Mantais y parth cyhoeddus

Wyt ti erioed wedi clywed araith gan wleidydd na gwas sifil am fanteision y parth cyhoeddus? (Dw i erioed wedi. Ond dw i wedi clywed y geiriau ‘eiddo deallusol’, ‘intellectual property’ ac ‘IP’ sawl gwaith.)


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr

Mae’r lluniau hyfryd yma yn dod o’r archif Library of Congress. Dim trwydded, dim hawlfraint, dim ond ‘No known copyright restrictions’.

Dyma ddau wefan sydd wedi bod yn rhydd i rannu’r lluniau yn y pythefnos diwethaf:

Buzzfeed, mis Gorffenaf 2011 (31,631 yn dilyn ar Twitter, lluniau wedi cael 490 hoff, 69 ‘response’ hyd yn hyn)

How To Be A Retronaut, heddiw (9597 yn dilyn ar Twitter, 17600 yn dilyn y tudalen Facebook, mwy o bobol ar RSS ayyb)

Diolch Library of Congress, UDA. (Gweler hefyd: lluniau NASA)

Wrth gwrs mae lluniau yn dangos un math penodol o Gymru, sef yr 19eg ganrif. Ond mae’n iawn, mae’n rhan o’n hanes, diwylliant ac etifeddiaeth.

Dyma un mantais y parth cyhoeddus i bobol sy’n trio hyrwyddo Cymru neu codi ymwybyddiaeth am Gymru, e.e. Llywodraeth Cymru, Visit Wales.

Ond pa mor aml ydy blogiau o gwmpas y byd yn rhannu stwff o Gymru?

Paid anghofio’r parth cyhoeddus. Syniad da i Lyfrgell Genedlaethol sydd yn digido pethau o ganrifoedd yn ôl ac yn trio rhoi nhw dan drwydded hawlfraint gaeth iawn.

5 Ateb i “Mantais y parth cyhoeddus”

  1. Diolch am rannu’r lluniau. Neud i mi feddwl am sut fyddai beicio o Lanberis i Ben y Pas heb ffordd haearn. A hynny ar feic trwm heb gêrs swn i’n feddwl…

    Ond ti’n iawn am y busnes hawlfraint ’ma. Cafodd y system ei ddyfeisio at ddibenion oes gwahanol ac mae’n gwbl amherthnasol rŵan.

  2. Dw i wedi ail-ddarllen y cofnod ’ma, nes i golli’r pwynt pwysicaf yn llwyr!

    Y pwynt pwysicaf ydy perchnogaeth o’n etifeddiaeth deallusol.

    Mae’r cyfleoedd i farchnata yn ganlyniad bach. Dw i’n dychwelyd i’r enghraifft Llyfrgell Genedlaethol achos mae’n enghraifft berffaith o gyfleoedd ar goll. Dw i’n cwyno am ddiffyg rhyddid (cedwir pob hawl) – a’r pris (£6 fesul llun). Ac mae’r agwedd yn hollol rong. Mae Cymru a’r byd yn colli mwy.
    https://morris.cymru/2010/09/diwylliant-rhydd-gofyn-ir-llyfrgell-genedlaethol-am-ein-hetifeddiaeth/#comment-55338

    Efallai dylwn i flogio am enghreifftiau eraill.

    Newydd meddwl am syniad gêm – dyfala’r lle o’r llun. Wrth gwrs mae unrhyw un yn gallu defnyddio’r lluniau heb ofyn. Mae LLAWER o luniau ar y cyfrif Flickr.
    http://www.flickr.com/photos/library_of_congress/tags/wales/

  3. Mae hawlfraint yn bur wahanol yn UDA. Gwrthodon nhw arwyddo Bern am hydoedd. Roedd rhaid cofrestru hawlfraint gyda Llyfrgell y Gyngres (a talu), a’i adnewyddu (a talu eto) yn gyson. Os oedd ffurflen adnewyddu mymryn yn anghywir, neu eiliad yn hwyr, roedd y deunydd yn mynd “I’r parth cyhoeddus”. Mae’n derm hollol dechnegol/cyfreithiol yn UDA (am stwff sydd heb ei gofrestru etc), ac nid yw mewn gwirionedd yn bodoli mewn gwledydd eraill, er bod pobl yn defnyddio’r term am amrywiaeth o bethau (fel arfer pethau sy’n weithiau amddifad). Ers arwyddo Cytundeb Bern, mae hawlfraint yn UDA mewn theori, yn dilyn y drefn ryngwladol, a reolir gan WEPO, ond mae un gwahaniaeth sylweddol iawn. Er bod hawlfraint yn “bodoli” o “enedigaeth” darn o waith, heb ei gofrestru, does dim gobaith caneri i neb herio rhywun sydd wedi dwyn “eiddo deallusol” oni bai ei fod wedi’i gofrestru. Dim ond wrth gofrestru mae sicrwydd o gael iawndal os bydd rhywun yn dwyn ei eiddo deallusol. Felly mae’n bwysig os yw rhywun yn cyhoeddi unrhyw beth yn UDA (llyfr, llun, DVD, rhaglen gyfrifiadur, ac yn y blaen) yn cofrestru’r deunydd, os ydynt am ddiogelu eu hawliau.

    Fedra i ddim siarad ar ran LlGC, ond mae nhw wedi rhyddhau lot o stwff i CC, ac fe fydd y gwaith sydd ar y gweill efo’r papurau newydd ar hyn o bryd yn rhyddhau miloedd ar filoedd ar filoedd o dudalenau o wybodaeth, am ddim, i bawb. Maen nhw’n canolbwyntio yn bennaf ar hwnnw, nid ar ddigido a chlirio deunydd arall, megis ffotograffau a ballu.

    Darganfod a clirio hawliau – nid jest hawlfraint, ond hawliau eraill megis hawliau perchnogaeth, hawliau moesol a hawliau sy’n bodoli mewn cytundebau (h.y. y gost o wneud hynny), yw un o’r meini tramgwydd mwya i ryddhau deunydd o archifau yn Ewrop. Mae’n “issue” anferth, rwyf wedi cyfeirio ato ar fy mlog peth wmbreth o weithiau, ac mae “Ewrop” yn ceisio dod i drefn newydd ar draws yr EU. Mae sawl “ymgynghoriau cyhoeddus” wedi bod ar y mater, ac mae cyfle o hyd, dw i’n meddwl, i ddinasyddion Ewrop leisio eu barn drwy’r pyrth hynny.

    Mae Adroddiad Hargreaves yn mynd mymrym i’r cyfeiriad cywir, ond wrth gwrs mae cwmniau ac ati yn benwan am hyd yn oed y gwelliant sydd ar fin cael ei dderbyn gan llywodraeth Prydain.

    Mae llefydd fel LLyfrgell y Gyngres yn gallu bod yn hael; yn anffodus mae archifau y DU gyfunol yn gymharol dlawd, rhai yn dlawd iawn, a tydyn nhw ddim yn gallu fforddio bod yn hael bellach, ac yn sicr fedran nhw ddim fforddio cael eu siwio.

    Tydi’r systemau hawlfraint ddim yn gweithio’n iawn yn yr oes ddigidol, does dim amheuaeth. Mae archifau yn gorfod gweithio y tu mewn i’r gyfraith, tra bod unigolion yn gallu torri hawlfraint bron fel lecian nhw, heb gosb.

    Hwyl

    Iestyn

  4. I fod yn deg dw i newydd ffeindio lluniau o’r archif LlGC yn y parth cyhoeddus. Cofnod nesaf.

    Fedra i ddim siarad ar ran LlGC, ond mae nhw wedi rhyddhau lot o stwff i CC

    Mae CC yn berthnasol i bobol sy’n creu cynnwys. Ond mae’r rhan fwyaf o stwff LlGC yn dod o gasgliadau pobol, sefydliadau Cymru ac ati. Dw i’n edmygu’r gwaith sganio a digido, mae’n wych ond rydyn ni’n methu ei galw ‘creu’. Felly dw i ddim yn gweld perthnasedd CC, heblaw gyda phethau fel fideo a lluniau o ddigwyddiadau LLGc ayyb.

    Mae llefydd fel LLyfrgell y Gyngres yn gallu bod yn hael; yn anffodus mae archifau y DU gyfunol yn gymharol dlawd, rhai yn dlawd iawn, a tydyn nhw ddim yn gallu fforddio bod yn hael bellach

    Anghytuno yn llwyr. Rydyn ni’n siarad am lyfrgelloedd yma a’u rôl/dyletswydd. Rhan bwysig o’r rôl unrhyw lyfrgell ydy cadw a dosbarthu a rhannu. Mae llyfrgell yn wneud mwy o’i waith trwy gyfrannu at ddiwylliant rhydd yng Nghymru a lles y cyhoedd.

    Dw i ddim yn gweld unrhyw broblemau ariannol yn y sefydliad fel rheswm i atal rhyddid i gynnwys Cymru a chynnwys Cymraeg.

    Mae’r cyfleoedd i hyrwyddo Cymru yn bwysicaf, hefyd cyfleoedd i fusnes. e.e os mae’r Lolfa yn gallu manteisio ar luniau o Gymru yn y parth cyhoeddus ac eisiau cyhoeddi llyfr beth yw’r broblem?

  5. Newydd meddwl am syniad gêm – dyfala’r lle o’r llun. Byddai hynny yn wych – rhyw ddeg llun rnagom yn cael ei ddangos ar hap pob tro, ac am y gorau i gael 10/10.

Mae'r sylwadau wedi cau.