Tag Archives: cynnwys

Santes Dwynwen 404!

Yn anffodus roedd rhaid i rywun dileu dau dolen ar Wikipedia i erthyglau S4C am Santes Dwynwen achos mae’r sianel wedi torri’r dolenni (Dudley a Dechrau Canu). Ydyn ni wedi colli’r erthyglau am byth? Dydd Santes Dwynwen 404 anhapus! Dyw e ddim yn broblem S4C, mae’n broblem i’r diwydiant darlledu yn gyffredinol. (Gweler hefyd: cofnod gan [...]

Rhodri Talfan a BBC Cymru ar-lein

I fod yn deg i BBC Cymru dw i wastad yn cael rhyw fath o ateb i unrhyw gofnod amdanyn nhw, fel arfer trwy ebost neu alwad ffôn. Mae croeso iddyn nhw adael sylwadau hefyd. Os oes gyda ti syniad neu farn amdanyn nhw dylet ti blogio fe ac anfon y ddolen iddyn nhw yn [...]

Ffenestr rhaglenni ar BBC iPlayer

Roedd dau trafodaeth da ar sioe Dylan Iorwerth heddiw – un am brotestiadau meddiannu yng Nghymru ac un am PRS a cherddorion Cymraeg – a mwy. Am faint fydd sioe Dylan Iorwerth yn barhau ar BBC iPlayer? Un wythnos yn unig. Yfory bydd y sioe cyntaf o fis Tachwedd yn cwympo yn yr ebargofiant digidol [...]

Gwefannau lleol, blodau yn tyfu ym mhob man

Tri dolen heddiw am wefannau lleol (dim trefn penodol): 1. Nodiadau gan Gareth Morlais o’r digwyddiad Talk About Local yng Nghaerdydd ar y blog Hacio’r Iaith – a thrafodaeth gan eraill. (Mae Gareth yn sgwennu BaeColwyn.com sef blog lleol ardderchog.) Dwi’n meddwl bod trio canol rhywbeth mor ddatganoledig a Phapurau Bro mewn uber-safle yn bownd [...]

Rhannu yw’r recordio newydd.

Dim ond meddyliau heddiw. Mae’r rhan fwyaf o bethau yn Gymraeg yn anweledig. Maen nhw yn cysgu mewn archifau. Trafodwch. BBC Recordiau Sain Bando Sidan S4C Fideos o Eisteddfodau Llyfrau Y Gasgen Pethau o’r 1990au a 2000au Ernest (DIWEDDARIAD 26/03/2011) Dylen ni rhyddhau a rhannu nawr. Mae’r arian yn gallu dod hwyrach. 1960au. Arwr yr [...]

Cymru vs Efrog Newydd. Amgueddfeydd a ffotograffiaeth ar y we

Es i i’r Amgueddfa Genedlaethol Cymru, un o fy hoff lefydd yng Nghaerdydd, i weld arddangosfa newydd (o hen hen gelf). O’n i eisiau dangos lluniau yma. Ond yn anffodus dylwn i ddilyn eu polisi nhw. Plîs darllena’r termau ac amodau, yn enwedig: “…na chaniatáu iddi gael ei chyflwyno ar unrhyw wefan”. Sori, dim llun [...]

Dadfwndelu a chynnwys Cymraeg ar-lein

Mae Mathew Ingram yn drafod y golled mantais technoleg yn y diwidiant newyddion. Mewn geiriau eraill, mae unrhyw un yn gallu cyhoeddi/copïo newyddion ar-lein, dyw busnesau newyddion ddim yn defnyddio technoleg arbennig ac unigryw i fod yn gystadleuol yn 2011. the media industry is in the process of being unbundled, just like the telecom business [...]

Holi am gynnwys niche yn Gymraeg

Diolch i Ifan am ei sylw ar fy nghofnod diwethaf. Dw i wedi copi’r sylw. Rydyn ni’n siarad am rywbeth cyffredinol a phwysig ar y we Gymraeg, haeddu cofnod ar wahan. Darn o’r sylw: Mae hynny’n bwysig wrth gwrs ond mae yna berygl gyda gwefan Cymraeg eich bod chi’n mynd i niche o fewn niche. [...]

Rydyn ni angen termau hawlfraint fyrrach

Meddai blogwr maximus Nic Dafis yn ei cofnod am Gomins Creadigol: Wedi dweud hynny, dw i ddim yn cytuno bod angen sustem hawlfraint newydd i Gymru, a ddim yn gweld sut byddai hynny’n gweithio tra bod Cymru a Lloegr yn rhannu cyfundrefn cyfreithiol yn gyffredinol. Pan daw’r chwyldro gogoneddus, wrth gwrs, bydd popeth yn wahanol, [...]