwales i werthu e-lyfrau. Gwych ond bydd marchnad go iawn yn y sector preifat yn neis hefyd. Byddan ni’n methu arloesi yng Nghymru heb cystadleuaeth iachus. Dw i ddim yn licio’r argymhelliad DRM yn yr adroddiad wrth gwrs, na’r rhesymeg. Mae Y Lolfa wedi bod yn hapus i werthu llyfrau heb DRM ers blynyddoedd, yn uniongyrchol, er dyw’r siop e-lyfrau ddim yn gyflawn.

Mae dealltwriaeth y marchnad llyfrau Cymraeg yn well yn Aberystwyth, Talybont, Caernarfon, Caerdydd nag unrhyw swyddfa Amazon. Dw i’n meddwl bod e’n werth ystyried y cyfleoedd tra bod y galw yn tyfu.

Profi blogio ar fy ffôn newydd

image

Cofnod cyntaf ar fy ffôn newydd (Dell Streak sydd yn rhedeg Android). Joio.

Llun o glawdd gorllewin, Caerdydd

Cadwch y pwyll mewn pwyllgor (ymgynghoriad Cynulliad)

Nos Lun nes i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus gyda’r grŵp gorchwyl a gorffen o’r Cynulliad ynglŷn â dyfodol y cyfryngau yng Nghymru. Beth oedd yn nodedig oedd y defnydd o’r we i gynnal sgwrs fyw.

Chwarae teg i’r Cynulliad am drio trafodaeth o ryw fath ar y we. Ond yn anffodus o’n i ddim yn meddwl bod y sgwrs nos Lun yn llwyddiant o gwbl.

Nai disgrifio’r holl broses yn fy achos i. Gwnes i dderbyn gwybodaeth fel e-bost – oddi wrth ffrind sydd yn gweithio i’r Cynulliad. Wedyn nes i sylwi tipyn bach o gyhoeddusrwydd am ‘sgwrs fyw ar y we’. O’n i’n chwilfrydig: dyma cyfle i ddylanwadu’r dyfodol y cyfryngau mewn ffordd ac yn sgil hynny gweld beth yn union mae Cynulliad yn brofi yn y maes digidol. Yn y pen draw roedd sgwrs testun ar system Cover It Live sydd yn debyg iawn i unrhyw system negeseua sydyn (IM) er roedd rheoli rhwng teipio ac arddangos i sicrhau sylwadau addas (a chyfieithu unffordd, mwy isod).

Dylai’r problemau sylfaenol bod yn eithaf amlwg erbyn hyn. Os wyt ti’n gallu teipio yn gyflym ac yn dda gyda soundbites, mae dy sylwadau di yn cael eu ystyried fel tystiolaeth. Ces i neges e-bost heddiw sy’n gadarnhau’r ffaith – bydd y sylwadau wir yn cael eu ystyried fel tystiolaeth go iawn. Wyt ti erioed wedi trio cael trafodaeth dwys ar Twitter, er enghraifft? Mae’n anodd iawn ac mae’r gwendid yn gyffredinol i unrhyw beth ar-lein sydd yn cynnwys negeseuon byrion sydd yn digwydd yn amser real, gan gynnwys y sgwrs fyw nos Lun.

Yn diweddar, er bod senedd.tv yn bodoli ac yn dda, es i i’r Bae i weld sesiynau Ian Hargreaves, Euryn Ogwen ac eraill. O’n i jyst eisiau’r profiad. Mae’r trafodaethau yna yn amser real ond maen nhw yn siarad un ar y tro.

Yn y sgwrs fyw ar-lein roedd un awr yn unig i siarad am y cyfryngau i gyd – newyddiaduriaeth, hysbysebion, busnes, print, teledu, radio, y we, platfformau o bob math, lleol ac ati. Roedd lot o gwestiynau gan yr aelodau o’r pwyllgor Ken Skates, Bethan Jenkins a Janet Finch-Saunders. Dychmyga, mae popeth yn digwydd yn amser real gyda amldasgio o sgyrsiau hollol gwahanol ar yr un tro. Darllena fy nhrawsgrifiad, doedd y sgwrs ddim yn cynaliadwy o gwbl. Roedd 1 neu 2 munud i feddwl am ateb synhwyrol cyn i’r sgwrs symud ymlaen.

Roedd problemau eraill. Ble oedd y pobol o’r gogledd neu hyd yn oed unrhyw un tu gorllewin i Gastell Nedd? O’n i’n nabod y rhan fwyaf o’r pobol yn bersonol, o ran y rhai o’n i ddim yn nabod yn bersonol o’n i’n cyfarwydd iawn gyda’u enwau. Dw i’n gwybod bod Cymru yn fach ond ddim mor fach a hynny. Mae rhaid codi cwestiynau am unrhyw ymgynghoriad gyda gwahoddiadau. Efallai roedd gwahoddiadau y tro cyntaf i brofi’r system – gobeithio. Beth bynnag, achos y system a phroses tasen nhw wedi gwahodd mwy o bobol basai’r sgwrs wedi bod yn waeth.

Dw i’n meddwl bod cyfleoedd i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus gwell trwy defnydd da o ar-lein, teclynnau da ac ymarferion da.

Ond cyn i ni ystyried y cyfleoedd ar-lein rydyn ni’n gallu gofyn ‘beth sy’n bod gyda’r proses traddodiadol fel y mae?’. Mae’r broses fel y mae yn eithaf da, canlyniad o flynyddoedd o gamgymeriadau a datblygu siŵr o fod. Mae wythnosau fel arfer i feddwl, i sgwennu adborth i’r ymgynghoriad ac i’w anfon trwy bost neu e-bost.

Un o’r heriau sy’n wynebu’r proses traddodiadol: pa mor agored ydy e? Mae’n agored i bawb mewn theori. Ond bydd mwy o dystiolaeth yn dda tu fas i’r usual suspects, dw i’n derbyn hynny. Dw i’n meddwl bod e’n werth trio trafodaeth anghydamserol ar we sy’n agored, e.e. system trafodaeth ar agor am fis neu dau ar wici neu hyd yn oed blog o ryw fath. Bydd pynciau gwahanol ar wahan, dolenni i bethau cysylltiedig o gwmpas y we a digon o amser i feddwl. Does dim rhaid i drafodaeth bod yn gyflym fel y sgwrs fyw – heblaw rhywbeth anffurfiol i gyflwyno ymgynghoriad ar y dechrau efallai.

Dylai fe fod yn bosib i redeg ymgynghoriad yn y dwy iaith hefyd. Yn anffodus doedd y Cynulliad ddim yn cymryd bob cyfle i bostio pethau yn Gymraeg. Dyma enghraifft o sylw uniaith gan y Cynulliad. Yn ystod y sgwrs o’n i’n postio sylwadau yn Gymraeg ac roedd rhywun yn eu cyfieithu unffordd o Gymraeg i Saesneg. Ond doedd e ddim yn bosib i ddarllen pob sylw yn Gymraeg. Mae’n cyfrannu at y shifft ieithyddol. Os rydyn ni eisiau cael democratiaeth go iawn mae rhaid cynnig yr un cyfleoedd yn y dwy iaith. (Er enghraifft dw i’n cwrdd â lot o bobol sy’n hollol galluog sydd ddim yn hyderus yn Saesneg. ‘Beth yw ‘darlledu’ yn Saesneg?’ oedd cwestiwn dilys go iawn yn ystod fy ngwaith yn ddiweddar.)

Maen nhw newydd gofyn trwy neges ebost am fy meddyliau am y broses. Ti’n gallu gweld copi o’r ebost yma. Gwnes i dderbyn fersiwn uniaith Saesneg, dw i ddim yn siwr os oes fersiwn Cymraeg ar gael.

(Mae rhaid dweud yma bod i wedi gweithio gyda’r Cynulliad ar ddigwyddiad a strategaeth cyfryngau digidol ar gyfer etholiadau 2011.)

Rhodri Talfan a BBC Cymru ar-lein

I fod yn deg i BBC Cymru dw i wastad yn cael rhyw fath o ateb i unrhyw gofnod amdanyn nhw, fel arfer trwy ebost neu alwad ffôn. Mae croeso iddyn nhw adael sylwadau hefyd.

Os oes gyda ti syniad neu farn amdanyn nhw dylet ti blogio fe ac anfon y ddolen iddyn nhw yn bendant. Mae’n well na llythyr preifat achos mae pobol eraill yn gallu defnyddio’r syniadau. Dw i’n licio meddwl bod y syniadau a sgwrs ar gael i bawb yn y cyfryngau o Golwg360 i S4C i Jazzfync a Gemau Fideo.

Meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru:

[...] As BBC Wales approaches its 50th anniversary in 2013, we need to provide audiences in Wales with permanent access to BBC Wales’ extraordinarily rich back-catalogue. Our archive is a national resource – a true national treasure – that should be enjoyed by everyone wherever they chose. [...]

Gwych. Does dim rhaid aros tan 2013. :-)

Mae ‘cofio’ yn rhan fawr o hunaniaeth Cymru. Cofiwch, wyt ti’n cofio Macsen ayyb ayyb. Dylen ni adlewyrchu ein blaenoriaethau ‘cofio’ ar-lein. Rhyw ddydd byddan ni’n cymryd argaeledd y stwff yn caniataol.

Gwnes i weld y dyfyniad yma mewn trawsgrifiad araith hir ar Click on Wales (mae’r erthygl wedi diflannu, gobeithio bydd e’n ôl cyn hir). Hoffwn i weld blog go iawn gan Rhodri Talfan gyda chofnod bob mis i esbonio penderfyniadau a derbyn sylwadau – yn hytrach na rhywbeth ar yr IWA.

Beth bynnag, mae’r paragraff yn teimlo fel ateb uniongyrchol i rai o fy nymuniadau mis yma ynglŷn ag argaeledd rhaglenni. Siŵr o fod cyd-ddigwyddiad, mae’r BBC yn meddwl pethau tebyg. Felly bydd rhaid i mi codi fy disgwyliadau nawr. :-)

OK mae’r archif yn iawn, mae addewid. Beth am stwff cyfoes? Hoffwn i glywed mwy o fanylion am:

[...] We need to redefine our ambitions for Welsh language digital services – and to focus much more on services that complement rather than replicate those available in English if we’re to achieve significant impact. [...]

Mae’n dibynnu ar dy athroniaeth. Dylen ni trio creu byd cyflawn uniaith Cymraeg? Neu jyst derbyn y ffaith bod pobol yn dilyn stwff yn Saesneg? Dw i’n meddwl bod y pwyslais ar gynnwys unigryw yn bwysig iawn. Ond mae peryg o roi Cymraeg yn y cornel. Neu cadw Cymraeg yn y cornel. Mae ‘popeth yn Gymraeg’ yn arbrawf meddwl ardderchog ar-lein. O’n i’n ystyried creu ategyn Firefox i flocio Saesneg ar y we, fel jôc wrth gwrs ond hefyd fel prawf i weld pa mor hir ti’n gallu teithio yn Gymraeg cyn i ti bwrw wal ieithyddol (bancio ar-lein, dadansoddiad newyddion rhyngwladol, ffeindio ffilmiau…).

Tra bydd Saesneg yn tyfu mwy a mwy ar-lein bydd pob iaith yn wynebu’r un cwestiwn cyn hir. Dw i wir yn meddwl bod y gwaith ‘ma yn Gymraeg yn arloesol.

Ymddiried a rhannu

Bob hyn a hyn mae rhywun yn rhannu gwybodaeth sensitif gyda fi am brosiect neu rywbeth ar y gweill ac yn aml iawn maen nhw yn dweud ‘plîs paid â phostio’r manylion ar y we – ar hyn o bryd’. Wel, diolch. Does dim rhaid i ti ofyn o gwbl achos dw i ddim yn cymryd sensitifrwydd yn ganiataol. Dyw’r ffaith bod i’n blogio yn meddwl bod i’n rhannu dy bethau yn awtomatig heb ofyn am ganiatâd. Hoffwn i feddwl bod i’n cymryd mwy o ofal. Mae pŵer mawr yn dod gyda chyfrifoldeb mawr. :-)

Cyngor darllenyddion

Nôl yn yr 80au Lotus 1-2-3 oedd y killer app ar MS-DOS ar yr IBM PC. Roedd y meddalwedd mor arbennig ac unigryw a chafodd pobol eu perswadio i brynu’r platfform er mwyn rhedeg y meddalwedd. Mae enghreifftiau eraill.

Meddwl am e-lyfrau eto.

Mae sefyllfa gyda’r diffyg e-lyfrau Cymraeg ar Kindle yn debyg i killer apps, ond y ffordd arall rownd.

Ar unrhyw dyfais mae’n bwysig cael sgrin neis, dyluniad da, ‘corff’ o ansawdd, hawdd i’w defnyddio a lot o nodweddion eraill. Ond faint o bobol fydd yn gofyn am gefnogaeth ieithyddol?

Faint o bobol sy’n ystyried e-lyfrau Cymraeg fel rhywbeth HANFODOL ar e-darllenyddion? Dw i’n gofyn os mae’r diffyg e-lyfrau Cymraeg yn dealbreaker. Does na ddim heb gwarant o Gymraeg ar Kindle yn y dyfodol, cofia. Faint o bobol fydd yn newid meddwl ar ôl iddyn nhw clywed bod Amazon wedi gwrthod derbyn Cymraeg ar ‘ecosystem’ caeedig nhw?

Ydy e’n deg i ddweud bod rhyw fath o cysylltiad rhwng teimladau pobol ar y pwnc ac ansawdd llyfrau Cymraeg a’r marchnad? Dylai awduron a chyhoeddwyr pryderu am y ffaith bod rhai o siaradwyr Cymraeg yn fodlon prynu unrhyw dyfais sydd ddim gyda chynnwys Cymraeg.

Dw i ddim yn gofyn am rhyngwynebau Cymraeg, wrth gwrs mae lot fawr o bobol yn fodlon rhedeg meddalwedd heb rhyngwyneb Cymraeg. Dw i’n gofyn am gynnwys, y peth mwyaf pwysig ar e-darllenydd.

Dw i’n gwybod bod yn cwestiwn yn berthnasol i llyfrau papur. Cyfle i ail-asesu cyflwr y marchnad yn gyffredinol?

Ffenestr rhaglenni ar BBC iPlayer

Roedd dau trafodaeth da ar sioe Dylan Iorwerth heddiw – un am brotestiadau meddiannu yng Nghymru ac un am PRS a cherddorion Cymraeg – a mwy.

Am faint fydd sioe Dylan Iorwerth yn barhau ar BBC iPlayer? Un wythnos yn unig.

Yfory bydd y sioe cyntaf o fis Tachwedd yn cwympo yn yr ebargofiant digidol Cymraeg. Bob dydd wythnos yma byddan ni’n colli sioe arall.

Ond wythnos nesaf bydd sgyrsiau am yr un pynciau yn y tafarnau, caffis, newyddion, blogiau a phlatfformau cymdeithasol ond tra bod nhw yn barhau bydd BBC a Dylan Iorwerth yn colli’r cyfle i gyfrannu i’r sgyrsiau ac i fanteisio am yr alw dyfodol. Anffodus.

Mae’n rhaid gofyn: pam mae’r cyfle i wrando, y ffenestr, mor fyr yma?

Heblaw ychydig o gerddoriaeth does dim hawliau anodd mewn sioeau fel Dylan Iorwerth neu teledu trafodaeth fel Pawb a’i Farn.

Model bosib fydd archif Desert Island Discs. Dw i ddim yn anghofio’r podlediadau BBC lle maen nhw yn ailgylchu’r cynnwys o rhai o’r sioeau, e.e. Ar y Marc. Maen nhw yn model o beth sy’n bosib ond er bod nhw yn MP3 heb unrhyw DRM iPlayer dydyn nhw ddim yn parhau ar y wefan am fwy na mis.

Dylai’r sgyrsiau fel ‘na bod ar gael am byth, rhywsut.

Am faint fydd unrhyw erthygl a sylwadau ar Golwg360 parhau? Am flynyddoedd i ddod. Rydyn ni’n gallu sgwennu dolen i unrhyw erthygl mewn cofnod blog neu ebost unrhyw bryd, e.e. erthygl a sgwrs am PRS a cherddorion. (Neu’r 64 cofnod blog gan Dylan Iorwerth.)

Mae toriadau yn y BBC, dw i’n deall, ac efallai does dim lot o gyllideb i gynnig mwy o ffrydiau awdio. (Er bod rhai o bethau ar iPlayer am flynyddoedd, e.e. ar eitem It Felt Like A Kiss gan Adam Curtis, deadline y cynnwys yw 11:59PM Dydd Gwener, 31 mis Rhagfyr 2038.) Un ffordd rhad i helpu’r trafodaethau bydd trwydded wahanol. Yn hytrach na ‘Hawlfraint BBC – cedwir pob hawl’ jyst dweud ‘Hawlfraint BBC – mae’r trafodaethau yn y sioe yma wedi cael ei rhyddhau dan Creative Commons BY-NC’. Mae trwydded BBC, sef y Creative Archive Licence, sy’n cael ei defnyddio bob hyn a hyn ond dw i ddim wedi gweld unrhyw ddefnydd ar gynnwys yn Gymraeg. Beth bynnag, fydd ddim angen unrhyw feddalwedd neu gostau newydd i newid y polisi achos mae pobol eraill yn gyfrifol am y gwesteia. Bydd unrhyw yn gallu copïo sioe i roi ar blog neu Soundcloud neu Audioboo ayyb. Mae pobol yn wneud e eisoes, e.e. Dave Datblygu ar Beti a’i Phobol.

Os mae’n werth cynhyrchu rhaglen mae’n rhaid bod modd sicrhau bywyd y rhaglen am fwy nag wythnos, modd cyfreithlon.

Siŵr o fod pobol yn y BBC yn cwrdd rhywbryd wythnos yma neu fis yma i drafod sut i godi niferoedd o wrandawyr a’i chyfranogiad, pherthnasedd a ‘reach’ y rhaglennu, proffil Dylan Iorwerth ac ati. Dyma un ffordd effeithiol.

(Gyda llaw un ffordd arall fydd cysoni’r enw a’r hashtag i naill ai Dylan Iorwerth #dylaniorwerth neu Dan yr Wyneb #danyrwyneb, nid y dau!)

Think Digital Caerdydd

Dw i’n siarad yn y digwyddiad Think Digital Caerdydd wythnos nesaf. Dere draw.

E-lyfrau 2011, recordiadau 2004

Fel ateb i’r cofnod diwethaf mae Ifan wedi cyhoeddi cofnod ac yn dweud:

[...] Yn ddelfrydol, wrth gwrs, fe fyddai pawb yn defnyddio cynnyrch open source, ond fel y mae pethau mae’r rhan fwyaf o bobol yn defnyddio systemau’r cwmnïau mawr, gan gynnwys Kindle ac iTunes. Er mwyaf sicrhau bod cynnyrch Cymraeg yn cyrraedd ei gynulleidfa, onid yw’n gwneud synnwyr cyhoeddi drwy’r cyfrwng sy’n debygol o gyrraedd y mwyafrif? [..] (pwyslais fi)

Wel, na. Ble mae’r data? Does dim data gyda fi chwaith ond dw i’n anghytuno. Dw i’n teimlo fod perchnogaeth Kindle yn isel iawn ymhlith darllenwyr Cymraeg. Efallai mae’n rhy isel i atynnu Amazon i’r farchnad Cymraeg ar hyn o bryd.

Mae cyfle bob hyn a hyn i fanteisio ar y gwagle ac i ffeindio rhywbeth sy’n dda i’n cwmniau ‘cynnwys’ (cyhoeddwyr tro yma). Mae cyfle i dyfu busnes tu allan i’r dosbarthwr/storfa mwyaf yn ieithoedd/llefydd eraill. Oherwydd mae’r marchnad e-lyfrau Cymraeg yn agored iawn ym mis Tachwedd 2011.

Roedd cyfle debyg 7 neu 8 flynedd yn ôl yn y marchnad recordiadau. Dw i’n cofio achos o’n i’n rheoli cwmni recordiadau ar y pryd. Ar y pryd Bleep.com oedd y lle i brynu electronica, nid iTunes Store. Roedd electronica yn sin ar wahan i roc braidd gyda’i gigs, cyfryngau ei hun ayyb.

Roedd Bleep.com yn rhan o Warp Records ac roedden nhw yn werthu i ffans yn uniongyrchol – o gatalog nhw yn unig ar y dechrau. Roedd disgrifiadau yn manwl ac roedd y profiad yn dda ac roedd y ffeiliau yn MP3 (cyfleus), sydd ddim yn fformat hollol ‘agored’ yn union ond doedd na ddim DRM. Bleep oedd yr unig opsiwn i brynu rhai o’r artistiaid ar y dechrau. Hwyrach wnaethon nhw cadw’r cwsmeriaid dw i’n siwr. Ar y pryd roedd y catalog iTunes Store gyda chatalog anghyflawn, mewn AAC caeëdig yn hytrach na MP3 (rhydd, ish).

Hwyrach roedd stwff Warp ar iTunes hefyd wrth gwrs wrth gwrs wrth gwrs. Ac ar eMusic, Rhapsody, 7Digital, We7, Spotify a phob gwasanaeth arall yn y pen draw. Ond cafodd Bleep.com ‘first mover advantage’ yn y marchnad electronica.

Beth dw i’n trio dweud yw, y Gymraeg ydy’r electronica o lyfrau mewn ffordd. (Ifan Morgan Jones yw Autechre, Ned Thomas yw’r Aphex Twin.) Mae angen ‘Bleep.com o lyfrau Cymraeg’. Mae gyda ni ffans penodol, ‘sianeli’ ein hun sydd yn fodlon cefnogi’r opsiwn lleol. Does dim rheswm nawr pam mae rhaid i ni ystyried Amazon fel the only game in town. Mae opsiynau eraill NAWR. Ond bydd siop Cymreig yn neis iawn i bawb.

Roedd defnydd Apple o 100% DRM i adeiladu monopoli/ecosystem yn sinigaidd iawn. Y neges i’r labeli oedd scaremongering am gopïo ayyb. Roedd Apple yn sinigaidd ond o leaif roedd yr iPod yn cefnogi MP3 o’r dechrau! Mae Amazon wedi bod yn ddrwg iawn gyda Kindle sydd ddim yn derbyn ePub o gwbl ar hyn o bryd. Mwy na cheeky. Mae busnesau yn wahanol – prif busnes Apple yw’r dyfeisiau, prif busnes Amazon yw’r cynnwys. Fel y dwedais mae Amazon yn colli arian ar bob Kindle Fire. Maen nhw eisiau rheoli’r farchnad llyfrau BYD-EANG!

O ran siop annibynnol mae’r issues hawliau yn haws gyda llyfrau. Ac mae’r maint yn llai na MP3s felly mae’r costau yn llai.

Efallai bydd 3 mis neu 6 mis, efallai 12 mis o gyfle i ddechrau rhywbeth a gwerthu llyfrau yn uniongyrchol a chadw mwy o’r arian yng Nghymru.