Tag Archives: s4c

O’r we i’r teledu a llyfrau

Cefais i sgwrs da heddiw gyda Nwdls am bob math o beth gan gynnwys pethau sydd yn symud o flogiau i lyfrau fel Stuff White People Like (a Sleeveface…). Y cwestiwn oedd, beth yw’r pethau diwylliannol Cymraeg sydd wedi dechrau ar y we ar blogiau, YouTube, Flickr ayyb ac wedi symud i deledu, llyfrau ac [...]

Pethe ar alw

Mae pobol yn gofyn am DVDs o gyfresi fel Pen Talar, Alys a dramau eraill yn eithaf aml. View the story “Pobol yn gofyn am DVD Pen Talar” on Storify Syniad… Pam dydyn nhw (S4C neu’r cwmnïau cynhyrchu) casglu addewidion/pledges i asesu’r alw? e.e. mae angen targed o 600 person i ryddhau Gwaith/Cartref ar DVD. Dwedwch [...]

Santes Dwynwen 404!

Yn anffodus roedd rhaid i rywun dileu dau dolen ar Wikipedia i erthyglau S4C am Santes Dwynwen achos mae’r sianel wedi torri’r dolenni (Dudley a Dechrau Canu). Ydyn ni wedi colli’r erthyglau am byth? Dydd Santes Dwynwen 404 anhapus! Dyw e ddim yn broblem S4C, mae’n broblem i’r diwydiant darlledu yn gyffredinol. (Gweler hefyd: cofnod gan [...]

Gawn ni mewnosod fideos S4C ar ein blogiau/gwefannau?

Gawn ni mewnosod fideos S4C ar ein blogiau/gwefannau? Fideos fel Y Sioe (rhyddha’r gwartheg duon!) a cariad@iaith. Mae’n bosib. Roedd rhaid i mi edrych at y cod a thynnu darn mas. Ond dyw e ddim yn hawdd iawn fel ag y mae ar YouTube/Vimeo ac ati – sdim angen hacio yna. Bydd mwy o help [...]

S4C Calon Cenedl – syniad da iawn ond…

O’r S4C Cynllun Cynnwys 2012, mae syniad da iawn: Mi fyddwn ni’n sefydlu cainc newydd, Calon Cenedl, sef cyfres o raglenni byrion oddeutu tri munud o hyd i’w darlledu am 20.25. Bydd y cynnwys yn cynnig cyfle i ni arddangos holl agweddau o fywyd Cymreig drwy gyfres o bortreadau am ardaloedd, cymunedau a phobol. Gall [...]

Un dymuniad i S4C

O’n i’n gobeithio am ‘chydig mwy yn yr adroddiad S4C am ar-lein a’r we. Un prif her, yn fy marn i, yw’r trawsnewidiad i fodolaeth cyffyrddus ar y we. Dyma beth mae Huw Jones, cadeirydd S4C, wedi colli mas o’r adroddiad blynyddol newydd yn ei chyflwyniad: Roedd 2010 yn flwyddyn gythryblus yn hanes S4C, gan [...]

Trafod technoleg? Methiant cyfryngau prif-ffrwd

Dyma eitem newyddion teledu S4C, gan BBC, gyda sylw gennyf fi: “A fydd yr e-lyfr yn achosi tranc y llyfr papur ac inc?” Gwnaethon nhw defnyddio cyfanswm o 15 eiliad o’r fideo gyda fi. Wrth gwrs dwedais i lot mwy ond dw i’n deall sut mae teledu yn gweithio ac o’n i’n gwybod pwyslais yr [...]

Gwefannau lleol, blodau yn tyfu ym mhob man

Tri dolen heddiw am wefannau lleol (dim trefn penodol): 1. Nodiadau gan Gareth Morlais o’r digwyddiad Talk About Local yng Nghaerdydd ar y blog Hacio’r Iaith – a thrafodaeth gan eraill. (Mae Gareth yn sgwennu BaeColwyn.com sef blog lleol ardderchog.) Dwi’n meddwl bod trio canol rhywbeth mor ddatganoledig a Phapurau Bro mewn uber-safle yn bownd [...]

Rhannu yw’r recordio newydd.

Dim ond meddyliau heddiw. Mae’r rhan fwyaf o bethau yn Gymraeg yn anweledig. Maen nhw yn cysgu mewn archifau. Trafodwch. BBC Recordiau Sain Bando Sidan S4C Fideos o Eisteddfodau Llyfrau Y Gasgen Pethau o’r 1990au a 2000au Ernest (DIWEDDARIAD 26/03/2011) Dylen ni rhyddhau a rhannu nawr. Mae’r arian yn gallu dod hwyrach. 1960au. Arwr yr [...]

Teledu + Twitter + Digwyddiad

Geiriau poblogaidd o’r dydd diwethaf o Umap Cymraeg: Mae rhyw fath o gysylltiad i Cân i Gymru yn 8 o 10 “gair” yma. Dw i’n meddwl bod tri ohonyn nhw yn tagiau: #cig11, #cig2011 a #cig. Bydd un tag cryf iawn yn well na tri tag gwahanol. Dylai sianeli dangos tag “swyddogol” ar y sgrin [...]