Eiddo deallusol a hawlfraint – beth yw’r problem?

Ro’n i eisiau cynnig meddyliau am y term “eiddo deallusol“. Fel arfer dw i ddim yn licio dadlau am derminoleg ond tro yma dw i’n awgrymu bod y term “eiddo deallusol” yn rhy cyffredinol am ein pwrpasau, yng Nghymru ac yn Gymraeg yn enwedig.

Dw i wedi clywed y term yn gyfarfodydd cyhoeddus gyda’r Llywodraeth Cymru. Mae prifysgolion yn defnyddio fe. Fel arfer maen nhw yn siarad am hawlfraint felly dylen nhw dweud “hawlfraint”.

Ond mae’r term “eiddo deallusol” yn derm ymbarél fel ei chywerthydd Saesneg intellectual property, mae’n sôn am bedwar peth gwahanol a chyfreithiau gwahanol:

  • hawlfraint
  • breinlenni
  • nodau masnach
  • dyluniad

Gwnaf i roi ffocws ar hawlfraint heddiw. (Does dim system o gofrestru hawlfraint swyddogol yn gronfa ganolog gyda ni yn y DU, dyma wahaniaeth rhwng hawlfraint a’r tri eraill yn barod.)

Mae pob ochr o hawlfraint yn hollol wahanol i eiddo – creadigaeth, dosbarthu, gwerthfawrogi a gwerthu. Ti’n gallu copïo pethau dan hawlfraint berffaith verbatim.

Trosedd hawlfraint yw rhywbeth gwahanol i ddwyn – canlyniad gwahanol, cyfraith wahanol. (Paid â chymryd dy ddealltwriaeth o hysbysebion ar DVDs: “You wouldn’t steal a car…“)

Mae hawlfraint yn amddiffyn (mewn theori) yr hawl yr awdur am gopïo. Hefyd, mae gyda’r awdur hawliau moesol (sut mae dy waith yn gallu cael ei defnydd am dy enw da). Dim sôn am berchenogaeth gorfforol fan hyn chwaith.

Beth am ddosbarthu a gwerthu? Llawer o enghreifftiau, Salvador Dalí oedd un o’r artistiaid cyntaf i werthu’r ddelwedd peintiad Cristo de San Juan de la Cruz (hawlfraint) gyda’r peintiad (yr arteffact, eiddo). Syniad da? Sa’ i’n siŵr ond mae lot o artistiaid doeth ers Dalí wedi trwyddedu’r delweddau yn lle gwerthu. Rwyt ti’n gallu prynu tudalennau o’r archif John Lennon neu efallai Dic Jones (eiddo). Ond dwyt ti ddim wedi prynu’r hawliau yn y cyfansoddiadau. Dwyt ti ddim wedi prynu’r hawliau yn unrhyw recordiadau awdio neu fideo/ffilm chwaith. Tri peth gwahanol.

Mae gyda ni diffyg cynnwys Cymraeg arlein yn 2010. Mae’r trwyddedau rhydd Creative Commons yn teimlo fel anrheg i Gymraeg. Ond gallai “cedwir pob hawl” bod yn rhwystr. Gallai camddealltwriaeth o “eiddo deallusol” bod yn rhwystr hefyd. Cedwir pob ailddefnydd. Cedwir yr iaith mewn cwpwrdd tywyll. Wrth gwrs mae’r traddodiad ailgymysgiad wedi digwydd am ganrifoedd yng Nghymru yn ddiwylliant gwerin. O bydded i’r ailgymysgiad barhau.

Am fwy o wybodaeth dylet ti ddarllen y traethawd Did you say intellectual property? gan yr arwr meddalwedd Richard Stallman (dychmyga’r fersiwn meddalwedd o’r comic book guy pedantig yn The Simpsons – ond syniadau da) ac erthyglau am eiddo deallusol gan yr EFF. Bydd yn ofalus gyda’r pwyslais cyfraith Americanaidd. Gyda llaw, cyfreithiwr dw i ddim, cyngor cyfreithiol nid y cofnod o feddyliau hon!

Ro’n i eisiau cynnig meddyliau am y term “eiddo deallusol”. Fel arfer dw i ddim yn licio dadlau am derminoleg ond tro yma dw i’n awgrymu bod y term “eiddo deallusol” yn rhy cyffredinol am ein pwrpasau, yng Nghymru ac yn Gymraeg yn enwedig.

Dw i wedi clywed y term yn lle hawlfraint yn gyfarfodydd cyhoeddus gyda’r Llywodraeth Cymru. Mae prifysgolion yn defnyddio fe. Poenus. Rhaid i ni ddeall hawlfraint cyn i ni’n gallu tyfu yn dda fel diwylliant.

Mae’r term “eiddo deallusol” yn derm ymbarél fel ei chywerthydd Saesneg intellectual property, mae’n sôn am bedwar peth gwahanol a chyfreithiau gwahanol.

4 Ateb i “Eiddo deallusol a hawlfraint – beth yw’r problem?”

  1. Dw i’n methu bod yn wrthrychol am hyn heddi, gan fod rhywun wedi rhoi gwahoddiad “Please add this picture to our group” i un o fy hen luniau ar Flickr, a gâth ei ddefynddio gan Golwg ers talwm heb unrhyw gydnabyddiaeth, mewn erthygl “portead yr Wythnos” am fy nghariad nad oedd hithau eisiau iddyn nhw sgwennu. Ro’n i wedi anghofio amdano’n llwyr, ond ar y pryd roeddwn i mor grac, wnes i newid y trwydded dw i’n defnyddio ar Flickr i’r hen “Cedwir pob hawl”. Y dewis oedd hynny neu ddileu miloedd o luniau yn gyfan gwbl.

    Wedi dweud hynny, dw i’n chwarae fast and loose gyda rheolau hawlfraint fy hunan. Mae cynnwys fy mlog /cerddi newydd i gyd yn anghyfreithlon, siwr iawn, oni bai mod i eisiau dadlau taw “defnydd teg” yw dyfynnu cerddi ar eu hyd heb ofyn caniatâd.

    Mae’n drafodaeth werth ei gael, yn sicr.

  2. Dogisteil, dylen nhw ofyn am ddefnydd masnachol.

    Wyt ti’n meddwl fod camddealltwriaeth o’r drwydded wedi creu’r broblem? Achos maen nhw dal yn gallu camddeall neu fethu gweld “cedwir pob hawl”.

    /cerddi – O leia ti’n enwi’r ffynhonnell ar dy flog.

  3. Dwi’n cytuno bod hon yn drafodaeth bwysig, ond mae hefyd yn bwysig peidio drysu rhwng y term ‘eiddo deallusol’ a’r *cysyniad* o eiddo deallusol.

    Does dim problem gyda’r term: mae’n label sy’n disgrifio’r cysyniad i’r dim. Y broblem gyda’r cysyniad yw ei fod yn un cymhleth. Mae’n ddibynnol i raddau ar ddealltwriaeth o gysyniadau eraill, fel hawlfraint, trwyddedu a nodau masnach. Gyda rhain yn gallu amrywio o wlad i wlad neu o gyd-destun i gyd-destun, does ryfedd fod pobl yn cymysgu rhyngddynt, neu’n ansicr ynglyn â therfynnau’r cysyniadau.

    Ydi, mae’n bwysig deall y cysyniadau hyn, ond arfau i gyrraedd rhyw nod ydyn nhw. Yr hyn dylwn ni geisio’i wneud ydi ceisio deall sut y gallwn ni beri i gyfrwng a chynwys Cymraeg ffynnu, ac yna dewis modelau eiddo deallusol a thrwyddedu fydd yn ein galluogi ni i gyrraedd y nod hwnnw.

    Mae ceisio dewis modelau trwyddedu cyn penderfynu’r nod neu’r bwriad terfynol ychydig bach fel rhoi’r cart o flaen y ceffyl.

Mae'r sylwadau wedi cau.