Tag Archives: blogio

Cwestiynu’r gystadleuaeth blog Eisteddfod Gen

Beth yw’r gwahaniaethau rhwng traethawd a chofnod blog? Cyd-destun, cyfrwng sef cyfrwng o drosglwyddiad o’r awdur i’r darllenwyr, hyd yn oed defnydd o gyfryngau gwahanol fel fideo, lluniau, awdio a dolenni. Ac yn aml iawn mae sylwadau dan y cofnod blog. Dw i ddim yn siwr os ydy’r Eisteddfod Genedlaethol yn sylweddoli’r gwahaniaethau yma. Ar gyfer [...]

Cynseiliau ieithyddol ar y we

Mae Ifan Morgan Jones newydd gyhoeddi siart o’i hoff blogiau ar Golwg360 sy’n ddiddorol (er bod y dewisiadau bach yn drwm ar yr ochr sosejol, fel lot o bethau yng Nghymru batriarchaidd). Mae fe’n dweud: [...] Rhif 6: Quixotic Quisling Efallai fod cynnwys blog ddwyieithog yn gosod cynsail peryglus [...] Wel, mae’n dibynnu ar bobol eraill. Hoffwn i [...]

Profi blogio ar fy ffôn newydd

Cofnod cyntaf ar fy ffôn newydd (Dell Streak sydd yn rhedeg Android). Joio. Llun o glawdd gorllewin, Caerdydd

Ymddiried a rhannu

Bob hyn a hyn mae rhywun yn rhannu gwybodaeth sensitif gyda fi am brosiect neu rywbeth ar y gweill ac yn aml iawn maen nhw yn dweud ‘plîs paid â phostio’r manylion ar y we – ar hyn o bryd’. Wel, diolch. Does dim rhaid i ti ofyn o gwbl achos dw i ddim yn [...]

7 blog Cymraeg newydd sbon

Dw i’n rhedeg cwrs yng Nghaernarfon ar hyn o bryd am gyfryngau cymdeithasol gyda Cyfle a saith person o gwmnïau a sefydliadau gwahanol. Rydyn ni wedi siarad am lot o bethau gwahanol. Nes i ddechrau gyda Google Docs er mwyn creu rhywle i adael dolenni a rhannu nodiadau. Mae’r dogfen wedi bod yn wych fel [...]

Blogio fel prosiect vs. Taflu dy waith mewn twll Google+

Sylw da iawn gan Anil Dash am ‘flogio’ ar Google+, Facebook ac ati: The broken comparison here is forgetting that many of us write (and own) our blogs because we’re making a *work*. It’s like saying “instead of writing a book, just scribble some notes in the back of someone else’s book!” Based on the [...]

John Ogwen yw pawb, pawb yw John Ogwen.

Syniad da ar fideobobdydd.com – mae pawb yn gallu blogio dan yr enw John Ogwen. (Pam John Ogwen? Achos mae’n hwyl.) Dw i wedi ychwanegu dau gofnod i’w profi. Dylet ti hefyd. Mae’r cofnodion yn ddienw ond ti’n gallu arwyddo ar y gwaelod – dw i’n tybio.

Chwilio am blatfform? Osgoi unrhyw beth secsi…

Dw i ddim yn proffwydo bywyd sefydlog i Tumblr fel platfform blog. (Dw i’n meddwl am flogio bob dydd, yn arbennig achos rydyn ni’n casglu blogiau Cymraeg ar hyn o bryd ar Y Rhestr Hedyn.net fel archwiliad ac adnodd.) Pam ydy pobol yn defnyddio Tumblr? Wel mae’n hawdd. Mae’n gweithio heddiw. Mae’n ffasiynol. Mae’n secsi. [...]

Ein Caerdydd a blogiau lleol newydd ledled Cymru

Braf iawn i weld Ein Caerdydd gan Rhys Wynne (ac efallai cyfranwyr eraill?). Trelluest, hwre! Wrth gwrs mae lot o flogiau o Gaerdydd wedi bodoli am flynyddoedd (rhai ohonyn nhw ar Y Rhestr). Ond mae gwahaniaeth rhwng blog o Gaerdydd a blog lleol gyda ffocws ar Gaerdydd, yr ardal benodol, i bobol leol. Mae pob [...]

Gwefannau lleol, blodau yn tyfu ym mhob man

Tri dolen heddiw am wefannau lleol (dim trefn penodol): 1. Nodiadau gan Gareth Morlais o’r digwyddiad Talk About Local yng Nghaerdydd ar y blog Hacio’r Iaith – a thrafodaeth gan eraill. (Mae Gareth yn sgwennu BaeColwyn.com sef blog lleol ardderchog.) Dwi’n meddwl bod trio canol rhywbeth mor ddatganoledig a Phapurau Bro mewn uber-safle yn bownd [...]